Cofnodion:
Roedd Alun Williams, yr
Aelod Cabinet, yn bresennol i gyflwyno
Adroddiad Diogelu
Grŵp Gweithredol Lleol ar y Cyd CYSUR/CWMPAS Chwarter 1 2022-23.
Yn ystod trafodaethau,
amlygwyd y pwyntiau allweddol canlynol:
· Yn Chwarter 1, roedd
gostyngiad yn nifer y cysylltiadau/adroddiadau a dderbyniwyd o'i gymharu â
Chwarter 4 gyda 943 o gysylltiadau/adroddiadau wedi'u derbyn yn Chwarter 1 a
1010 wedi'u derbyn yn Chwarter 4.
· Fodd bynnag, roedd
cynnydd yn nifer y cysylltiadau/adroddiadau a aeth ymlaen i angen cymryd camau
o dan y Gweithdrefnau Amddiffyn Plant, 221 yn Chwarter 1 o'i gymharu â 154 yn
Chwarter 4.
· Canran yr adroddiadau a
aeth ymlaen i Drafodaeth Strategaeth yn y chwarter hwn oedd 23.4% o'i gymharu â
21.8% yn Chwarter 4. Aeth 11.5% o'r rhain ymlaen i ymholiad Adran 47 o'i
gymharu â 6.49% yn Chwarter 4, ac aeth 1.4% ymlaen i Gynhadledd Gychwynnol
Amddiffyn Plant o'i gymharu â 0.99% yn Chwarter 4.
· Cyfanswm y plant a
roddwyd ar y Gofrestr Amddiffyn Plant yn y chwarter hwn yn dilyn Cynhadledd
oedd 12, o'i gymharu â 21 yn y chwarter blaenorol.
· Cyfanswm y plant a
dynnwyd oddi ar y gofrestr oedd 14 o'i gymharu â 12 yn y chwarter blaenorol.
· Cyfanswm yr ymholiadau
Adran 47 a gwblhawyd yn ystod y chwarter hwn oedd 109, cafodd 92 eu cynnal ar y
cyd â'r Heddlu, a chafodd 17 eu cynnal fel Asiantaeth Sengl Gwasanaethau
Cymdeithasol. Yn Chwarter 4 nifer yr ymholiadau Adran 47 a gwblhawyd oedd 65,
cafodd 64 eu cynnal ar y cyd â'r Heddlu.
· Y prif gategori o
gam-drin a arweiniodd at ymholiad Adran 47 yn Chwarter 1 oedd cam-drin
corfforol (47) ac yna cam-drin/camfanteisio'n rhywiol(44), o'i gymharu â
Chwarter 4 lle mai cam-drin corfforol (22) oedd yr ail brif gategori, a
cham-drin/camfanteisio'n rhywiol (29) oedd y prif gategori o gam-drin.
· Y prif ffactorau risg
ar gyfer y 40 o blant oedd ar y Gofrestr Amddiffyn Plant ar 30/06/22 oedd
cam-drin domestig (38), iechyd meddwl rhieni (28), troseddau treisgar oedolion
(28), troseddau treisgar
gan oedolion (27),
rhieni yn camddefnyddio sylweddau/camddefnyddio alcohol (27), a diffyg
cydweithrediad rhieni â'r Cynllun Amddiffyn Plant (17).
· O ran Diogelu Oedolion,
bu gostyngiad yn nifer yr oedolion yr amheuir eu bod mewn perygl o gael eu
cam-drin a/neu eu hesgeuluso, gyda 120 yn Chwarter 4 a 107 yn Chwarter 1, a'r
adroddiadau gwirioneddol a dderbyniwyd oedd 120 yn Chwarter 1 ac 154 yn
Chwarter 4.
· Y categori o gam-drin
yr adroddwyd amdano fwyaf yn ystod y chwarter hwn oedd cam-drin
emosiynol/seicolegol, gyda 58 o adroddiadau yn datgan mai hwn oedd y prif
gategori o gam-drin. Y categori hwn o gam-drin oedd y prif gategori o gam-drin
a adroddwyd yn Chwarter 4 hefyd lle
cafwyd 61 o adroddiadau. Esgeulustod
oedd yr ail brif gategori o
gam-drin a adroddwyd (46), yna cam-drin ariannol (34) a cham-drin
corfforol. Roedd 9 adroddiad o gam-drin rhywiol.
Yn dilyn trafodaeth, cytunodd Aelodau’r Pwyllgor i nodi cynnwys yr
adroddiad a'r lefel o weithgarwch o fewn yr Awdurdod Lleol fel bod trefniadau
llywodraethu’r Awdurdod Lleol a’r asiantaethau sy’n bartneriaid yn cael eu
monitro.
Bu i Aelodau’r Pwyllgor longyfarch Elizabeth Upcott a’i thîm am eu
gwaith caled.
Dogfennau ategol: