Eitem Agenda

Cyfarfod Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Ceredigion a gynhaliwyd ar 20 Medi 2022 a Chynllun Llesiant Lleol Drafft Ceredigion ar gyfer 2023-28.

Cofnodion:

          

3      Cyfarfod Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Ceredigion a gynhaliwyd ar 20 Medi 2022 a Chynllun Llesiant Lleol Drafft Ceredigion ar gyfer 2023-28.

    Daeth Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Bryan Davies, i’r cyfarfod i gyflwyno’r eitem am y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus. Roedd Diana Davies a Naomi McDonagh, y Swyddogion perthnasol hefyd yn bresennol.

 

Esboniodd yr Arweinydd ei bod yn ofynnol, o dan Adran 35 o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, i Awdurdodau Lleol sicrhau bod gan eu Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu y pŵer i graffu ar y penderfyniadau a wneir, neu gamau eraill a gymerir, gan y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus ar gyfer ardal yr Awdurdod Lleol wrth iddo arfer ei swyddogaethau. Roedd adran 39 hefyd yn nodi bod yn rhaid i bob Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus anfon copi o’i Gynllun Llesiant Lleol at Bwyllgor Trosolwg a Chraffu’r Awdurdod Lleol.

 

Roedd y canllawiau statudol ar Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru)      2015 yn ei gwneud yn ofynnol i bob Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus baratoi a chyhoeddi asesiad o gyflwr lles economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol ei ardal heb fod yn hwyrach na blwyddyn cyn iddo gyhoeddi ei Gynllun Llesiant Lleol. Roedd y canllawiau hefyd yn ei gwneud hi’n ofynnol i’r Cynllun Llesiant Lleol gael ei gyhoeddi heb fod yn hwyrach na 12 mis ar ôl pob etholiad llywodraeth leol cyffredin. Cyhoeddodd Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Ceredigion ei Asesiad o Lesiant Lleol ar 4 Mai 2022 ac fe’i cyflwynwyd i’r Pwyllgor hwn ar 15 Mehefin 2022. Bu’r Asesiad o Lesiant Lleol yn allweddol wrth lywio a sefydlu’r pedwar Amcan Llesiant Lleol y cytunwyd arnynt yng nghyfarfod y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus ar 7 Mawrth 2022 ac a gyflwynwyd i’r Pwyllgor hwn ar 15 Mehefin. Esboniodd yr Arweinydd mai’r amcanion hyn fyddai’r sail i Gynllun Llesiant Lleol nesaf Ceredigion a’i bod fel a ganlyn:

1.    Byddwn yn gweithio gyda’n gilydd i sicrhau economi gynaliadwy sydd o fudd i bobl leol ac yn adeiladu ar gryfderau Ceredigion.

2.    Byddwn yn gweithio gyda’n gilydd i leihau anghydraddoldebau yn ein cymunedau ac yn defnyddio atebion cymdeithasol a gwyrdd i wella iechyd corfforol a meddyliol.

3.    Byddwn yn gweithio gyda’n gilydd i ddarparu mentrau datgarboneiddio yng Ngheredigion i ddiogelu a gwella ein hadnoddau naturiol.

4.    Byddwn yn gweithio gyda’n gilydd i alluogi cymunedau i deimlo’n ddiogel ac yn gysylltiedig a byddwn yn hyrwyddo amrywiaeth ddiwylliannol ac yn cynyddu cyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg.

 

           Cytunwyd hefyd y byddai amcan trawsbleidiol i fynd i’r afael â chaledi a thlodi yn cael ei ymgorffori yn y cynllun i adlewyrchu goblygiadau’r argyfwng costau byw yn awr ac yn y dyfodol. Cydnabuwyd y byddai gan hyn y potensial i gael effaith ar draws y pedwar piler lleslles economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol, a byddai gweithio gyda’n gilydd ar draws sefydliadau’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn helpu i gynnal ffocws ar y maes gwaith hwn.

 

Dywedwyd wrth Aelodau’r Pwyllgor fod cynnwys y Cynllun Llesiant Lleol drafft ar gyfer 2023-28 wedi’i ddatblygu drwy arolygon wyneb yn wyneb ac arolygon                   ar-lein, mewnbwn gan Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru a grŵp gorchwyl a gorffen a oedd yn cynnwys cynrychiolwyr o sefydliadau Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Ceredigion.

 

Cymeradwyodd y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gynllun Llesiant Lleol drafft Ceredigion ar gyfer 2023-28 yn y cyfarfod a gynhaliwyd ar 20 Medi, ac yn amodol ar fân newidiadau, byddai ymgynghoriad cyhoeddus yn cael ei gynnal yn ei gylch am 12 wythnos; gan ddechrau ar 7 Tachwedd 2022 a dod i ben ar 29 Ionawr 2023. Byddai’r ymatebion a dderbynnir yn ystod yr ymgynghoriad cyhoeddus yn cael eu hystyried a byddent yn cyfrannu at Gynllun Llesiant Lleol terfynol Ceredigion, a fyddai’n cael ei gyflwyno i’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn y cyfarfod ym mis Mawrth 2023. Byddai’n ofynnol wedyn i’r holl sefydliadau sy’n aelodau o’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus gymeradwyo’r cynllun drwy eu trefniadau llywodraethu arferol cyn y gallai’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus roi cymeradwyaeth derfynol i gyhoeddi’r cynllun ym mis Ebrill 2023.

 

Dywedodd y swyddogion mai hwn wedyn fyddai’r prif gynllun gwaith a ffocws  Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Ceredigion yn y dyfodol ac y byddai’r Pwyllgor Craffu hwn yn craffu ar ei berfformiad.

 

           Hefyd, cyflwynwyd cofnodion cyfarfod Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Ceredigion a gynhaliwyd ar 20 Medi 2022 gerbron y Pwyllgor.

 

           Yn ystod y drafodaeth, codwyd y pwyntiau canlynol:

·       Wrth ymateb i gwestiwn am yrHybiau Cynnes’, cadarnhawyd bod Cynllun Grantiau Cymunedol yn bodoli a gallai sefydliadau gwirfoddol nad oeddent yn gwneud elw ymgeisio am y grantiau hyn a chofrestru eu diddordeb mewn agor hybiau cynnes er budd pobl eraill yn y sir. Byddai modd defnyddio nifer o neuaddau pentref at y diben hwn. Roedd grŵp gorchwyl a gorffen yr hybiau cynnes wedi’i sefydlu drwy Is-grŵp Tlodi’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus ac roedd y grŵp yn adrodd yn ôl i’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus drwy’r Is-grŵp Tlodi. 

·       Wrth ymateb i gwestiwn, cadarnhawyd y byddai gwaith i hybu ac annog cyfraniadau yn cael ei wneud yn ystod 12 wythnos yr ymgynghoriad.

·       Wrth ymateb i gwestiwn, cadarnhaodd yr Arweinydd ei fod yn fodlon fod yr holl sefydliadau yn cael eu cynrychioli’n briodol yng nghyfarfodydd y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus.

·       Wrth ymateb i gwestiwn, dywedodd Naomi McDonagh wrth yr Aelodau fod Rhwydwaith Cyd-gynhyrchu Cymru yn gweithio gyda Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Ceredigion ynghyd â Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus Sir Benfro a Sir Gaerfyrddin fel rhan o glwstwr gorllewin Cymru i gynorthwyo’r Byrddau â’u gweithgareddau ymgysylltu. Nodwyd bod ymgysylltu yn rhan allweddol o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a chyfeiriodd Naomi at enghraifft lle’r oeddent wedi cynorthwyo â’r gwaith o gynllunio gweithdy ar gyfer disgyblion ysgol fel rhan o’r ymgynghoriad. Cynorthwywyd ag elfennau eraill hefyd wrth gyfrannu at y broses.

·       Yn dilyn cwestiwn, cadarnhawyd bod Ceredigion ar y trywydd cywir ac mai’r disgwyl oedd y byddai’r ddogfen yn cael ei chyhoeddi ym mis Mai 2023.

 

Yn dilyn trafodaeth, gofynnwyd i Aelodau’r Pwyllgor ystyried yr argymhellion canlynol:

 

i.               Derbyn cofnodion drafft cyfarfod Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Ceredigion a gynhaliwyd ar 20 Medi 2022

 

ii.              Derbyn fersiwn drafft Cynllun Llesiant Lleol Ceredigion ar gyfer 2023-28 ac ystyried pa adborth, os o gwbl, yr hoffai’r Pwyllgor Cydlynu Trosolwg a Chraffu ei roi yn rhan o’r ymgynghoriad presennol ar y Cynllun.

           

             Cytunodd yr Aelodau i dderbyn y ddau argymhelliad er mwyn cyflawni eu rôl o gadw golwg ar effeithiolrwydd cyffredinol y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus.

 

             Diolchodd y Cadeirydd i’r Arweinydd a’r Swyddogion am gyflwyno’r wybodaeth ac am ateb pob cwestiwn.

 

Dogfennau ategol: