Cofnodion:
3
Adroddiad monitro’r Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2021-22
Croesawyd y Cynghorydd
Catrin MS Davies, Aelod Cabinet a Cathryn Morgan i gyflwyno adroddiad
monitro’r Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2021-22.
Roedd Deddf Cydraddoldeb 2010 yn rhoi dyletswydd ar Awdurdodau Lleol
i ystyried anghenion pob unigolyn
yn ein gwaith
bob dydd. Roedd y Ddeddf yn cynnwys
Dyletswyddau Cydraddoldeb
Sector Cyhoeddus Penodol i Gymru a oedd
yn ei gwneud
hi’n ofynnol i’r Cyngor bennu
Amcanion Llesiant mewn Cynllun Cydraddoldeb
Strategol, ac roedd yn rhaid adolygu’r
cynllun bob pedair blynedd.
Rhoddir sylw i’r modd y caiff
y Gymraeg ei hybu a’i defnyddio
ym Mesur y Gymraeg 2011, yn hytrach na’r Ddeddf
Cydraddoldeb. Fodd bynnag, roeddem yn ystyried gofynion
y Gymraeg ochr yn ochr â nodweddion
gwarchodedig y Ddeddf Cydraddoldeb er mwyn hyrwyddo dull cyfannol.
Roedd cynllun gweithredu’n sicrhau bod Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2020-24 y Cyngor yn cael ei
gyflawni, ac roedd wedi’i rannu i
5 Amcan Cydraddoldeb.
Dywedwyd mai hwn oedd yr
ail adroddiad blynyddol ynghylch y cynnydd a wnaed o ran Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2020-
2024. Roedd y system lliwiau
BRAG yn dangos pa mor dda yr
oedd y camau gweithredu’n perfformio neu’n cael eu
cyflawni, o gymharu â’r llynedd.
Tynnwyd sylw at y pwyntiau canlynol:
• Cyflwynwyd asesiad risg beichiogrwydd diwygiedig. Roedd yr asesiad risg
bellach yn adlewyrchu’n well canllawiau presennol Iechyd Cyhoeddus Cymru ynghylch pobl feichiog
yn y gweithle.
• Roedd y tîm Cydlyniant Cymunedol rhanbarthol yn parhau i weithio
gyda phartneriaid i annog pobl
i godi ymwybyddiaeth
am droseddau casineb ac i adrodd am unrhyw
achosion. Cynhaliwyd digwyddiadau ac ymgyrchoedd codi ymwybyddiaeth i fynd i’r
afael â throseddau casineb, gan gynnwys
Wythnos Ymwybyddiaeth o Droseddau Casineb, digwyddiad ‘Golau Glas’ ar gyfer
ffoaduriaid, Sesiynau Peilot Casineb Ar-lein a Hyfforddiant Small
Steps ynghylch yr Asgell Dde.
• Etholwyd Lloyd Warburton, disgybl
yn Ysgol Penglais, fel yr Aelod
newydd o Senedd Ieuenctid
Cymru dros Geredigion ac roedd hefyd yn
aelod gweithgar o Gyngor Ieuenctid Ceredigion.
• Bu’r Gofrestr Tai Hygyrch a’r Polisi Tai Hygyrch ar waith
ers mis Mehefin 2016. O ganlyniad, roedd nifer y bobl a ddefnyddiai’r gofrestr tai hygyrch ac a dderbyniai gynigion yn dilyn
hynny yn parhau i gynyddu.
• Roedd perfformiad disgyblion Anghenion Addysgol Arbennig / Anghenion Dysgu Ychwanegol Ceredigion yn dda. Cafwyd cynnydd
yn nifer y disgyblion a oedd
wedi cael diagnosis o awtistiaeth ddifrifol
yn y blynyddoedd cynnar, a’r disgyblion
oedd ag anghenion cymhleth.
• Roedd pandemig COVID-19 wedi cael effaith
mawr ar y cynnydd yr oedd dysgwyr sydd â Saesneg fel Iaith Ychwanegol yn ei wneud,
er ein bod ni wedi mynd y tu
hwnt i’r targedau: 9.5% o ddisgyblion wedi symud i fyny
lefel (targed = 5%). 3.4% wedi gwneud cynnydd
o 2 lefel neu fwy (targed = 1%). 77.7% o ddisgyblion sydd â Saesneg fel Iaith Ychwanegol ar god
C-E. O’r rhain roedd 56.9% yn gymwys (D) neu’n rhugl (E).
Yn dilyn trafodaeth, cytunodd yr Aelodau i
dderbyn Adroddiad Monitro Cynllun Cydraddoldeb Strategol y Cyngor ar gyfer
2021-22, gan argymell bod y
Cabinet yn cymeradwyo’r adroddiad ar 6 Rhagfyr 2022.
Dogfennau ategol: