Eitem Agenda

Dyletswydd Cyfamod y Lluoedd Arfog, fel y'i nodwyd yn Neddf y Lluoedd Arfog 2021

Cofnodion:

Croesawyd y Cynghorydd Paul Hinge, yr Aelod Eiriolwr dros y Lluoedd Arfog i gyflwyno’r adroddiad. Roedd y Cynghorydd Matthew Vaux, Aelod Cabinet, wedi ymddiheuro am na fedrai fod yn bresennol yn y cyfarfod.

 

Dywedodd y Cynghorydd Hinge wrth y Pwyllgor, yn sgil cymal 8 Deddf Lluoedd Arfog 2021, fod gofyniad newydd ar rai cyrff cyhoeddus, gan gynnwys Awdurdodau Lleol, i roi sylw dyladwy i egwyddorion Cyfamod y Lluoedd Arfog. Ychwanegodd y byddai angen i’r Cyngor gydymffurfio â’r gyfraith newydd a ddaeth i rym ar 22 Tachwedd 2022. Y swyddogaethau a oedd yn berthnasol i’r cyngor o ran y ddeddf hon oedd tai, addysg a’r gwasanaethau cyffuriau ac alcohol.

 

               Roedd Deddf y Lluoedd Arfog 2021 yn ymgorffori Cyfamod y Lluoedd Arfog yn gyfraith ac roedd hyn yn gosod rhwymedigaeth gyfreithiol ar gyrff cyhoeddus i sicrhau nad oedd aelodau’r lluoedd arfog, milwyr wrth gefn a’u teuluoedd dan anfantais pan fyddent yn defnyddio gwasanaethau cyhoeddus. Derbyniodd Deddf y Lluoedd Arfog 2021 Gydsyniad Brenhinol ar 15 Rhagfyr 2021.

 

Cyflwynwyd y Canllawiau Statudol drafft ynghylch Dyletswydd Cyfamod y Lluoedd Arfog gerbron Senedd y Deyrnas Unedig ym mis Gorffennaf 2022.

 

               Cafodd y Pwyllgor wybod am y sefyllfa bresennol. Wrth gyflawni ei ymrwymiadau presennol, roedd y Cyngor yn rhoi sylw dyladwy i ofynion Cymuned y Lluoedd Arfog, ac roedd wedi ceisio adeiladu'n gadarnhaol ar ei ymrwymiad ers gwneud ei addewid cychwynnol. Roedd hyn wedi arwain at wneud gwelliannau uniongyrchol i bolisïau'r Cyngor fel rhan o'i ymrwymiad i'r Cyfamod. Roedd hyn i’w weld yn glir yn y polisi cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith a oedd yn cefnogi opsiynau gweithio hyblyg. Roedd y polisi hwn hefyd yn cydnabod yr angen clir i aelodau’r lluoedd arfog a milwyr wrth gefn gael cyfnodau awdurdodedig ychwanegol o absenoldeb i gefnogi eu hymrwymiadau ychwanegol. Rhoddodd y Cynghorydd Hinge ddwy enghraifft ardderchog o sefyllfaoedd lle’r oedd yr Awdurdod wedi cefnogi milwyr wrth gefn a’u teuluoedd yn ddiweddar.

 

Hefyd, trwy ddarparu swyddogaeth ysgrifenyddiaeth, roedd Cyngor Sir Ceredigion wedi arwain y gwaith o sefydlu Fforwm Cymunedol Lluoedd Arfog Ceredigion a oedd yn gweithio gydag amrywiaeth eang o bartneriaid i godi proffil Cymuned y Lluoedd Arfog yn barhaus. Trwy ymyriadau uniongyrchol a gweithio mewn partneriaeth, roedd Cyngor Sir Ceredigion wedi cadarnhau ei ymrwymiad i Gynllun Cydnabod Cyflogwyr y Weinyddiaeth Amddiffyn ac roedd y gwaith cadarnhaol hwn wedi cael ei gydnabod gan Wobrau Arian ac Efydd.

Yn ogystal â'r uchod, roedd trefniadau ar y gweill i hyrwyddo hyfforddiant ac ymwybyddiaeth ychwanegol drwy gyrsiau ar-lein a fyddai’n paratoi’r gwasanaethau ar gyfer y ddeddfwriaeth hon. Byddai hyn yn cael ei hyrwyddo drwy’r Tîm Dysgu a Datblygu. Byddai adolygu polisïau Addysg a Thai y Cyngor hefyd yn cael ei ystyried er mwyn sicrhau eu bod yn gyson â Chyfamod y Lluoedd Arfog. Byddai’r Canllawiau Statudol yn cael eu hystyried ynghyd ag enghreifftiau o gyngor ac arferion da. Byddai’r Cyngor yn defnyddio’r rhain i wella'r ddarpariaeth ymhellach ac i sicrhau ein bod yn cydymffurfio â’r ddeddfwriaeth.

 

              CAMAU ARFAETHEDIG

  Yn ogystal â'r gwaith yr oedd y Cyngor eisoes yn ei wneud, cynigiwyd y byddai’r camau ychwanegol canlynol yn cael eu cymryd wrth baratoi ar gyfer y ddyletswydd:

·       Archwilio cyfleoedd i wella’r prosesau a ddefnyddir gan y gwasanaethau i gasglu data. Byddai Swyddog Cyswllt Rhanbarthol y Lluoedd Arfog yn darparu cyngor am y categorïau y byddai angen i’r gwasanaethau unigol eu defnyddio.

 

                Yn ystod y drafodaeth, nodwyd y pwyntiau canlynol:

·       Roedd cyllid grant ar gael i blant (hyd at £2,000 y plentyn) yn ddibynnol ar anghenion.

·       Byddai gweithwyr ac aelodau etholedig yn cael eu hannog i wneud trefniadau ar CERINET i fynd i’r sesiynau codi ymwybyddiaeth am Gyfamod y Lluoedd Arfog.

 

Yn dilyn trafodaeth, cytunodd Aelodau’r Pwyllgor i nodi’r rhwymedigaethau a oedd wedi’u cynnwys yn Neddf y Lluoedd Arfog 2021.     

 

Dogfennau ategol: