Cyfeirnod tudalen
|
Ymholiad/Diwygiad
|
Tudalen 7
|
Wedi diwygio’r
diagram a manylion gweinyddiaeth wleidyddol Cyngor Sir Ceredigion gan
gynnwys canlyniadau is-etholiad Llanbedr Pont Steffan.
|
Tudalen 12
Colofn 2
|
Wedi cynnwys
diweddariad ar y ffigurau band eang ar gyfer Ceredigion: “Mae lobïo sylweddol gan Gyngor Sir Ceredigion ac eraill
wedi arwain at ddarpariaeth o 31.8% o fand eang ffeibr llawn gan roi
gallu dros 100 Mbps. Mae'r lawrlwythiad cyfartalog ar gyfer y sir gyfan o 79mbps ar hyn o bryd
yn un o'r lefelau uchaf ar gyfer awdurdod
lleol gwledig”.
|
Tudalen 13*
Colofn 1
Rhes 1
|
Wedi dileu’r dyblygu
ar y camau gweithredu sy’n ymwneud â gwaith amddiffyn arfordirol. Y derminoleg y cytunwyd arni yw
“cwblhau’r gwaith”.
|
Tudalen 17
Bwled 1
|
Wedi diwygio’r
derminoleg. Mae’r uchelgais yn darllen fel a ganlyn yn awr: “Darparu ar
gyfer anghenion gofal ein poblogaeth”
|
Tudalen 17
Bwled 7
|
Wedi rhoi’r geiriad
“Croesawu a chefnogi adsefydlu ffoaduriaid”.
|
Tudalen 17
Troednodyn
|
Wedi ychwanegu
troednodyn i egluro rôl Cysylltwyr Cymunedol.
|
Tudalen 18 Colofn 3
Paragraff 3
|
Wedi addasu’r
derminoleg. Mae’r cymal yn awr yn darllen “darparu ar gyfer anghenion
gofal”
|
Tudalen 19 Colofn 2
Rhes 9
|
Wedi rhoi’r geiriad:
“Byddwn yn parhau i chwarae rhan flaenllaw wrth helpu ffoaduriaid a’u
hailsefydlu yn ein cymunedau”.
|
Tudalen 19
Colofn 2
Rhes 10
|
Ar ôl ystyried y camau
i gyflenwi’r Amcan Creu Cymunedau Gofalgar ac Iach, nodwyd ac ychwanegwyd
cam arall:
“Cefnogi cydlyniad
cymunedol yng Ngheredigion”
|
Tudalen 20
Colofn 2
Rhes 6
|
Ar ôl ystyried y
camau i gyflenwi’r Amcan Creu Cymunedau Gofalgar ac Iach, nodwyd ac ychwanegwyd
cam arall:
“Ymateb rhagweithiol
a chadarn i argyfyngau sifil posibl:
·
Brwydro yn erbyn
lledaeniad clefydau trosglwyddadwy
·
Paratoi ar gyfer, ac
ymateb i, argyfyngau sifil
|
Tudalen 20*
Rhes olaf
|
Wedi ychwanegu eglurhad
ar rôl Cysylltwyr Cymunedol er eglurder.
|
Tudalen 29
Bwled 5
|
Cyfeirir at
“Ddarbwyllo pobl i beidio â pherchen ar ail gartrefi yn y sir” ym
maniffesto Plaid Cymru:
“Byddwn
yn blaenoriaethu camau gweithredu i leihau ail dai yn y sir. Yn benodol, byddwn yn ymgyrchu dros newid y Ddeddf Gynllunio i sicrhau y bydd angen cael caniatâd cynllunio cyn troi cartref
preswyl yn gartref gwyliau neu dŷ gwyliau ar osod. Yn
unol â'r Cytundeb Cydweithredu rhwng Plaid Cymru a Llywodraeth
Cymru byddwn yn cefnogi'r defnydd o'r systemau cynllunio, eiddo a threthiant er mwyn delio â'r broblem.”
Efallai y bydd yr
Aelodau am wneud argymhelliad i’r Cabinet i ddiwygio’r cam hwn os oes
angen.
|
Tudalen 29
Bwled 7
|
Wedi cywiro’r
geiriad - “Annog cadw enwau lleoedd Cymraeg”.
|
Tudalen 29
Bwled 8
|
Wedi diwygio’r
uchelgais ar dudalen 29 sy’n ymwneud â mater ffosffadau:
“Rydym wedi cydnabod
difrifoldeb y mater sy’n gysylltiedig â lefelau ffosffadau ar hyd Dyffryn
Teifi yn y Gofrestr Risg Gorfforaethol.
Gwneir pob ymdrech drwy’r Bwrdd Rheoli Maetholion i ddod o hyd i
atebion cynnar i’r broblem.”
|
Tudalen 31*
Colofn 1
Rhes 9
|
Wedi diwygio’r cam sy’n
ymwneud â llifogydd i gynnwys Llanybydder, Llandysul ac aneddiadau eraill
ar hyd Dyffryn Teifi:
“Gweithio gyda’r holl asiantaethau perthnasol i ddod o hyd i atebion i lifogydd yn Llanybydder, Llandysul ac aneddiadau
eraill ar hyd Dyffryn Teifi, gyda Chyfoeth Naturiol Cymru yn arwain ar
ymyrraeth yn eu rôl fel
rheolwyr perygl llifogydd ar gyfer prif afonydd”.
|
Tudalen 31
Colofn 1
Rhes 10
|
Wedi cywiro’r
geiriad - “Annog cadw enwau tai a lleoedd Cymraeg”.
|
Tudalen 33
Colofn 1
Rhes 6
|
Ar ôl ystyried y
camau i gyflenwi’r Amcan Creu Cymunedau Gofalgar ac Iach, nodwyd ac
ychwanegwyd cam arall:
“Monitro ansawdd aer
yng Ngheredigion a pharhau i gymharu ag amcanion a safonau cenedlaethol”
|
Tudalen 34*
Rhes olaf
|
Wedi rhoi eglurhad ar
rôl Cysylltwyr Cymunedol er eglurder
|
Adroddiad Adborth yr Ymgynghoriad
|
Cyfeirnod tudalen
|
Ymholiad/diwygiad
|
Tudalen 11*
|
Gofynnodd Aelod
faint o ymatebion Cymraeg a gafwyd i’r ymgynghoriad?
Roedd 51 ymateb i gyd,
3 yn Gymraeg a 48 yn Saesneg.
|
Tudalen 11*
|
Cyfeiriodd Aelod at
Adroddiad Adborth yr Ymgynghoriad, tudalen 11, Cwestiynau Monitro
Cydraddoldeb, sef bod cyfanswm yr ymatebion yn 35 (ar 23 Medi) ond nad yw’r
ffigurau yn rhoi cyfanswm o 35.
Mae pob siart yn yr
adran Monitro Cydraddoldeb yn awr yn dangos y nifer o gwestiynau na chafodd
eu hateb ac yn rhoi cyfanswm o 51 ymateb. Mae hyn ar dudalennau 12-15
fersiwn Gymraeg yr adroddiad a thudalennau 11-15 y fersiwn Saesneg.
Mae un eithriad, sef
Cwestiwn 24 sy’n ymwneud â Iaith - Ydych chi’n gallu deall, siarad, darllen
neu ysgrifennu’n Gymraeg? Mae hyn am fod ymatebwyr yn gallu dewis sawl
ateb.
|