Eitem Agenda

Strategaeth Gorfforaethol Ddrafft 2022-27

Cofnodion:

Bu i’r Pwyllgor ailgynnull fel y cytunwyd i ystyried y materion a godwyd yn y cyfarfod o’r Pwyllgor a gynhaliwyd 14eg Hydref 2022 – nodir diwygiadau/ymholiadau yn y tabl isod:

 

 

Cyfeirnod tudalen

Ymholiad/Diwygiad

Tudalen 7

Wedi diwygio’r diagram a manylion gweinyddiaeth wleidyddol Cyngor Sir Ceredigion gan gynnwys canlyniadau is-etholiad Llanbedr Pont Steffan.

Tudalen 12

Colofn 2

Wedi cynnwys diweddariad ar y ffigurau band eang ar gyfer Ceredigion: “Mae lobïo sylweddol gan Gyngor Sir Ceredigion ac eraill wedi arwain at ddarpariaeth o 31.8% o fand eang ffeibr llawn gan roi gallu dros 100 Mbps. Mae'r lawrlwythiad cyfartalog ar gyfer y sir gyfan o 79mbps ar hyn o bryd yn un o'r lefelau uchaf ar gyfer awdurdod lleol gwledig”.

Tudalen 13*

Colofn 1

Rhes 1

Wedi dileu’r dyblygu ar y camau gweithredu sy’n ymwneud â gwaith amddiffyn arfordirol.  Y derminoleg y cytunwyd arni yw “cwblhau’r gwaith”.

Tudalen 17

Bwled 1

Wedi diwygio’r derminoleg. Mae’r uchelgais yn darllen fel a ganlyn yn awr: “Darparu ar gyfer anghenion gofal ein poblogaeth”

Tudalen 17

Bwled 7

Wedi rhoi’r geiriad “Croesawu a chefnogi adsefydlu ffoaduriaid”.

Tudalen 17

Troednodyn

Wedi ychwanegu troednodyn i egluro rôl Cysylltwyr Cymunedol.

Tudalen 18 Colofn 3

Paragraff 3

Wedi addasu’r derminoleg. Mae’r cymal yn awr yn darllen “darparu ar gyfer anghenion gofal”

Tudalen 19 Colofn 2

Rhes 9

Wedi rhoi’r geiriad: “Byddwn yn parhau i chwarae rhan flaenllaw wrth helpu ffoaduriaid a’u hailsefydlu yn ein cymunedau”.

Tudalen 19

Colofn 2

Rhes 10

Ar ôl ystyried y camau i gyflenwi’r Amcan Creu Cymunedau Gofalgar ac Iach, nodwyd ac ychwanegwyd cam arall:

“Cefnogi cydlyniad cymunedol yng Ngheredigion”

Tudalen 20

Colofn 2

Rhes 6

Ar ôl ystyried y camau i gyflenwi’r Amcan Creu Cymunedau Gofalgar ac Iach, nodwyd ac ychwanegwyd cam arall:

“Ymateb rhagweithiol a chadarn i argyfyngau sifil posibl:

·       Brwydro yn erbyn lledaeniad clefydau trosglwyddadwy 

·       Paratoi ar gyfer, ac ymateb i, argyfyngau sifil

Tudalen 20*

Rhes olaf

Wedi ychwanegu eglurhad ar rôl Cysylltwyr Cymunedol er eglurder.

Tudalen 29

Bwled 5

Cyfeirir at “Ddarbwyllo pobl i beidio â pherchen ar ail gartrefi yn y sir” ym maniffesto Plaid Cymru:

 

Byddwn yn blaenoriaethu camau gweithredu i leihau ail dai yn y sir. Yn benodol, byddwn yn ymgyrchu dros newid y Ddeddf Gynllunio i sicrhau y bydd angen cael caniatâd cynllunio cyn troi cartref preswyl yn gartref gwyliau neu gwyliau ar osod. Yn unol â'r Cytundeb Cydweithredu rhwng Plaid Cymru a Llywodraeth Cymru byddwn yn cefnogi'r defnydd o'r systemau cynllunio, eiddo a threthiant er mwyn delio â'r broblem.”

 

Efallai y bydd yr Aelodau am wneud argymhelliad i’r Cabinet i ddiwygio’r cam hwn os oes angen.  

Tudalen 29

Bwled 7

Wedi cywiro’r geiriad - “Annog cadw enwau lleoedd Cymraeg”.

Tudalen 29

Bwled 8

Wedi diwygio’r uchelgais ar dudalen 29 sy’n ymwneud â mater ffosffadau:

“Rydym wedi cydnabod difrifoldeb y mater sy’n gysylltiedig â lefelau ffosffadau ar hyd Dyffryn Teifi yn y Gofrestr Risg Gorfforaethol.  Gwneir pob ymdrech drwy’r Bwrdd Rheoli Maetholion i ddod o hyd i atebion cynnar i’r broblem.”

Tudalen 31*

Colofn 1

Rhes 9

Wedi diwygio’r cam sy’n ymwneud â llifogydd i gynnwys Llanybydder, Llandysul ac aneddiadau eraill ar hyd Dyffryn Teifi:

Gweithio gyda’r holl asiantaethau perthnasol i ddod o hyd i atebion i lifogydd yn Llanybydder, Llandysul ac aneddiadau eraill ar hyd Dyffryn Teifi, gyda Chyfoeth Naturiol Cymru yn arwain ar ymyrraeth yn eu rôl fel rheolwyr perygl llifogydd ar gyfer prif afonydd”.

Tudalen 31

Colofn 1

Rhes 10

Wedi cywiro’r geiriad - “Annog cadw enwau tai a lleoedd Cymraeg”.

Tudalen 33

Colofn 1

Rhes 6

Ar ôl ystyried y camau i gyflenwi’r Amcan Creu Cymunedau Gofalgar ac Iach, nodwyd ac ychwanegwyd cam arall:

“Monitro ansawdd aer yng Ngheredigion a pharhau i gymharu ag amcanion a safonau cenedlaethol”

Tudalen 34*

Rhes olaf

Wedi rhoi eglurhad ar rôl Cysylltwyr Cymunedol er eglurder

Adroddiad Adborth yr Ymgynghoriad

Cyfeirnod tudalen

Ymholiad/diwygiad

Tudalen 11*

Gofynnodd Aelod faint o ymatebion Cymraeg a gafwyd i’r ymgynghoriad?

Roedd 51 ymateb i gyd, 3 yn Gymraeg a 48 yn Saesneg.

Tudalen 11*

Cyfeiriodd Aelod at Adroddiad Adborth yr Ymgynghoriad, tudalen 11, Cwestiynau Monitro Cydraddoldeb, sef bod cyfanswm yr ymatebion yn 35 (ar 23 Medi) ond nad yw’r ffigurau yn rhoi cyfanswm o 35.

 

Mae pob siart yn yr adran Monitro Cydraddoldeb yn awr yn dangos y nifer o gwestiynau na chafodd eu hateb ac yn rhoi cyfanswm o 51 ymateb. Mae hyn ar dudalennau 12-15 fersiwn Gymraeg yr adroddiad a thudalennau 11-15 y fersiwn Saesneg.

Mae un eithriad, sef Cwestiwn 24 sy’n ymwneud â Iaith - Ydych chi’n gallu deall, siarad, darllen neu ysgrifennu’n Gymraeg? Mae hyn am fod ymatebwyr yn gallu dewis sawl ateb.

 

*Mae’n nodi materion penodol a godwyd yn y Pwyllgor Cydlynu Trosolwg a Chraffu a gynhaliwyd 14/10/2022

Yn dilyn trafodaeth, gofynnwyd i Aelodau’r Pwyllgor ystyried yr argymhelliad a ganlyn:

 

  • Bod yr Aelodau’n ystyried ac yn cytuno ar Strategaeth Gorfforaethol ddrafft 2022-2027 gan gynnwys yr Amcanion Llesiant Corfforaethol cyn i’r Cabinet a’r Cyngor ei hystyried.

 

Yn dilyn trafodaeth ac ystyriaeth o’r ymholiadau a’r diwygiadau uchod, cytunodd Aelodau’r Pwyllgor i argymell i’r Cabinet gymeradwyo Strategaeth Gorfforaethol ddrafft 2022-2027, gan gynnwys yr Amcanion Llesiant Corfforaethol, yn amodol ar ystyried yr argymhelliad a ganlyn:

 

Newid pwynt bwled 5 ar dudalen 29 (a nodir yn y tabl uchod) gyda’r canlynol:

Byddwn yn parhau i fynd i’r afael â materion ail gartrefi, perchnogaeth cartrefi gwyliau a throi adeiladau preswyl yn llety gwyliau drwy ofyn am gefnogaeth Llywodraeth Cymru i gyflwyno deddfwriaeth o dan y Ddeddf Gynllunio a’r Gwasanaeth Trethi”.

Diolch y Cadeirydd i Rob Starr yn arbennig ac i’w dîm am eu hymatebion ac am egluro’r materion a godwyd.

 

Dogfennau ategol: