Cofnodion:
Dywedodd y
Cynghorydd Keith Henson, yr Aelod Cabinet, mai diben yr adroddiad oedd rhoi diweddariad ar y cynnydd a wnaed o ran y camau a
oedd wedi’u nodi yn y Cynllun Gweithredu Sero Net. Cyfeiriwyd at y cefndir fel
yr amlinellwyd yn yr adroddiad.
Esboniodd Bethan Lloyd Davies fod adroddiadau yn cael eu
paratoi fel rhan o’r Cynllun Rheoli Carbon ers 2017/18. Yn 2021/22, roedd
ffynonellau ychwanegol ar gyfer allyriadau wedi cael eu hychwanegu ac felly
roedd angen gwneud llawer o waith cyn adrodd ar yr allyriadau yn y dyfodol.
Rhoddwyd
y cyfle i’r Aelodau ofyn cwestiynau. Atebwyd y cwestiynau hyn gan Bethan Lloyd
Davies a Rhodri Llwyd. Roedd y prif bwyntiau a godwyd fel a ganlyn:
·
Cododd yr Aelodau bryderon nad oedd gan y grid
ddigon o gapasiti i wasanaethu’r sir a
chefnogi ymrwymiad yr Awdurdod i fod yn Sero Net erbyn 2030. Dywedwyd bod y
mater hwn yn cael ei godi’n aml mewn cyfarfodydd a bod awdurdodau cyfagos yn ei
godi hefyd. Roedd National Grid a Scottish Power yn eistedd ar fyrddau a oedd
yn llunio cynlluniau ynni lleol. Serch hynny, prin oedd eu cyllidebau a byddent
yn buddsoddi yn y mannau lle ystyrir bod angen gwneud hynny.
·
Er bod gweithwyr yn teithio llai i’r gwaith am eu
bod yn gweithio gartref, codwyd pryderon y byddai angen gwresogi mwy o gartrefi
yn ystod y dydd yn nhymor y gaeaf. Dywedwyd bod yr allyriadau o weithio gartref
yn cael eu hystyried yn Adroddiadau Allyriadau Llywodraeth Cymru.
·
Roedd y trydan a oedd yn dod o’r paneli solar a
osodwyd ar adeiladau’r Cyngor yn cael ei ddefnyddio gan yr adeiladau yn y lle
cyntaf ac roedd gweddill y trydan yn cael ei anfon i’r grid. Os oedd yna daliad
Tariff Cyflenwi Trydan ynghlwm, roedd y taliadau’n cael eu gwneud yn ganolog
i’r awdurdod. Yn gyffredinol, roedd yn cymryd 10 mlynedd i adennill yr arian a
fuddsoddwyd ynddo.
·
Roedd Llywodraeth Cymru wedi cynnal adolygiad
rheoli tir ynghylch Canolfan Rheidol ac Ysgol Bro Teifi; nid oedd y
canfyddiadau wedi dod i law hyd yma. Byddai ystyriaeth yn cael ei rhoi maes o
law i fatris er mwyn storio’r ynni a oedd dros ben.
·
Nodwyd bod y bwriad o ddod yn Sero Net erbyn 2030
yn uchelgeisiol o ystyried y sefyllfa ariannol. Ar hyn o bryd, ni fyddai
Llywodraeth Cymru yn cosbi’r awdurdod am beidio â chyrraedd Sero Net erbyn
2030, ond dyma oedd yr amcan yn genedlaethol ar gyfer cyrff yn y sector
cyhoeddus.
·
O ran fflyd yr awdurdod, byddai’r posibilrwydd o
drosi’r cerbydau i rai a oedd yn defnyddio Olew Llysiau wedi’i drin â dŵr (HVO),
a oedd yn ddrutach, yn cael ei archwilio ynghyd â hydrogen. Nodwyd bod HVO 20%
yn well na disel ar y cyfan ond fel yr oedd pethau, o ddefnyddio methodoleg
Llywodraeth Cymru, byddai hyn yn arwain at welliant bach yn y ffigurau yn unig.
·
Dywedwyd y byddai plannu coed yn cael ei ystyried
yn yr hirdymor i wrthbwyso carbon ac am bob coeden a fyddai’n cael ei dorri ar
dir yr oedd y Cyngor yn berchen arno oherwydd Gwywiad Coed Ynn, byddai 3 coeden
yn cael eu plannu yn eu lle. O
ran y ffigurau, roedd coed yn dod o dan y pennawd allyriadau ar y tir.
·
Roedd
awdurdodau lleol eraill yn defnyddio’r un system i gasglu data at ddibenion
adrodd. Y gobaith y flwyddyn nesaf oedd y byddai Llywodraeth Cymru yn darparu
gwell methodoleg fel y gallai awdurdodau gael gwell dealltwriaeth o’r sefyllfa.
Ar hyn o bryd, po fwyaf o arian a oedd yn cael ei wario, y mwyaf o garbon a
oedd yn cael ei gynhyrchu.
·
Nid oedd yr awdurdod ond yn medru adrodd ar
ddaliadau tir y Cyngor. Roedd
cyrff eraill megis Cyfoeth Naturiol Cymru yn cynnwys tir yr oeddent yn berchen
arno yn eu hadroddiadau nhw.
Yn dilyn
cwestiynau gan Aelodau’r Pwyllgor, cytunodd yr Aelodau i nodi’r cynnydd a oedd
wedi’i wneud o ran y camau a nodwyd yn y Cynllun Gweithredu Sero
Net.
Dogfennau ategol: