Cofnodion:
Cyfeiriodd y Cynghorydd Keith
Henson, yr Aelod Cabinet, at ddiben yr adroddiad, y rheswm yr oedd y Pwyllgor
Craffu wedi gofyn am y wybodaeth a'r cefndir a oedd wedi’i gynnwys yn yr
adroddiad. Roedd yn bwysig ystyried y diffyg adnoddau a deall y gost ychwanegol
a’r holl waith fyddai angen ei wneud i sicrhau diogelwch y dinasyddion.
Esboniodd Phil Jones fod y
swyddogion wedi ymchwilio i weld a fyddai modd gwneud y gwaith hwn yn fewnol a
defnyddio’r sgil-gynnyrch i fwydo biomas yr Awdurdod. Cyfeiriwyd at y tri
atodiad a oedd wedi’u cynnwys yn yr adroddiad. Nodwyd bod Gwywiad Coed Ynn yn
fater corfforaethol. Roedd y Cyngor yn delio â’r mater drwy flaenoriaethu ar
sail risg. Ers dechrau archwilio
asedau’r Cyngor ar sail blaenoriaeth, daethpwyd i’r casgliad nad oedd maint y
broblem ar y tir yr oedd y cyngor berchen arno gynddrwg â’r hyn a ragwelwyd yn
y lle cyntaf.
Gofynnodd yr Aelodau nifer o gwestiynau am
faterion a oedd o ddiddordeb iddynt. Atebwyd y cwestiynau hyn gan Phil
Jones, Norman Birch a Rhodri Llwyd. Roedd y prif
bwyntiau a godwyd fel a ganlyn:
·
Yn y lle cyntaf, bwriad rhaglen y prosiect oedd
gwneud y gwaith dros gyfnod o 10 mlynedd gan wneud rhan fwyaf y gwaith rhwng y
drydedd a’r chweched flwyddyn. Yn ddibynnol ar y gyllideb a’r contractwyr a
fyddai ar gael, y gobaith oedd y byddai modd cwblhau’r gwaith yn gynharach ond
byddai’r gwaith o ddelio â’r clefyd a drosglwyddir drwy’r awyr yn parhau.
·
Roedd rhan fwyaf y coed wrth ymyl y priffyrdd a’r
hawliau tramwy cyhoeddus ym mherchnogaeth perchnogion y tir. Nhw felly oedd yn
gyfrifol am archwilio’r coed. Wrth gynnal archwiliadau, os byddai swyddog yn
ystyried bod coeden ar dir, nad oedd yr awdurdod yn berchen arno, yn anniogel,
byddai Hysbysiad Adran 154, Deddf y Priffyrdd yn cael ei roi i’r perchennog
tir. Yn sgil hynny, byddai angen i’r perchennog tir hurio contractwyr o fewn 14
diwrnod. Byddai modd i’r Awdurdod gynorthwyo â’r broses honno, pe byddai angen.
·
O ran blaenoriaeth, roedd y coed yn cael eu rhoi
mewn 4 dosbarth yn ddibynnol ar y graddau yr oeddent wedi dirywio. Byddai
hysbysiadau i berchnogion coed yn nosbarth 4 yn cael eu blaenoriaethu. Byddai
rhai coed yn Nosbarth 1 a 2 yn gwrthsefyll y clefyd ac yn goroesi. Roedd hyn yn
bwysig o ran cadw coed cynhenid.
·
Pe byddai gorchymyn cadw coed ar waith, byddai
angen cyflwyno hysbysiad ynghylch gwneud cais am gwympo coeden.
·
Codwyd pryderon nad oedd dim ymgynghori wedi bod
â’r sector amaethyddol yng Ngheredigion o ran cynorthwyo â’r gwaith o dorri
coed mewn cyfnewid am y naddion pren. Gofynnwyd cwestiynau ynghylch arbedion
maint gan fod y gofynion o ran cwympo coed unigol yn wahanol iawn i’r gofynion
o ran cyflawni’r gwaith yng nghyswllt coedwig.
·
Teimlai’r Aelodau na fyddai'n gwneud synnwyr
busnes cyflawni’r gwaith yn fewnol er y byddai hynny’n golygu yn yr hirdymor y
byddai’r cyfarpar ym meddiant yr awdurdod.
·
Er mwyn sicrhau bod gan bawb y cyfle i dendro am
y gwaith, teimlai’r aelodau fod tryloywder yn allweddol wrth fynd ati i lunio’r
matrics. Roedd fframwaith ar gyfer contractwyr gwaith coed wrthi’n cael ei
ddatblygu a byddai digwyddiad
cwrdd â’r contractwr yn cael ei gynnal i gynorthwyo â’r broses dendro ar-lein.
·
Pe byddai mwy na 5 metr ciwbig o goed mewn un
chwarter penodol yn cael eu torri i lawr heb drwydded cwympo coed, Cyfoeth
Naturiol Cymru, fel yr asiantaeth gorfodi, fyddai’n cymryd camau.
·
Oherwydd pryderon ynghylch diogelu’r cyhoedd,
awgrymwyd y dylid rhoi gwybod i’r cyhoedd am y broblem gan bwysleisio mai
cyfrifoldeb y perchennog tir oedd delio â choed yr effeithiwyd arnynt ar eu
tir. Roedd yn allweddol mynd ar drywydd yr hysbysiadau a roddwyd er mwyn
sicrhau diogelwch y cyhoedd.
Yn dilyn
cwestiynau gan Aelodau’r Pwyllgor, cytunodd yr Aelodau i nodi’r adroddiad.
Dogfennau ategol: