Cofnodion:
Cyflwynodd y Cynghorydd
Clive Davies, yr Aelod
Cabinet, wybodaeth am y cefndir,
y camau gweithredu a oedd wedi’u rhoi
ar waith yn y Strategaeth a’r meysydd ffocws
ar gyfer y dyfodol fel yr
amlinellwyd hwy yn yr adroddiad
gan gynnwys yr heriau o ran y 4 maes ymyrraeth (Pobl, Lleoedd, Menter a Chysylltedd) yn y Strategaeth Economaidd. Dywedwyd bod y data ynghylch cysylltedd yn y sir wedi gwella
ers i'r adroddiad
gael ei ysgrifennu.
Gofynnodd yr Aelodau
nifer o gwestiynau am faterion a oedd o ddiddordeb iddynt. Atebwyd y cwestiynau hyn gan y Cynghorydd Clive Davies and Arwyn Davies. Roedd y prif bwyntiau a godwyd fel a ganlyn:
· Codwyd pryderon ynghylch a fyddai’r cyllid cyfalaf i ardaloedd gwledig
ar ffurf grantiau oddi wrth
Lywodraeth Cymru yn parhau ar yr
un lefel â’r blynyddoedd diwethaf o ystyried yr hinsawdd
economaidd bresennol. Roedd Llywodraeth Cymru wedi lansio Cronfa
Arloesi Arfor yn ddiweddar ond
nid oedd y cyllid wedi’i ryddhau
eto. Cydnabuwyd llwyddiant Cynghorau Ceredigion a
Phowys o ran sicrhau Cytundeb y Fargen Lawn ar gyfer rhaglen
buddsoddi cyfalaf a fyddai gwerth £110m.
·
Roedd gwaith yn parhau
yn Llanbedr Pont Steffan a
Llandysul i ailddefnyddio
asedau canol tref at ddibenion economaidd a gwella’r seilwaith gwyrdd.
· Ystyriwyd bod y prosiect a oedd yn caniatáu
i gwmnïau sefydlu mentrau dros dro mewn
siopau gwag yn bwysig i
fusnesau annibynnol newydd. Y gobaith oedd y byddai’r prosiect hwn yn
cael ei ehangu
y tu hwnt i Aberystwyth.
·
Roedd angen gwneud gwaith
i ddatblygu canol y trefi, yn enwedig canol tref Aberystwyth, yn fannau aml-bwrpas. Dylid ystyried cyflwyno eithriadau o ran talu ardrethi annomestig
fel ffordd o ddenu busnesau i ganol y trefi.
·
Roedd yr adran yn
gweithio’n galed wrth ymgeisio am grantiau gan wneud
hynny weithiau o fewn amserlenni byr iawn. Roedd
yn allweddol bwysig sicrhau bod unrhyw gyllid grant yn berthnasol i’r
Strategaeth Economaidd.
·
Dywedwyd bod rhaglen Helix Canolfan Bwyd Cymru ar hyn
o bryd ar ail flwyddyn contract 3 blynedd gyda Llywodraeth Cymru. Roedd y Ganolfan yn un o dair canolfan
yng Nghymru. Awgrymwyd cynnal diwrnod agored i’r cyhoedd a busnesau.
· Yn dilyn pryderon ynghylch cysylltedd yn y sir, nodwyd bod gan 88% o eiddo/adeiladau
fand eang â chyflymder o fwy na 30Mb ond
roedd y sir yn parhau i fod
ar ei hôl
hi o gymharu ag ardaloedd eraill yng Nghymru.
Roedd Llywodraeth Cymru yn cynnal adolygiadau
marchnad agored er mwyn deall y sefyllfa
bresennol felly roedd y
broses o gyflwyno cysylltiad
ffeibr i’r adeilad wedi arafu
ychydig. Roedd croeso i’r Aelodau
gysylltu â’r Aelod Cabinet neu swyddogion os oedd ganddynt
unrhyw gwestiynau.
·
Adeg y cyfarfod, roedd swydd y Swyddog Datblygu Trefi yn wag.
·
Wrth ymateb i awgrymiadau
y gellid gosod finyl ar ffenestri
siopau gwag, dywedwyd bod cyfleoedd o dan y Rhaglen Trawsnewid Trefi i ymgeisio am grantiau i wella adeiladau.
Anogwyd yr Aelodau a oedd yn cynrychioli trefi i gysylltu â swyddogion
i drafod hyn.
·
Rhannwyd pryderon ynghylch a oedd Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i
ddatblygu canolbarth Cymru.
Dywedwyd bod rhoi strategaeth glir ar waith yn
allweddol wrth fynd ar drywydd
cyfleoedd buddsoddi megis Bargen Dwf Canolbarth Cymru. Roedd gan y swyddogion berthynas dda â Llywodraeth Cymru ac roedd trafodaethau yn cael eu cynnal
yn aml i sicrhau bod y polisïau o fudd i’r rhanbarth.
Yn dilyn cwestiynau gan Aelodau’r Pwyllgor, cytunodd yr Aelodau
i nodi’r adroddiad a’r cynnydd
a wnaed o ran cyflawni’r Strategaeth Economaidd.
Dogfennau ategol: