Cofnodion:
Cyflwynodd y
Cynghorydd Alun Williams (Aelod Cabinet dros Wasanaethau Gydol Oes a Lles)
adroddiad y Gwasanaeth Adolygu Annibynnol Chwarter 4 2021/2022. Caiff
adroddiadau chwarterol eu rhoi gerbron y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau
Iachach fel rhan o'r ystyriaeth barhaus o'r pwnc i sicrhau bod yr Awdurdod
Lleol yn cyflawni ei ddyletswyddau fel y Rhiant Corfforaethol. Mae'r adroddiad hwn yn cynnwys y safonau a'r
targedau cenedlaethol a lleol a ddefnyddir i fesur y canlyniadau ar gyfer plant
sy'n derbyn gofal a phlant sydd wedi gadael gofal adeg eu cyfarfod adolygu, ac
mae'n cynnwys Dangosyddion Perfformiad Llywodraeth Cymru. Ar sail y wybodaeth
sydd ar gael a'r hyn a fynegwyd yn ystod y cyfarfod adolygu, daw'r Swyddog
Adolygu Annibynnol i farn broffesiynol ynghylch effeithiolrwydd cynllun gofal y
plentyn/person ifanc o ran bodloni ei anghenion, a gall argymell newidiadau i'r
cynllun gofal. Yn ystod y cyfarfod adolygu bydd y Swyddog Adolygu Annibynnol yn
ystyried a oes angen cymorth ar y plentyn/person ifanc i adnabod pobl eraill berthnasol
i gael Cyngor cyfreithiol/cymryd camau ar ei ran. Roedd y Swyddog Adolygu
Annibynnol o'r farn nad oedd angen cymryd y cam hwn ar gyfer unrhyw blentyn yn
ystod y cyfnod dan sylw. Yn ogystal, mae'r Swyddog Adolygu Annibynnol yn
ystyried a oes unrhyw dramgwydd yn erbyn hawliau dynol y plentyn/person ifanc
ac, os oes, gallai gyfeirio'r achos i CAFCASS Cymru. Ni chododd yr angen i
wneud hynny mewn unrhyw gyfarfod adolygu yn ystod y cyfnod hwn.
Mae'r adroddiadau hyn yn cael eu hystyried o fewn Cyfarfodydd Sicrhau
Ansawdd Plant sy'n Derbyn Gofal Amlasiantaethol sy'n
cwrdd bob chwarter; mae'r cyfarfodydd hyn yn gyfle i nodi a gweithredu ar
berfformiad a materion eraill yn ymwneud â'r maes gwaith hwn. Mae'r adroddiadau
hyn hefyd yn cael eu cylchredeg a'u hadolygu gan Grŵp Rhianta
Corfforaethol yr Awdurdod Lleol, a chynhelir y cyfarfodydd hyn bob chwarter.
Aeth y Cynghorydd Alun Williams ymlaen i gyflwyno Crynodeb o'r Pwyntiau
Allweddol a nodwyd ar dudalen 2 yr adroddiad.
Cafodd yr aelodau gyfle i ofyn cwestiynau
a gafodd eu hateb gan Elizabeth Upcott a’r Cynghorydd Alun Williams. Dyma'r
prif bwyntiau a godwyd:
· Nid oedd darpariaeth breswyl mamau a babanod yn y sir ac
felly os oedd angen asesiad, roedd yn rhaid iddynt fynd allan o'r sir. Yn
ogystal, roedd rhai lleoliadau y tu allan i'r sir oherwydd lleoliadau gofalwyr
maeth tra bod eraill oherwydd lleoliadau arbenigol nad oeddent ar gael yn y
sir.
·
Roedd proses i'w dilyn
pan fynegodd y cyhoedd ddiddordeb mewn dod yn ofalwyr maeth a oedd yn cynnwys
asesiadau a chyfweliadau a allai gymryd hyd at chwe mis. Roedd ymgyrchoedd
recriwtio parhaus yn genedlaethol oherwydd prinder gofalwyr maeth. Roedd
gofalwyr maeth yn gweithio naill ai i awdurdodau lleol neu i asiantaethau.
·
Cyfeiriwyd at iaith y
lleoliad ac anghenion iaith gyntaf y plentyn a nodwyd ar dudalen 6 Adroddiad
Rheoli Perfformiad y Gwasanaeth Adolygu Annibynnol.
· Nodwyd bod cost lleoliadau y tu allan i'r sir yn amrywio,
yn dibynnu ar anghenion plant a phobl ifanc. Gallai lleoliadau y tu allan i'r
sir fod yn ddrutach na rhoi plant a phobl ifanc mewn lleoliad gofal maeth.
· Roedd gwaith yn mynd rhagddo i gynyddu'r ystod o ofal yn
y sir, a oedd yn bwysig i'r plant, eu teuluoedd ac o bosibl yn ariannol.
· Tynnwyd sylw at y ffaith bod gwasanaethau meddygon teulu
dan bwysau aruthrol, yn enwedig ers Covid-19 ond ni roddwyd gwybod am ddim
problemau o ran plant a phobl ifanc yng ngofal yr awdurdod lleol yn cael gafael
ar apwyntiadau. Byddai unrhyw broblemau yn cael eu trafod mewn cyfarfodydd
monitro chwarterol ac yn cael eu huwchgyfeirio yn ôl
yr angen.
· Pe bai gan yr awdurdod lleol gyfrifoldeb rhiant am
blentyn, byddai'r plentyn yn cael yr imiwneiddiadau angenrheidiol. Pe bai gan
riant gyfrifoldeb rhiant ac nad oedd yn cydsynio, byddai trafodaethau'n cael eu
cynnal gyda'r rhiant.
Mynegodd Aelodau’r Pwyllgor eu gwerthfawrogiad o’r adran ac am eu gwaith
caled mewn cyfnod heriol iawn.
Yn dilyn cwestiynau gan Aelodau’r Pwyllgor, cytunwyd i nodi cynnwys yr
adroddiad a lefelau’r gweithgarwch o fewn yr Awdurdod Lleol.
Dogfennau ategol: