Eitem Agenda

Cyflwyno'r Strategaeth Ddementia Ranbarthol a ddatblygwyd gan Grwp Llywio Dementia Rhanbarthol Partneriaeth Gofal Gorllewin Cymru

Cofnodion:

Eglurodd y Cynghorydd Alun Williams (Aelod y Cabinet dros Gydol Oed a Llesiant) fod y Strategaeth Dementia Ranbarthol wedi’i datblygu gan Grŵp Llywio Dementia Rhanbarthol Partneriaeth Gofal Gorllewin Cymru. Mae Partneriaeth Gofal Gorllewin Cymru yn dod â sefydliadau o’r sector statudol, y trydydd sector a’r sector annibynnol at ei gilydd gyda’r cylch gwaith o integreiddio a thrawsnewid iechyd, gofal a chymorth yn y rhanbarth. Roedd cyllid a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru yn cael ei reoli drwy’r Grŵp Llywio Dementia a byddai’n allweddol i gyflawni blaenoriaethau y cytunwyd arnynt o fewn y Strategaeth. Nododd Asesiad o Anghenion y Boblogaeth a gyflwynwyd yn ddiweddar yn y Cabinet fod cynnydd yn nifer y bobl 80+ oed oherwydd bod y genhedlaeth a aned ar ôl yr ail ryfel byd yn cyrraedd yr oedran hwn ac felly byddai'r strategaeth hon yn allweddol wrth symud ymlaen. Rhoddwyd trosolwg o Strategaeth Dementia Partneriaeth Gofal Gorllewin Cymru i’r pwyllgor, gan gyfeirio at y ddarpariaeth ar hyn o bryd, arferion gorau, adborth o gyfweliadau strwythuredig â rhanddeiliaid a gofalwyr a’r dull o weithredu’r llwybr llesiant dementia.

 

Cyfeiriodd Donna Pritchard at y Camau Nesaf o safbwynt rhanbarthol a sirol. Yn rhanbarthol, roedd 6 ffrwd waith wedi'u nodi a oedd yn cynnwys Ymgysylltu â'r Gymuned, Ysbytai a Hyfforddiant a Recriwtio. Roedd cynrychiolaeth o'r awdurdod lleol ar bob ffrwd waith. Nodwyd y byddai cysylltwyr llesiant yn gweithio yn y gymuned ac yn gweithio’n agos gyda Phorth Cymorth Cynnar. Roedd yr awdurdod lleol wedi sicrhau cyllid gan Lywodraeth Cymru i gomisiynu ymgynghorwyr i gefnogi datblygu cynllun i gyflawni'r canlyniadau allweddol a nodir yn y strategaeth.

 

Cafodd yr aelodau gyfle i ofyn cwestiynau a gafodd eu hateb gan Donna Pritchard. Dyma'r prif bwyntiau a godwyd:

·     Croesawodd yr aelodau'r papur gan nodi ei bod yn allweddol sicrhau bod aelodau'r gymuned yn cael y gofal gorau.

·     O ystyried yr hinsawdd economaidd ar hyn o bryd, codwyd pryderon ynghylch sut y byddai'r strategaeth yn cael ei gweithredu. Nodwyd bod mapio gwasanaethau'n fanwl yn hanfodol i ddeall pa ddarpariaeth sydd eisoes yn ei lle yn y sir ac a ydynt yn parhau i fod yn addas i'r diben. Roedd ffocws rhanbarthol ar hyn o bryd, ond roedd yr awdurdod lleol yn y broses o ddatblygu manyleb gwasanaeth, a fyddai'n cael ei chwblhau erbyn 31.03.23 gobeithio. Yn dilyn hyn, byddai'r gwaith yn gallu symud ymlaen ar lefel sirol.

·     Teimlai'r aelodau'n gryf fod canolfannau dydd yr effeithiwyd arnynt yn ddifrifol gan Covid-19 yn achubiaeth i bobl a oedd yn gofalu am anwyliaid. Roedd diffyg deunyddiau wedi effeithio ar waith sy'n cael ei wneud ar hyn o bryd yng Nghanolfan Padarn, Canolfan Meugan a Hafod. Ar hyn o bryd, nid oedd amserlen i ail-agor yr adeiladau. Rhoddwyd sicrwydd bod pawb sy'n cael cymorth gan staff y canolfannau yn parhau i gael cymorth.

·     Mewn ymateb i gwestiwn yn ymwneud ag a oedd digon o leoedd yng nghartrefi gofal preswyl y sir ar gyfer gofal dementia a gofal seibiant, nodwyd bod cartrefi yn rheoli pobl ag anghenion llawer mwy cymhleth nag yn y gorffennol. Roedd gwasanaethau cofleidiol yn cael eu datblygu i gefnogi pobl i fyw gartref ac roedd adain 6 gwely wedi'i neilltuo ar gyfer gofal dementia yn y broses o gael ei datblygu yn Hafan Deg, Llanbedr Pont Steffan. Yn dibynnu ar ei llwyddiant, gobeithir datblygu adenydd tebyg mewn cartrefi eraill yn y sir. Nyrsio’r henoed bregus eu meddwl oedd yr her fwyaf ac roedd cyfleoedd i ddatblygu hyn yn cael eu hystyried. 

·     Mynegwyd pryderon nad oedd gofal seibiant a chanolfannau dydd ar gael yn lleol i deuluoedd sy'n golygu bod pobl yn teithio ymhellach i ffwrdd ac yn treulio mwy o amser ar fysiau yn hytrach nag mewn gwasanaethau dydd. Roedd trafnidiaeth yn her yng Ngheredigion oherwydd ei natur wledig, ond y nod oedd gwneud gwasanaethau'n fwy hygyrch i bobl. Awgrymwyd defnyddio cyfleusterau cymunedol ac adnoddau cyfredol.

·     Amlygwyd pwysigrwydd sicrhau bod cleifion â dementia yn cael cymorth yn eu hiaith gyntaf.

·     O ran staffio, roedd anawsterau recriwtio a chadw staff gofal cymdeithasol yn genedlaethol, ac felly byddai angen ystyried y maes hwn.  Byddai rhaglen hyfforddi dementia yn cael ei datblygu ar gyfer staff sy'n rhoi cymorth i bobl â dementia.

·     Roedd adolygiad helaeth o'r modd yr oedd gwasanaethau gan gynnwys canolfannau dydd a darpariaeth gofal preswyl yn cael eu darparu'n gyffredinol yng Ngheredigion i fod i ddechrau, a fyddai'n rhoi llwyfan ar gyfer y 5-10 mlynedd nesaf.

 

Yn dilyn cwestiynau gan Aelodau’r Pwyllgor, cytunwyd i nodi’r adroddiad er gwybodaeth a’r argymhellion a ganlyn i’r Cabinet cyn eu cymeradwyo:

1.  Ystyriwyd pwysigrwydd sicrhau dewis iaith defnyddwyr gwasanaethau wrth ddarparu gwasanaethau

2.  Defnyddio adnoddau cyfredol gan gynnwys adeiladau

3.  Trafnidiaeth addas a sicrhau bod y gwasanaethau a ddarperir mor lleol â phosibl

4.  Pwysigrwydd canolfannau dydd sydd ar gael yn lleol i ddefnyddwyr gwasanaethau

Dogfennau ategol: