Eitem Agenda

Strategaeth Gorfforaethol Ddrafft 2022-27

Cofnodion:

     3   Strategaeth Gorfforaethol Ddrafft 2022-27

          

Roedd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Bryan Davies, yn bresennol i gyflwyno’r Strategaeth Gorfforaethol Ddrafft ar gyfer y 5 mlynedd nesaf. Manteisiodd yr Arweinydd ar y cyfle i ddiolch i’r weinyddiaeth flaenorol (Aelodau Cabinet a Chynghorwyr) am y Strategaeth Gorfforaethol flaenorol. Dywedodd, yn dilyn yr etholiadau lleol ym mis Mai 2022, mae angen Strategaeth Gorfforaethol newydd i nodi Amcanion Llesiant Corfforaethol newydd y Cyngor (blaenoriaethau corfforaethol) a’r uchelgeisiau ar gyfer y pum mlynedd nesaf. Mae’r Strategaeth yn nodi sut y bydd y Cyngor yn ceisio gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol dinasyddion a chymunedau Ceredigion a chynyddu ei gyfraniad tuag at y saith Nod Llesiant Cenedlaethol yn unol â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Dywedodd yr Arweinydd hefyd fod gan yr Awdurdod gyfnod heriol o’i flaen. Roedd y Prif Weithredwr, Eifion Evans, hefyd yn bresennol, a chytunodd gyda sylwadau’r Arweinydd. Diolchodd hefyd i’r Swyddogion a oedd ynghlwm â’r strategaeth, sef Alun Williams, Diana Davies a Rob Starr, am eu gwaith caled wrth lunio’r Strategaeth.

 

Parhaodd Rob Starr, Rheolwr Perfformiad ac Ymchwil, i gyflwyno cynnwys yr adroddiad. Eglurodd mai pwrpas craidd y Strategaeth Gorfforaethol yw dangos sut y bydd yr awdurdod yn cefnogi ac yn hyrwyddo cynaliadwyedd a lles dinasyddion Ceredigion, trwy ei Weledigaeth hirdymor a’i Amcanion Llesiant Corfforaethol. Yr Amcanion Llesiant Corfforaethol arfaethedig yw:

 

·       Hybu’r Economi, Cefnogi Busnesau a Galluogi Cyflogaeth

·       Creu Cymunedau Gofalgar ac Iach

·       Darparu’r Dechrau Gorau Mewn Bywyd a Galluogi Pobl o Bob Oed i Ddysgu

·       Creu Cymunedau Cynaliadwy a Gwyrdd sydd wedi’u Cysylltu’n Dda â’i Gilydd

 

Esboniodd Rob Starr fod yr amcanion wedi’u nodi trwy ddadansoddi tystiolaeth ac ymgysylltu gyda thrigolion, gan gynnwys uchelgeisiau’r weinyddiaeth wleidyddol newydd, Asesiad o Lesiant Lleol Ceredigion a’r ymgynghoriad cyhoeddus diweddar ar y strategaeth ddrafft a gynhaliwyd rhwng 24 Awst a 30 Medi 2022. Cafwyd cyfanswm o 51 o ymatebion i’r ymgynghoriad - daeth rhai ymatebion i law ar ôl y dyddiad cau ac felly nid oedd y ffigurau wedi’u cynnwys yn y ddogfen eto ond maen nhw wedi cael eu hystyried.

 

Eglurodd Rob Starr fod yr amcanion hefyd wedi’u nodi gan ystyried Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Roedd hyn yn cynnwys nodi sut mae modd i ni wneud y cyfraniad mwyaf posib tuag at y nodau llesiant cenedlaethol a hefyd sicrhau ein bod ni’n defnyddio’r egwyddor datblygu cynaliadwy i sicrhau bod anghenion y presennol yn cael eu diwallu heb beryglu gallu cenedlaethau’r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion hwythau.

 

Mae’r Strategaeth Gorfforaethol ddrafft yn cynnwys cynllun gweithredu sy’n manylu ar y camau sydd angen eu cymryd i gyflawni pob un o’r Amcanion Llesiant Corfforaethol. Mae’r cynnydd yn cael ei adolygu bob blwyddyn, a bydd hyn yn cael ei gyhoeddi yn Adroddiad Hunanasesu’r Cyngor.

 

Yna, esboniodd Rob Starr y broses a’r camau sy’n gysylltiedig â llunio’r strategaeth. Cyfeiriodd hefyd at dudalen 6 o’r strategaeth, Gwella Canlyniadau, a sut

maent yn cyd-fynd â’r hunanasesiad wrth ddiwallu Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021. Dywedodd wrth Aelodau’r Pwyllgor mai’r 3 thema mwyaf

cyffredin o’r adborth a dderbyniwyd oedd yr iaith Gymraeg, Teithio Llesol a Gofal Plant. Mae sylwadau’r cyhoedd bellach wedi’u hadlewyrchu yn y Strategaeth.

 

Yna rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau, ac fe’u hatebwyd yn eu tro gan Swyddogion.

Mewn ymateb i gwestiwn, cadarnhawyd mai’r canlyniadau diweddaraf sydd ar gael ynglŷn â nifer y siaradwyr Cymraeg yw canlyniadau Cyfrifiad 2011 a bydd canlyniadau 2021 ar gael yn ystod mis Rhagfyr 2022/mis Ionawr 2023.

Un pryder a godwyd gan Aelod o’r Pwyllgor oedd a all yr Awdurdod fforddio’r targedau uchelgeisiol a amlinellwyd yn yr adroddiad. Cadarnhawyd bod modd eu cyflawni ar hyn o bryd.

 

Mynegwyd pryder ynghylch Ffosffadau gan y gallai atal yr amcan HYBU’R ECONOMI, CEFNOGI BUSNESAU A GALLUOGI CYFLOGAETH rhag symud ymlaen. Cadarnhawyd bod grŵp penodol sy’n monitro’r sefyllfa ffosffadau yn ofalus ac sydd mewn trafodaethau parhaus gyda Chyfoeth Naturiol Cymru. Cadarnhaodd y Prif Weithredwr hefyd fod Ffosffadau yn cael ei nodi fel risg ar hyn o bryd a’i fod ar gofrestr risg yr Awdurdod felly gellir cadarnhau bod y mater hwn yn cael sylw dyledus.

 

Dywedodd Cynghorydd bod y strategaeth yn nodi bod sedd wag yn Llanbedr Pont Steffan, mae angen diwygio hyn nawr.

 

Cyfeiriodd Aelod at dudalen 36, pwynt bwled 6, Galluogi mwy o bobl ifanc i adeiladu cartref am oes, oherwydd yn ei farn ef mae’r CDLl yn cyfyngu ar ddatblygiadau i bobl ifanc mewn lleoliadau gwledig.

 

Cododd yr ymholiadau canlynol yn ystod y trafodaethau, a bydd Rob Starr yn ymchwilio iddynt ac yn dychwelyd yr atebion i’r Pwyllgor:

 

1.    Cyfeiriodd Aelod at y Cwestiynau Monitro Cydraddoldeb ar dudalen 11 o Adroddiad Adborth yr Ymgynghoriad, oherwydd nodir mai 35 oedd cyfanswm yr ymatebion a dderbyniwyd (ar 23 Medi) ond nid yw’r ffigurau’n gwneud cyfanswm o 35. Pam hynny?

2.    Nododd Aelod bod nifer yr ymatebion i’r ymgynghoriad yn fach. Faint o’r rheini ymatebodd yn Gymraeg?

3.    Cyfeiriodd Aelod at dudalen 13 y Strategaeth, oherwydd bod un pwynt yn cyfeirio at ‘adeiladu’ amddiffynfeydd rhag llifogydd, ond defnyddiwyd y gair ‘cwblhau’ mewn pwynt arall. A ddylai’r ddau bwynt ddefnyddio’r un gair, naill ai ‘adeiladu’ neu ‘cwblhau’?

4.    Cyfeiriodd Aelod at dudalen 36, pwynt bwled 5, Annog pobl i beidio â phrynu ail gartrefi yn y sir, gan ofyn o ble y cafwyd y wybodaeth hon? Cadarnhawyd y cafwyd y wybodaeth hon o faniffesto Grŵp. Gofynnwyd am ragor o wybodaeth ar y pwynt hwn.

5.    Cyfeiriodd Aelod at dudalen 38, cyfeiriad at lifogydd a gofynnodd i’r canlynol hefyd gael eu henwi yn y strategaeth – Llanybydder, Llandysul a Llechryd.

6.    Mae cyfeiriad at Gysylltwyr Cymunedol yn y Strategaeth, a allai Swyddog ymhelaethu ar beth yw eu rôl? Awgrymwyd ychwanegu esboniad yn y Strategaeth.

7.    Tynnwyd sylw at y ffaith bod rhai gwallau teipio a threiglo yn fersiwn Gymraeg y Strategaeth. Mae angen diwygio’r rhain.

 

Ar ôl ystyried, cytunodd yr Aelodau y byddai pwyntiau 1-7 uchod yn cael eu hymchwilio a’u diwygio fel y bo’n briodol gan Swyddogion. Bydd y Pwyllgor yn ailymgynnull i ystyried eu hymatebion a’r argymhelliad ymhellach cyn cyflwyno i’r Cabinet a’r Cyngor Llawn.

 

 

 

Dogfennau ategol: