Cofnodion:
Nododd y Cynghorydd Keith Henson, Aelod
Cabinet, mai pwrpas yr adroddiad oedd gofyn i Aelodau’r Pwyllgor gefnogi’r
ffordd ymlaen sy’n cael ei chynnig ar gyfer adolygu gwasanaeth gwastraff Cyngor
Sir Ceredigion.
Rhoddodd Gerwyn Jones drosolwg o’r Gwasanaethau Rheoli Gwastraff ac
amlygodd y ffaith fod gan y gwasanaeth broffil uchel ymhlith y cyhoedd. Darparwyd
cefndir y strategaeth flaenorol a’r angen am un newydd er mwyn pennu cyfeiriad
y gwasanaeth yn y dyfodol. Cyfeiriwyd at y safleoedd gwastraff cartref, y
gorsafoedd trosglwyddo gwastraff, y cyfleusterau sy’n cael eu rhoi ar gontract
a’r model casglu gwastraff wrth ymyl y ffordd, fel yr amlinellir yn yr
adroddiad. Rhoddwyd esboniad bras o’r gwasanaeth cymysg presennol a weithredwyd
yn 2019 ynghyd â’r dull a ffefrir gan Lywodraeth Cymru, sef didoli gwastraff
wrth ymyl y ffordd, fel y cyhoeddwyd yng Nglasbrint Casgliadau Llywodraeth
Cymru yn 2012. Yn y dyfodol bydd pwysau sylweddol i arbed arian – ar hyn o bryd
mae 9 lori fawr (sydd gwerth tua £186,000) a 7 lori lai (sydd gwerth tua
£136,000) yn y fflyd a bydd angen eu hadnewyddu mewn 3-4 blynedd. Yn sgil yr
amser sy’n rhaid aros i’r cerbydau gyrraedd ar ôl eu harchebu, ynghyd â’r
broses hirfaith ar gyfer arfarnu opsiynau, mae’n bwysig ystyried y ffordd
strategol ymlaen ar gyfer Ceredigion. Mae angen ystyried cyfleoedd megis y
cynnig diweddar i brynu dwy lori 26 tunnell am £155,000 yr un yn hytrach na
£272,000 gyda chymorth grantiau’r llywodraeth. Rhoddodd y swyddog drosolwg o
gwmpas arfaethedig y gwaith y bydd yr ymgynghorwyr yn ymgymryd ag ef.
Gofynnodd yr Aelodau nifer o gwestiynau ynghylch eu meysydd o ddiddordeb ac
atebwyd y rhain yn eu tro gan Gerwyn Jones. Y prif bwyntiau a godwyd oedd y
canlynol:
· Dilynir y
prosesau arferol ar gyfer penodi’r ymgynghorwyr annibynnol a fydd yn cyflawni’r
gwaith.
· Bydd angen
fflyd newydd o gerbydau erbyn 2027-28 - oherwydd y dechnoleg gymhleth sydd
ynghlwm wrth hyn a’r angen i ystyried opsiynau gwahanol, mae’n rhaid dechrau’r
gwaith yn fuan.
· Amlygwyd y
pwysau o ran staffio – er bod y tîm bron yn llawn, mae’r gwasanaeth yn rhedeg
ar 70% o lefelau staffio oherwydd gwyliau blynyddol, hyfforddiant a salwch. Yn
ogystal, nid yw’r Cyngor yn ddiogel rhag y diffyg gyrwyr a thechnegwyr cerbydau
nwyddau trwm (HGV) – mae rhaglenni hyfforddi ar gael i ddenu staff. Gan fod y
gwasanaeth gwastraff yn flaenoriaeth i’r adran, rhennir aelodau staff sydd mewn
rolau eraill ac sy’n meddu ar drwydded yrru cerbydau nwyddau trwm a defnyddir
staff asiantaeth yn achlysurol.
· Codwyd pryderon
bod yr un llwybrau’n cael eu heffeithio gan wyliau’r banc gan fod y mwyafrif
ohonynt ar ddydd Llun. Gan nad oedd cytundebau’r staff yn cynnwys gweithio ar
wyliau’r banc, awgrymwyd y dylid adolygu cytundebau’r staff ynghyd ag ystyried
cynllun wrth gefn fel yr hyn a weithredir gan y gwasanaeth tân. Roedd y swyddog
yn croesawu awgrymiadau pellach.
· Nododd yr Aelodau
eu bod yn derbyn mwy a mwy o alwadau oddi wrth y cyhoedd ynghylch casgliadau
gwastraff. Awgrymodd y swyddog y dylid cyfeirio’r cyhoedd at Clic neu wefan y
Cyngor, lle ymdrechir i rannu gwybodaeth ynghylch newidiadau i wasanaethau, gan
gynnwys dangosyddion perfformiad.
· Wrth ymateb i
gwestiwn gan Aelod ynghylch lorïau trydan, esboniodd y swyddog fod y staff wedi
treialu lori a bod hyn wedi bod yn llwyddiannus. Fodd bynnag, ar hyn o bryd
roedd y lorïau gwerth tua £450,000 yr un. Dylid rhoi ystyriaeth i hyn os bydd y
lorïau’n dod yn fwy fforddiadwy.
· Codwyd pryderon
ynghylch i le anfonir y gwastraff ar ôl ei gasglu; roedd y swyddog yn teimlo y
dylai nifer o faterion gael eu hystyried yn rhyngwladol ond roedd gan y sir rôl
i’w chwarae o ran dylanwadu ar newid. Nid oes digon o wastraff yng Ngheredigion
i gyfiawnhau buddsoddi mewn technoleg i ddelio ag ef.
· Wrth i fwy o
Awdurdodau Lleol fabwysiadu Glasbrint Llywodraeth Cymru, mae perygl y bydd llai
o grantiau ar gael i’r Awdurdodau Lleol sy’n penderfynu peidio ei fabwysiadu.
· O ran a fyddai
swyddogion yn gallu gwneud y gwaith arfaethedig a bennwyd ar gyfer ymgynghorwyr
a chysylltu ag Awdurdodau Lleol sydd eisoes wedi mabwysiadu’r dull o ddidoli
wrth ymyl y ffordd, dywedodd y swyddog nad oedd capasiti o fewn y tîm o gofio’r
llwyth gwaith a'r cyfrifoldebau rheoli sydd gan y staff.
· Eglurodd y
swyddog fod rhai peiriannau’n cael eu prydlesu. Roedd yn bwysig bod yn
ddeinamig ac ystyried y cyfleoedd gorau sydd ar gael ar y pryd gyda chymorth yr
adran Cyllid a Chaffael.
· Caiff y
cerbydau eu harchwilio bob 6 wythnos yn fewnol, ac os oes angen caiff unrhyw
waith pellach ei wneud yn lleol. Yr unig gerbydau a anfonir yn ôl at y
gwerthwyr yw’r rhai sydd dan warant neu’r rhai sydd angen sylw arbenigol. Po
hiraf y mae’r lorïau oddi ar y ffyrdd, y mwyaf yr effaith ar wasanaethau.
· Amlygwyd y
ffaith y byddai newid i wasanaethau yn achosi problemau ac felly roedd
ymgynghori â’r Aelodau sy’n cynrychioli trigolion Ceredigion yn allweddol drwy
gydol y broses cyn y gwneir unrhyw benderfyniadau. Derbyniwyd 1500 ymateb yn
dilyn yr ymgynghoriad cyhoeddus diwethaf.
· Byddai
effeithiolrwydd didoli wrth ymyl y ffordd yn amrywio mewn gwahanol ardaloedd
(e.e. ardaloedd trefol o gymharu ag ardaloedd gwledig) a math o eiddo (tŷ
amlfeddiannaeth o gymharu â thŷ sengl) yn y sir.
Diolchodd yr Aelodau i’r staff a oedd wedi gweithio trwy gydol y pandemig
COVID-19 a diolchwyd iddynt am eu hymdrechion parhaus.
Yn dilyn trafodaeth hir, cytunodd yr aelodau i’r canlynol:
·
Nodi’r sefyllfa bresennol,
y risgiau a amlinellwyd a’r angen i adolygu’r gwasanaeth.
·
Nodi y bydd gwasanaeth
ymgynghori annibynnol yn cael ei benodi i adolygu’r gwasanaeth, gan nodi y bydd
yn gweithio’n agos gyda’r gwasanaeth gwastraff.
·
Nodi y bydd y gwaith o adolygu’r
gwasanaeth wedi’i gyfyngu, yn fras, i’r hyn a nodir yn yr adroddiad hwn.
·
Cytuno y bydd y Pwyllgor
yn cymryd rhan weithredol yn y prosiect a rhan flaenllaw o ran y broses
ymgysylltu gwleidyddol a chymeradwyo.
Dogfennau ategol: