Cofnodion:
Eglurodd y Cynghorydd Keith Henson, Aelod Cabinet, mai’r
argymhelliad gan Grŵp Rheoli Carbon a Newid Hinsawdd Cyngor Sir Ceredigion
(20/06/2022) oedd i aelodau’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau Ffyniannus
ystyried y Strategaeth a'r Cynllun Gweithredu drafft cyn eu cyflwyno i'r
Cabinet i'w mabwysiadu'n ffurfiol. Nodwyd bod y Strategaeth yn y broses o gael
ei datblygu.
Cyfeiriodd Phil Jones at y cefndir a'r sefyllfa bresennol
fel yr amlinellir yn yr adroddiad.
Rhoddodd Chris Wilson gyflwyniad i’r Pwyllgor gan
ganolbwyntio ar y sefyllfa bresennol a’r lleoliadau (Atodiad 1). Nodwyd mai
ffocws cymalau cynnar y rhaglen oedd gosod pwyntiau gwefru cerbydau trydan yn y
meysydd parcio sydd dan berchnogaeth neu reolaeth y Cyngor Sir ynghyd â
safleoedd y Cyngor. Crybwyllwyd hefyd fod peryglon cwympo yn gysylltiedig â’r
pwyntiau gwefru cerbydau trydan, ac felly bydd yn bwysig rheoli hyn. O ran y
25% o arian cyfatebol oddi wrth Lywodraeth Cymru, mae angen cael cymeradwyaeth gweinidogol;
ar ôl cael y cymeradwyaeth, bydd cam un yn cychwyn. Nodwyd y bydd hi’n anodd
sicrhau ffrydiau ariannu ar gyfer camau 3 a 4 ynghyd â denu buddsoddiad
preifat, a hynny oherwydd natur wledig y sir. Mae’n bosib bod nifer y pwyntiau
gwefru cerbydau trydan ar draws y sir yn is nag ardaloedd mwy trefol oherwydd
nifer y boblogaeth a’r galw amdanynt. Y nod oedd darparu dosbarthiad cytbwys o
bwyntiau gwefru cerbydau trydan ar draws y sir. Er gwaethaf yr ansicrwydd o ran
technoleg, bydd yn allweddol ystyried pob opsiwn gan gynnwys hydrogen.
Rhoddwyd cyfle i’r Aelodau ofyn cwestiynau ac atebwyd y
rhain gan Phil Jones a Chris Wilson. Y prif bwyntiau a godwyd oedd y canlynol:
• O ran cyllid,
derbyniwyd £420,000 oddi wrth Gronfa Trawsnewid Cerbydau Allyriadau Isel Iawn
Llywodraeth Cymru (ULEVTF) yn ystod blwyddyn ariannol 2021/22. Yn ogystal,
dyrannwyd hyd at £300,000 o gyllid grant i’r Cyngor gan Gymdeithas Llywodraeth
Leol Cymru. Dyfarnwyd swm o £273,171 gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig ar gyfer
cyflawni’r ail gam yn ystod blwyddyn ariannol 2022/23 (£204,878.20 (75%) o
Gynllun Pwyntiau Gwefru Preswyl ar y Stryd (ORCS) Swyddfa Cerbydau Allyriadau
Sero Llywodraeth y DU (OZEC), a darperir y £68,293 (25%) sy’n weddill fel arian
cyfatebol gan Lywodraeth Cymru).
• Yn sgil
ansicrwydd ynghylch a fyddai’r arian cyfatebol (25%) yn cael ei roi, roedd
Llywodraeth Cymru’n ymwybodol nad oedd unrhyw fuddsoddwyr preifat yn y sir.
Gobeithir y daw cadarnhad ysgrifenedig oddi wrth Lywodraeth Cymru ynghylch yr
arian maes o law. Roedd ystyried ffynonellau eraill o gyllid dal yn allweddol.
• Roedd
Silversone Green Energy wedi cynorthwyo’r Cyngor yn dilyn proses tendro i osod
a gweithredu’r pwyntiau gwefru cerbydau trydan ar gyfer y cyhoedd ym Mhenmorfa
a Chanolfan Rheidol. Mae cytundeb ar waith i sicrhau bod y cwmni a’r Cyngor yn
cael siâr o’r elw, a effeithiwyd gan y niferoedd isel a oedd yn eu defnyddio.
• Mae’r
Strategaeth yn allweddol o ran nod y Cyngor i fod yn garbon net sero erbyn 2030
ac o ran cyflawni Cynllun Gweithredu Net Sero’r Cyngor. Byddai hefyd yn darparu
mynediad i bobl sydd eisiau gwefru eu cerbydau.
• Ni roddwyd
ystyriaeth i osod pwyntiau gwefru cerbydau trydan mewn ysgolion gan gynnwys yr
ysgol ardal newydd yn Nyffryn Aeron; cadarnhaodd y swyddogion fod amod ar hyn o
bryd y dylid darparu’r pwyntiau gwefru i’r cyhoedd.
• Yn amodol ar
gynllunio, roedd yr Aelodau’n teimlo y dylai’r Cyngor ystyried cyfleoedd i greu
ynni adnewyddadwy yn y sir.
• Codwyd
pryderon na fyddai gosod y pwyntiau gwefru cerbydau trydan yn lleihau nifer y
cerbydau ar y ffyrdd yn unol â’r strategaeth drafnidiaeth ‘Llwybr Newydd’.
• Codwyd
pryderon ynghylch gallu’r Grid Cenedlaethol i ddarparu trydan oherwydd byddai
hyn yn cyfyngu ar le y gellir gosod y pwyntiau gwefru cerbydau trydan. Hefyd, codwyd
pryderon ynghylch diogelwch y cyflenwad o ynni, yn enwedig yn yr hinsawdd
bresennol, ac o le y daw’r ynni a ddarperir gan y gweithredwr rhwydwaith
dosbarthu trydan (DNO).
• Allweddol
fydd cydweithio er mwyn osgoi gosod nifer o bwyntiau gwefru trydan yn yr un
lleoliad.
• Cododd
gwestiwn ynghylch yr ystyriaeth a roddir i ffynonellau eraill o danwydd (e.e.
HGO); cadarnhaodd y swyddogion eu bod yn ystyried opsiynau’n barhaus.
• Roedd prinder
addysg ynghylch buddion cerbydau trydan i’r amgylchedd.
• Gan fod
gwerthwyr ceir yn cofrestru cerbydau trydan yn ganolog ac nid o dan gyfeiriad y
perchennog, nid oes cofnod cywir ar gael o ran nifer y cerbydau trydan sydd yn
y sir.
• Y gwahanol
fathau o bwyntiau gwefru cerbydau trydan ac argaeledd mathau penodol ohonynt;
esboniodd swyddog fod gwefrydd cyffredinol ar gael ynghyd ag addaswr ar gyfer
gwahanol gerbydau. Datblygwyd apiau i gynorthwyo gyrwyr i chwilio am bwyntiau
gwefru. Bydd angen ystyried sut i rannu gwybodaeth â’r cyhoedd am y pwyntiau
gwefru yn y dyfodol a bydd angen cynnwys gwybodaeth ar yr apiau,
• Wrth ymateb i
ymholiad ynghylch y diffiniad o wefru preswyl ar y stryd, eglurodd y swyddogion
fod hyn yn golygu darparu pwyntiau gwefru oddi ar y stryd ar gyfer cerbydau
sydd ar y stryd.
• O safbwynt
diogelwch, bydd yn bwysig rhoi digon o rybudd i’r cyhoedd am unrhyw waith sydd
ar y gweill ar gyfer gosod y pwyntiau gwefru.
• Yn sgil
pryderon ynghylch lleoliad y pwyntiau gwefru cerbydau trydan yn Aberaeron,
cytunodd y swyddogion i drafod y mater gyda’r aelod etholedig.
• Nodwyd bod
problemau wedi codi o ran y pwyntiau gwefru cerbydau trydan ym Mhenmorfa yn
ymddangos ar yr ap ac esboniodd y swyddogion y byddant yn codi hyn gyda
Silverstone Green Energy.
• Codwyd
pryderon ynghylch y gwaith cloddio dwys sydd ynghlwm wrth fatris lithiwm.
• O ran gwefru
ar y stryd, esboniodd y swyddogion fod rheoliadau ar waith ynghylch beth y
gellir / beth na ellir ei wneud felly canolbwyntir ar sicrhau fod gan bobl y
cyfleusterau i wneud hynny’n ddiogel. Bydd angen sefydlu system wefru maes o
law.
Yn dilyn trafodaeth hir, cytunodd yr aelodau gyda’r
argymhelliad canlynol:
• Gofynnir i'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau Ffyniannus ystyried y Strategaeth a'r Cynllun Gweithredu drafft (Atodiad 1) a’u cymeradwyo er mwyn eu cyflwyno i'r Cabinet i'w mabwysiadu'n ffurfiol gan y Cyngor.
Dogfennau ategol: