Cofnodion:
Cyflwynodd y
Cynghorydd Alun Williams (Aelod Cabinet dros wasanaethau Gydol Oes a Lles)
adroddiad y Gwasanaeth Adolygu Annibynnol Chwarter 3 2021/2022. Caiff adroddiadau chwarterol eu rhoi gerbron y Pwyllgor
Trosolwg a Chraffu Cymunedau Iachach fel rhan o'r ystyriaeth barhaus o'r pwnc i
sicrhau bod yr Awdurdod Lleol yn cyflawni ei ddyletswyddau fel y Rhiant
Corfforaethol. Mae'r adroddiad hwn yn cynnwys y safonau a'r targedau
cenedlaethol a lleol a ddefnyddir i fesur y canlyniadau ar gyfer plant sy'n
derbyn gofal a phlant sydd wedi gadael gofal adeg eu cyfarfod adolygu, ac mae'n
cynnwys Dangosyddion Perfformiad Llywodraeth Cymru.
Ar sail y wybodaeth sydd ar gael a'r hyn a fynegwyd yn
ystod y cyfarfod adolygu, daw'r Swyddog Adolygu Annibynnol i farn broffesiynol
ynghylch effeithiolrwydd cynllun gofal y plentyn/person ifanc o ran bodloni ei
anghenion, a gall argymell newidiadau i'r cynllun gofal. Yn ystod y cyfarfod
adolygu bydd y Swyddog Adolygu Annibynnol yn ystyried a oes angen cymorth ar y
plentyn/person ifanc i adnabod pobl eraill berthnasol i gael Cyngor
cyfreithiol/cymryd camau ar ei ran. Roedd y Swyddog Adolygu Annibynnol o'r farn
nad oedd angen cymryd y cam hwn ar gyfer unrhyw blentyn yn ystod y cyfnod dan
sylw. Yn ogystal, mae'r Swyddog Adolygu Annibynnol yn ystyried a oes unrhyw
dramgwydd yn erbyn hawliau dynol y plentyn/person ifanc ac, os oes, gallai
gyfeirio'r achos i CAFCASS Cymru. Ni chododd yr angen i wneud hynny mewn unrhyw
gyfarfod adolygu yn ystod y cyfnod hwn.
Mae'r adroddiadau hyn yn cael eu hystyried o fewn
Cyfarfodydd Sicrhau Ansawdd Plant sy'n Derbyn Gofal Amlasiantaethol
sy'n cwrdd bob chwarter; mae'r cyfarfodydd hyn yn gyfle i nodi a gweithredu ar
berfformiad a materion eraill yn ymwneud â'r maes gwaith hwn. Mae'r adroddiadau
hyn hefyd yn cael eu cylchredeg a'u hadolygu gan Grŵp Rhianta
Corfforaethol yr Awdurdod Lleol, a cynhelir y cyfarfodydd hyn bob chwarter. Aeth y
Cynghorydd Alun Williams ymlaen i gyflwyno Crynodeb o'r Pwyntiau Allweddol a
nodwyd ar dudalen 2 yr adroddiad.
Nododd Elizabeth Upcott nad oedden nhw wedi derbyn unrhyw
awgrym ar sut y byddai’r canllawiau newydd ar y newidiadau i apwyntiadau
deintyddol arferol yn effeithio ar y gwasanaeth. Mae gweithwyr iechyd
proffesiynol yn mynychu cyfarfodydd monitro sicrwydd ansawdd.
Mynegodd y Cynghorydd Alun Williams siom gyda’r
cyhoeddiad gan mai strategaeth allweddol y Cyngor gyda’r Model Gydol Oes a Lles
oedd darparu ymyrraeth gynnar ac atal, a ddylai leihau’r angen am wasanaethau
drutach yn hwyrach ymlaen.
Tynnodd y Cadeirydd sylw at y ffaith y bu cynnydd
sylweddol yn nifer y plant sy’n derbyn gofal dros y 2 flynedd ddiwethaf, fel yr
adlewyrchir ar dudalen 4 yr adroddiad. Canmolodd y gwasanaeth am adroddiad clir
a oedd wedi’i gyflwyno’n dda.
Esboniodd Elizabeth Upcott fod tueddiad tebyg wedi’i weld
yn genedlaethol yn dilyn y pandemig, ac er bod nifer y plant mewn gofal yng
Ngheredigion yn isel o’i gymharu ag awdurdodau lleol eraill, roedd pryder ac
roedd mesurau atal yn cael eu rhoi ar waith yn y tymor byr a’r tymor hir.
Cyfeiriwyd at natur lleoliadau’r plant a adolygwyd a statws cyfreithiol y plant
a adolygwyd yn ystod y chwarter hwn. Eglurwyd cynlluniau llwybr i’r aelodau.
Amlygwyd bod yr awdurdod lleol yn parhau i fod â chyfrifoldeb cyfreithiol i
ddarparu gofal a chymorth i’r rhai rhwng 16 a 25 oed sy’n gadael gofal. Er nad
oedd pawb yn y grŵp oedran hwn eisiau ymgysylltu, neilltuwyd Cynorthwyydd
Personol i bob un sy’n gadael gofal.
Nodwyd bod diffyg gofalwyr maeth yn genedlaethol ac er
bod ymgyrch recriwtio wedi bod dros Gymru gyfan, mae dod o hyd i leoliadau yn
parhau i fod yn her. Mae cynlluniau rheoli parhaus ar y gweill i reoli hyn.
Esboniodd Elizabeth Upcott fod staffio’n parhau i fod yn
heriol, a’u bod nhw’n mynd ar drywydd pob llwybr, roedd uwch reolwyr yn ymwneud
â chynlluniau gweithredu, ac roedd cyfarfodydd yn cael eu cynnal yn rheolaidd.
Eglurodd fod yr adroddiadau chwarterol yn ofyniad, ac roedd yn rhoi gwybod i
bawb am unrhyw dueddiadau ac yn rhoi trosolwg fel rhieni corfforaethol.
Tynnodd y Cadeirydd sylw at y ffaith bod recriwtio
Gweithwyr Cymdeithasol ac Uwch Weithwyr Cymdeithasol wedi ei gynnwys ar y
gofrestr risgiau. Atgyfnerthodd bwysigrwydd adrodd yn chwarterol.
O ran y cynnydd sylweddol yn nifer y plant
sy’n derbyn gofal, nododd y Cynghorydd Alun Williams fod disgwyl i’r nifer
ostwng wrth symud ymlaen wrth i awdurdodau lleol ymdrin â’r nifer a ddaeth i’r
amlwg yn sgil covid.
Roedd y Cadeirydd yn gwerthfawrogi y bu cynnydd yn nifer
y plant sy’n derbyn gofal yn genedlaethol ond roedd yn ymwybodol bod Ceredigion
yn awdurdod llai ac y gallai fod ychydig yn fwy agored i’r risg.
Mynegodd Aelodau’r Pwyllgor eu gwerthfawrogiad o’r adran
ac am eu gwaith caled mewn cyfnod heriol iawn.
Yn dilyn cwestiynau gan Aelodau’r Pwyllgor, cytunwyd i
nodi cynnwys yr
adroddiad a lefelau’r
gweithgarwch o fewn yr Awdurdod Lleol.
Dogfennau ategol: