Eitem Agenda

Adroddiad Rheoli Perfformiad y Gwasanaeth Adolygu Annibynnol Chwarter 3 2021 – 2022

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Alun Williams (Aelod Cabinet dros wasanaethau Gydol Oes a Lles) adroddiad y Gwasanaeth Adolygu Annibynnol Chwarter 3 2021/2022. Caiff adroddiadau chwarterol eu rhoi gerbron y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau Iachach fel rhan o'r ystyriaeth barhaus o'r pwnc i sicrhau bod yr Awdurdod Lleol yn cyflawni ei ddyletswyddau fel y Rhiant Corfforaethol. Mae'r adroddiad hwn yn cynnwys y safonau a'r targedau cenedlaethol a lleol a ddefnyddir i fesur y canlyniadau ar gyfer plant sy'n derbyn gofal a phlant sydd wedi gadael gofal adeg eu cyfarfod adolygu, ac mae'n cynnwys Dangosyddion Perfformiad Llywodraeth Cymru.

 

Ar sail y wybodaeth sydd ar gael a'r hyn a fynegwyd yn ystod y cyfarfod adolygu, daw'r Swyddog Adolygu Annibynnol i farn broffesiynol ynghylch effeithiolrwydd cynllun gofal y plentyn/person ifanc o ran bodloni ei anghenion, a gall argymell newidiadau i'r cynllun gofal. Yn ystod y cyfarfod adolygu bydd y Swyddog Adolygu Annibynnol yn ystyried a oes angen cymorth ar y plentyn/person ifanc i adnabod pobl eraill berthnasol i gael Cyngor cyfreithiol/cymryd camau ar ei ran. Roedd y Swyddog Adolygu Annibynnol o'r farn nad oedd angen cymryd y cam hwn ar gyfer unrhyw blentyn yn ystod y cyfnod dan sylw. Yn ogystal, mae'r Swyddog Adolygu Annibynnol yn ystyried a oes unrhyw dramgwydd yn erbyn hawliau dynol y plentyn/person ifanc ac, os oes, gallai gyfeirio'r achos i CAFCASS Cymru. Ni chododd yr angen i wneud hynny mewn unrhyw gyfarfod adolygu yn ystod y cyfnod hwn.

 

Mae'r adroddiadau hyn yn cael eu hystyried o fewn Cyfarfodydd Sicrhau Ansawdd Plant sy'n Derbyn Gofal Amlasiantaethol sy'n cwrdd bob chwarter; mae'r cyfarfodydd hyn yn gyfle i nodi a gweithredu ar berfformiad a materion eraill yn ymwneud â'r maes gwaith hwn. Mae'r adroddiadau hyn hefyd yn cael eu cylchredeg a'u hadolygu gan Grŵp Rhianta Corfforaethol yr Awdurdod Lleol, a cynhelir y cyfarfodydd hyn bob chwarter. Aeth y Cynghorydd Alun Williams ymlaen i gyflwyno Crynodeb o'r Pwyntiau Allweddol a nodwyd ar dudalen 2 yr adroddiad.

 

Nododd Elizabeth Upcott nad oedden nhw wedi derbyn unrhyw awgrym ar sut y byddai’r canllawiau newydd ar y newidiadau i apwyntiadau deintyddol arferol yn effeithio ar y gwasanaeth. Mae gweithwyr iechyd proffesiynol yn mynychu cyfarfodydd monitro sicrwydd ansawdd. 

 

Mynegodd y Cynghorydd Alun Williams siom gyda’r cyhoeddiad gan mai strategaeth allweddol y Cyngor gyda’r Model Gydol Oes a Lles oedd darparu ymyrraeth gynnar ac atal, a ddylai leihau’r angen am wasanaethau drutach yn hwyrach ymlaen.

 

Tynnodd y Cadeirydd sylw at y ffaith y bu cynnydd sylweddol yn nifer y plant sy’n derbyn gofal dros y 2 flynedd ddiwethaf, fel yr adlewyrchir ar dudalen 4 yr adroddiad. Canmolodd y gwasanaeth am adroddiad clir a oedd wedi’i gyflwyno’n dda.

 

Esboniodd Elizabeth Upcott fod tueddiad tebyg wedi’i weld yn genedlaethol yn dilyn y pandemig, ac er bod nifer y plant mewn gofal yng Ngheredigion yn isel o’i gymharu ag awdurdodau lleol eraill, roedd pryder ac roedd mesurau atal yn cael eu rhoi ar waith yn y tymor byr a’r tymor hir. Cyfeiriwyd at natur lleoliadau’r plant a adolygwyd a statws cyfreithiol y plant a adolygwyd yn ystod y chwarter hwn. Eglurwyd cynlluniau llwybr i’r aelodau. Amlygwyd bod yr awdurdod lleol yn parhau i fod â chyfrifoldeb cyfreithiol i ddarparu gofal a chymorth i’r rhai rhwng 16 a 25 oed sy’n gadael gofal. Er nad oedd pawb yn y grŵp oedran hwn eisiau ymgysylltu, neilltuwyd Cynorthwyydd Personol i bob un sy’n gadael gofal.

 

Nodwyd bod diffyg gofalwyr maeth yn genedlaethol ac er bod ymgyrch recriwtio wedi bod dros Gymru gyfan, mae dod o hyd i leoliadau yn parhau i fod yn her. Mae cynlluniau rheoli parhaus ar y gweill i reoli hyn.

 

Esboniodd Elizabeth Upcott fod staffio’n parhau i fod yn heriol, a’u bod nhw’n mynd ar drywydd pob llwybr, roedd uwch reolwyr yn ymwneud â chynlluniau gweithredu, ac roedd cyfarfodydd yn cael eu cynnal yn rheolaidd. Eglurodd fod yr adroddiadau chwarterol yn ofyniad, ac roedd yn rhoi gwybod i bawb am unrhyw dueddiadau ac yn rhoi trosolwg fel rhieni corfforaethol.

 

Tynnodd y Cadeirydd sylw at y ffaith bod recriwtio Gweithwyr Cymdeithasol ac Uwch Weithwyr Cymdeithasol wedi ei gynnwys ar y gofrestr risgiau. Atgyfnerthodd bwysigrwydd adrodd yn chwarterol.

 

O ran y cynnydd sylweddol yn nifer y plant sy’n derbyn gofal, nododd y Cynghorydd Alun Williams fod disgwyl i’r nifer ostwng wrth symud ymlaen wrth i awdurdodau lleol ymdrin â’r nifer a ddaeth i’r amlwg yn sgil covid.

 

Roedd y Cadeirydd yn gwerthfawrogi y bu cynnydd yn nifer y plant sy’n derbyn gofal yn genedlaethol ond roedd yn ymwybodol bod Ceredigion yn awdurdod llai ac y gallai fod ychydig yn fwy agored i’r risg.

 

Mynegodd Aelodau’r Pwyllgor eu gwerthfawrogiad o’r adran ac am eu gwaith caled mewn cyfnod heriol iawn.

 

Yn dilyn cwestiynau gan Aelodau’r Pwyllgor, cytunwyd i nodi cynnwys yr

adroddiad a lefelau’r gweithgarwch o fewn yr Awdurdod Lleol.

 

Dogfennau ategol: