Cofnodion:
Gadawodd y
Cynghorwyr Gareth Davies a Rhodri Evans y cyfarfod drwy gydol y drafodaeth ar
yr eitem ganlynol.
Cyflwynodd y
Cynghorydd Bryan Davies, Arweinydd y Cyngor yr adroddiad i'r Cyngor yn nodi bod
cais wedi dod i law ym mis Chwefror 2021 i gofrestru tir ym Maes Erw Goch,
Waunfawr ar y Gofrestr Meysydd Tref neu Bentref o dan Adran 15 o Ddeddf Tiroedd
Comin 2006. Mae'r tir o fewn
perchnogaeth Cyngor Sir Ceredigion, ac mae hefyd yn rhan o gais cynllunio ar
gyfer datblygiad preswyl a gwaith cysylltiedig.
Nododd fod y
Cyngor wedi ceisio cyngor cyfreithiol annibynnol, a bod rolau wedi'u gwahanu o
fewn gwasanaethau perthnasol er mwyn osgoi gwrthdaro buddiannau posibl. Mae'r Awdurdod Cofrestru wedi anfon hysbysiad
at bob person (ac eithrio'r ymgeisydd) y credir ei fod yn berchennog, les-ddeiliad,
tenant neu feddiannydd unrhyw ran o'r tir yr effeithiwyd arno a chyhoeddwyd
hysbysiad yn y Cambrian News a'i osod mewn gwahanol
fannau mynediad ar y tir. Nodwyd y
derbyniwyd 184 o gyflwyniadau ychwanegol pellach, a bod y Cyngor fel
tirfeddiannwr wedi cyflwyno gwrthwynebiad i'r cais i gofrestru'r Tir fel Maes
Tref neu Bentref drwy gyfreithwyr allanol.
Nid oes
gweithdrefnau ffurfiol ar waith ar gyfer penderfynu ar geisiadau, fodd bynnag
er mwyn ystyried rhinweddau'r cais a chymhwyso'r gyfraith, cynigir penodi
Bargyfreithiwr i ystyried y cais ar ran y Cyngor fel Awdurdod Cofrestru a bod
canfyddiadau'n cael eu hadrodd yn ôl i'r Cyngor i'w penderfynu'n derfynol ar y
mater.
Cwestiynodd yr
Aelodau'r cynnig i benodi Bargyfreithiwr, gan ofyn a oedd cyfarfodydd wyneb yn
wyneb a chyfryngu wedi'u hystyried gyda'r nod o ddod o ganfod cyfaddawd, ac a
fyddai'n briodol gofyn i awdurdod cyfagos weithredu fel Awdurdod Cofrestru. Nododd swyddogion mai'r Cyngor fyddai'n
gwneud y penderfyniad ar y cais, ac os mai eu penderfyniad hwy oedd peidio â
phenodi Bargyfreithiwr, byddent wedyn yn dibynnu ar y trafodaethau a'r
casgliadau sy'n deillio o Swyddogion ar y mater hwn. Byddai penodi Bargyfreithiwr annibynnol yn
rhoi sicrwydd i'r Aelodau bod y wybodaeth yn gyfreithiol gywir, ac y byddai'r
Cyngor yn llai agored i'w herio. Nodwyd
bod y Tir dan sylw wedi'i gynnwys yn y Cynllun Datblygu Lleol a bod cais a
gyflwynwyd i'r Pwyllgor Rheoli Datblygu wedi'i ohirio i ystyried y cais am Faes
y Dref neu'r Pentref, felly efallai y bydd perygl o fod yn agored i her o
gamweinyddu pe bai'r Cyngor yn cynnal trafodaethau gyda'r ymgeisydd ar hyn o
bryd. Nodwyd hefyd y gallai'r Cyngor
edrych ar weithdrefnau ar gyfer gweithio gydag awdurdod cyfagos er mwyn darparu
diogelwch ychwanegol.
Yn dilyn
pleidlais, PENDERFYNODD y Cyngor :
a) awdurdodi penodi Bargyfreithiwr i
weithredu fel asesydd annibynnol;
b) bod y Bargyfreithiwr yn cynghori ar
rinweddau'r cais i gofrestru'r Tir fel Maes Tref neu Bentref;
c) yn amodol ar y cyngor a roddwyd yn (b),
bod y Bargyfreithiwr yn cynnal Ymchwiliad Cyhoeddus neu unrhyw wrandawiad arall
a gynghorwyd gan y Bargyfreithiwr, a bydd y canfyddiadau a'r argymhelliad yn
cael eu hadrodd yn ôl i'r Cyngor i'w penderfynu ar y cais i gofrestru'r Dref
neu Faes y Pentref.
Dogfennau ategol: