Cofnodion:
Cyflwynodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd
Bryan Davies yr adroddiad ynghylch y Strategaeth Ddrafft ar gyfer
Gweithio Hybrid a’r Polisi Dros Dro
ar gyfer Gweithio Hybrid. Dywedwyd bod pandemig Covid-19 wedi gorfodi cyfyngiadau cenedlaethol ar symud a bod hynny wedi digwydd yn
sydyn ac wedi arwain at y gofyniad i aros gartref a gweithio gartref lle bynnag y bo
modd. Roedd y mesurau hyn yn ei gwneud yn ofynnol i’r
rhan fwyaf o staff swyddfa’r
Cyngor weithio mewn ffordd wahanol iawn. Ymatebodd y staff yn gyflym ac yn gadarnhaol
i’r newid hwn. Ar y cyfan, roedd yr ymateb cadarnhaol hwn yn bosibl
o ganlyniad i’r camau a gymerwyd eisoes tuag at ffordd fwy hyblyg a doethach
o weithio, gan gynnwys buddsoddi mewn offer a meddalwedd digidol, a gwella’r trefniadau gweithio hyblyg presennol a oedd eisoes ar waith.
Ar ôl ymateb yn dda
i heriau cychwynnol y pandemig, dywedwyd bod y ffocws wedi symud
i sut y gallai’r Cyngor ddysgu ac adeiladu o’r profiad. Sefydlwyd y prosiect y ‘Ffordd
Rydym yn Gweithio’ i adolygu’r arferion gweithio o bell a fabwysiadwyd yn ystod y pandemig. Nod y prosiect oedd archwilio’r
awydd am newid hirdymor o fewn y gweithlu gan sicrhau mai darparu gwasanaethau oedd y prif ffocws o hyd. Roedd y prosiect yn gyfle i archwilio
i ba raddau yr oedd
yna newid yn y weledigaeth strategol ehangach o ran ble, pryd a sut
y byddai’r sefydliad yn mynd ati i weithio.
Yn rhan
o’r prosiect, cynhaliwyd ymarfer ymgysylltu sylweddol â staff i gasglu adborth, profiadau, syniadau a gofynion o ran y gweithle yn y dyfodol er mwyn cefnogi penderfyniadau
strategol. Amcangyfrifir
bod 74% o’r gweithlu a oedd yn
gweithio gartref wedi cymryd rhan
mewn o leiaf un o’r gweithgareddau ymgysylltu hyn. Roedd y themâu a deilliai o’r ymarfer
ymgysylltu â staff yn ogystal â’r ymchwil, y tueddiadau a’r uchafbwyntiau cenedlaethol wedi bod yn sail i ddatblygiad y strategaeth gweithio hybrid.
Dangosodd yr ymarfer ymgysylltu â staff fod llawer o fanteision
i weithio gartref, ond roedd hefyd
yn cydnabod bod heriau i rai aelodau o staff. Roedd y manteision a nodwyd yn cynnwys
cyfarfodydd rhithiol, gwell cynhyrchiant, gwell cydweithio, llai o bethau i darfu ar eu
gwaith a llai o bethau i dynnu eu sylw oddi
ar eu gwaith. Roedd yr heriau a nodwyd yn cynnwys cysylltedd band eang gwael, diffyg gwahanu
rhwng y gwaith a’r cartref – “byw yn y swyddfa”,
teimlo’n unig oherwydd llai o gyfleoedd i gymdeithasu, a dim
man gweithio digonol yn eu cartref.
Gan ddefnyddio canfyddiadau ymchwil a thystiolaeth o’r ymarferion ymgysylltu â staff, datblygwyd y Strategaeth Gweithio Hybrid, a oedd
yn nodi’r egwyddorion a’r broses weithredu ar gyfer model gweithio hybrid a fyddai’n
cynnal y lefel uchel ofynnol o ran y gwasanaethau a ddarperir gan hefyd roi
mwy o hyblygrwydd i weithwyr
o ran cydbwyso eu gwaith a’u bywydau cartref. Anghenion y gwasanaeth fyddai’r brif flaenoriaeth
bob amser wrth ystyried unrhyw bosibiliadau gweithio hybrid. Cydnabuwyd na fyddai’r
lefel hon o hyblygrwydd yn bosibl i bob aelod o staff, oherwydd natur rhai rolau neu gyfyngiadau eraill, ond byddai ymrwymiad
o hyd i archwilio sut y gellir cynnwys
lefel o hyblygrwydd mewn rolau ar
draws y sefydliad. Yn ystod camau cychwynnol
y broses weithredu, byddai gwasanaethau Cyswllt Cwsmeriaid yn aros
ar-lein a thros y ffôn. Byddai desgiau’r dderbynfa yng Nghanolfan Rheidol a Phenmorfa hefyd ar gau
i ddechrau tra byddai’r gwasanaethau wyneb yn wyneb eraill
yn cael eu
cyflwyno’n raddol yn rhan o’r broses weithredu.
Dywedwyd bod y strategaeth yn cyflwyno cyfres o flaenoriaethau gan gynnwys a) ffyrdd hyblyg a symudol o weithio; b) cynaliadwyedd amgylcheddol ac ariannol; ac c) rhoi gwell profiad
i gwsmeriaid.
Yn ogystal, nodwyd cyfres o baramedrau er mwyn llunio’r model gweithio hybrid,
megis, lle gall ein staff weithio mor effeithlon o bell neu
yn y swyddfa gallant ddewis lle maent yn gweithio
ar unrhyw ddiwrnod penodol’; ‘ni fydd gan ein staff gweithio
hybrid ddim lle
personol parhaol yn y swyddfa, ac eithrio mewn amgylchiadau
eithriadol’ a ‘bydd ein cyfarfodydd
gyda chydweithwyr a phartneriaid allanol yn rhithwir lle
bynnag y bo modd’.
Er mwyn nodi gwahanol fathau o rolau ar draws y gweithlu corfforaethol, cyflwynwyd pedair ffordd o weithio: Sefydlog - Rôl sy’n
gofyn i ddeiliad y swydd fynd i’r
gweithle drwy gydol y dydd oherwydd natur a gofynion y rôl, ac felly nad yw’n addas ar gyfer
gweithio hybrid. Roedd y tair ffordd arall a oedd
yn weddill i gyd yn fathau
o weithio hybrid – Hybrid Hyblyg, Hybrid Cyfyngedig,
a Chrwydrol. Roedd categoreiddio rolau yn y ffordd hon yn helpu i bennu
gofynion o ran offer TGCh, dulliau hyfforddi a datblygu, a gofynion swyddfa. Byddai rheolwyr corfforaethol ym
mhob gwasanaeth yn rhoi pob
rôl o fewn eu timau yn
un o’r categorïau hyn. Byddai’r categoreiddio’n
dibynnu ar y rôl a natur eu gwaith.
Dywedodd y Swyddog Arweiniol Corfforaethol: Economi ac Adfywio fod tair ffrwd
waith wedi’u creu i gefnogi’r broses o roi’r model gweithio hybrid ar waith, a bod pob un ohonynt yn cael eu
cadeirio gan Swyddog Arweiniol Corfforaethol ac yn adrodd i Fwrdd
Prosiect Ffyrdd o Weithio. Roedd y ffrydiau gwaith fel a ganlyn:
Cynllunio’r Gweithle
– yn gyfrifol am ailgynllunio mannau gwaith i gynyddu
cynwysoldeb, hyblygrwydd ac i
gefnogi ffyrdd newydd o weithio ar gyfer y gweithlu
a chwsmeriaid.
Atebion Digidol – yn gyfrifol am adolygu a gwella atebion digidol i gefnogi cydweithio, gweithio hybrid, a gwell gwasanaeth i gwsmeriaid.
Polisïau, Gweithdrefnau a Datblygiad – yn gyfrifol am adolygu
polisïau a
gweithdrefnau presennol yn ogystal â datblygu
rhai newydd i gefnogi ffyrdd newydd o weithio.
Datblygwyd y Polisi Gweithio Hybrid Dros Dro i ddarparu gwybodaeth fanwl am yr hyn yr
oedd gweithio hybrid yn ei
olygu i’r Cyngor. Byddai’n cefnogi gweithwyr a’u rheolwyr
i roi gweithio hybrid ar waith drwy
ddarparu cyngor a gwybodaeth ymarferol, gan alluogi gweithwyr i weithio
o’r swyddfa neu gartref yn effeithiol, yn gynhyrchiol ac yn ddiogel.
Y cynnig oedd
y byddai’r polisi ar waith am gyfnod
o 18 mis i ganiatáu i weithio
hybrid gael ei dreialu wrth i’r
rheolwyr a’n gweithlu nodi ffordd newydd effeithiol o weithio ar ôl
y pandemig. Ar ddiwedd y cyfnod hwn, byddai’r Polisi
Gwaith Hybrid yn disodli’r polisi dros dro
a byddai polisïau eraill yn cael
eu hadolygu i sicrhau eu bod yn addas i’r diben
mewn tirlun newydd.
Bu’r polisi
yn destun ymgynghoriad gyda’r Undebau Llafur cydnabyddedig a’r rhai a fu’n rhan o’r gwaith
o ddatblygu’r ddogfen o’r camau cynnar.
Cafodd eu hadborth a’r diwygiadau
a awgrymwyd ganddynt eu cynnwys
lle bo hynny’n
briodol.
Amlinellwyd y prif
benawdau polisi fel a ganlyn:
- Cyflymder band eang digonol
- Darparu’r offer angenrheidiol ar gyfer gweithio cynhyrchiol
- Sicrhau y parheir i gadw gwybodaeth yn ddiogel
- Amgylchedd gweithio diogel
- Dychwelyd i’r
gweithle os amherir ar y cysylltiad
- Dim ond gweithio o leoliadau gweithio o bell sydd wedi’u cofnodi
- Mynd i’r lleoliad gwaith os oes
angen
Pwrpas yr holl bolisïau a gweithdrefnau staff oedd nodi’r ymddygiad, y prosesau a’r gweithdrefnau
yr oedd yn
ofynnol i’r staff eu dilyn, sut
y gallent gael cyngor neu gymorth a, lle bo’n berthnasol,
canlyniadau peidio â chadw at y polisi a/neu’r weithdrefn.
Yn dilyn
cwestiynau a sylwadau o’r llawr, CYTUNWYD i argymell bod y Cabinet yn cymeradwyo’r Strategaeth Gweithio Hybrid a’r Polisi Gweithio Hybrid yn amodol ar
y newidiadau canlynol:
Dogfennau ategol: