Eitem Agenda

Adroddiad Blynyddol Safonau'r Gymraeg 2021-22

Cofnodion:

Rhoddodd y Swyddog Iaith fraslun o fframwaith gyfreithiol Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 a’r gofynion i lunio Adroddiad Monitro Safonau’r Gymraeg.

Soniodd y Swyddog am brif gyflawniadau 2021-2022 a nodwyd yn yr adroddiad, sef:

Ø  Arloesi, gan addasu’n gyflym i argyfwng y Coronafeirws, drwy drefnu cyfarfodydd democrataidd yn rhithiol, gydag adnoddau cyfieithu ar y pryd o’r Gymraeg i’r Saesneg. Roedd hyn yn sicrhau bod y Cyngor yn medru gwarchod y defnydd y Gymraeg mewn cyfarfodydd cyhoeddus.

Ø  Sicrhau bod gwasanaeth gofal cwsmer Clic Ceredigion yn cynnig gwasanaethau Cymraeg yn rhagweithiol ar y pwynt cyswllt cyntaf; a’u bod yn cofnodi’r dewis iaith hwnnw at ddibenion ymwneud â’r cwsmer eto.

Ø  Ffrydio cyfarfodydd y Cabinet a’r Cyngor ar Facebook – defnyddio’r platfform Cyfryngau Cymdeithasol i hysbysu fod ffrwd Gymraeg a Saesneg ar gael.  Cafodd y ffrwd Gymraeg (prif iaith y cyfarfodydd) ei darlledu ar y cyfrif Facebook gyda’r gwasanaeth cyfieithu ar y pryd yn cyflwyno’r cyfieithiad Saesneg gan hyrwyddo’r egwyddor o ddefnyddio’r Gymraeg mewn gweinyddiaeth gyhoeddus.

Ø  Defnyddio diwrnodau penodol yn y calendr cenedlaethol i godi ymwybyddiaeth o’r Gymraeg, trefnu gweithgareddau rhithiol ar Ddydd Gŵyl Dewi, Dydd Miwsig Cymru, a Diwrnod Hawliau’r Gymraeg.

Ø  Cynnal gweithdy Fforwm Dyfodol Dwyieithog, er mwyn adolygu lle’r ydym wedi cyrraedd gyda Strategaeth Iaith Ceredigion, gan ystyried hefyd beth yn rhagor fydd angen ei wneud er mwyn paratoi ar gyfer y Strategaeth ddilynol.

 

Nododd y Swyddog Iaith fod Comisiynydd y Gymraeg, yn ei Adroddiad Sicrwydd ‘Cau’r Bwlch’, yn gosod disgwyliad ar y Cyngor i hunanreoleiddio ei berfformiad ar sail gofynion Safonau’r Gymraeg. Gyda chydsyniad y Grŵp Arweiniol, fe wnaethom gynnal adolygiad o ddetholiad o Safonau sy’n ymwneud ȃ darparu gwasanaeth, yn ogystal ȃ rhai o’r Safonau Gweithredu sy’n ymwneud ȃ gweinyddiaeth fewnol. Gofynnwyd i bob Swyddog Arweiniol Corfforaethol sgorio ei wasanaeth yn ôl elfennau o’r Safonau Iaith, mewn ymgais i fesur cydymffurfiaeth ar hyn o bryd.

Y prif ganfyddiad oedd bod y Cyngor yn perfformio yn eithaf da ar sail gofynion y Safonau sy’n ymwneud ȃ darparu gwasanaethau sylfaenol. Hynny yw, gall defnyddwyr fod yn hyderus o gael gwasanaeth dros y ffôn, gwasanaeth ysgrifenedig, a gwasanaethau y gellir cynllunio ar eu cyfer yn Gymraeg. Mae defnyddiwr yn llai tebygol o gael gwasanaethau mwy personol neu wasanaeth wyneb yn wyneb yn y Gymraeg. Er bod y Cyngor yn anelu at barchu dewis iaith y defnyddwyr, mae’n ddibynnol iawn ar yr arbenigedd sydd ei angen a’r sgiliau iaith sydd ar gael ar wahanol shifftiau.  Mae’r canfyddiad hwn yn unol ȃ’r canfyddiadau cenedlaethol sydd wedi’u casglu gan Gomisiynydd y Gymraeg: Adroddiad Sicrwydd ‘Cau’r Bwlch’. Yn dilyn y gwaith hunanreoleiddio hwn hysbyswyd y bydd adolygiad o gynllun gweithredu Safonau’r Gymraeg a fydd o fudd o ran cynllunio gwaith ar gyfer y cyfnod nesaf. 

Roedd yr adroddiad hwn yn nodi cynnydd y Cyngor wrth gyflawni gofynion Safonau’r Gymraeg ynghyd ȃ chyflwyno data penodol ar gyfer blwyddyn ariannol 2021-22. Adroddwyd y gellir bod yn falch o’r cynnydd ond bod gwelliannau i’w gwneud o hyd wrth ddarparu gwasanaethau’r Cyngor yn Gymraeg. Fodd bynnag, roedd cyfnod y pandemig a gweithio o bell wedi creu nifer o heriau o ran cynllunio ar gyfer y Gymraeg, a bydd angen i’r Cyngor fod yn wyliadwrus ohonynt wrth symud ymlaen i’r cyfnod nesaf.

Heriau wrth symud ymlaen:

Ø  Rhaid cydnabod bod gweithio o bell wedi cynnig cyfleoedd newydd i staff, ond o bosib roedd wedi cael effaith llai cadarnhaol ar y defnydd o’r Gymraeg.  Mae’n bosib iawn nad oedd nifer fawr o swyddogion wedi clywed, gweld neu siarad Cymraeg yn y cyfnod hwnnw, a gallai hyn effeithio ar eu hyder i ddefnyddio’r Gymraeg gyda defnyddwyr gwasanaethau. 

Ø  Yn y cyfnod adsefydlu ar ôl y pandemig, roedd sawl sector ar draws yr Awdurdod yn ei chael hi’n anodd iawn i recriwtio gweithwyr proffesiynol; er enghraifft, mae prinder mawr o weithwyr gofal cymdeithasol proffesiynol sy’n medru’r Gymraeg.  Roedd yn allweddol bwysig sicrhau bod gan y gweithlu'r sgiliau priodol er mwyn darparu'r cynnig rhagweithiol o wasanaeth Cymraeg.

Ø  Roedd pob cwrs dysgu Cymraeg wedi cael ei gyflwyno’n rhithiol yn ystod y cyfnod hwn. Mae’n bosib iawn y bydd y newid hwn yn arafu datblygiad rhai unigolion gan nad yw’r un cyfleoedd ar gael gartref i ymarfer eu sgiliau rhwng y gwersi mwy ffurfiol. Bydd rhai dysgwyr ddim yn gweld na chlywed y Gymraeg am gyfnodau hir rhwng y gwersi ffurfiol.  Rydym hefyd wedi colli’r sgwrsio anffurfiol a oedd yn digwydd wrth y llun-gopïwr neu dros baned, a oedd yn sefydlu’r arfer o ddefnyddio’r Gymraeg yn naturiol.

Ø  Wrth edrych ar y data cyfredol sydd ar gael, nid yw nifer y bobl sy’n dewis defnyddio gwasanaethau Cymraeg y Cyngor yn cyfateb â’r nifer sy’n gallu siarad Cymraeg o fewn y Sir.   Mae gan Gyngor Sir Ceredigion staff gweithgar ac ymroddedig sy’n siarad Cymraeg ar draws holl wasanaethau’r Cyngor, ac rydym am annog pobl i gysylltu gyda’r Cyngor yn y Gymraeg, ac i ddefnyddio’r gwasanaethau Cymraeg sydd ar gael iddynt.

 

Yn ystod y cyfnod nesaf, nodwyd y byddai angen edrych yn fwy manwl ar sut mae’r Cyngor yn darparu’r cynnig rhagweithiol o wasanaeth Cymraeg, a sut mae’n trefnu ei wasanaethau fel bod siaradwyr Cymraeg yn fwy tebygol o ddefnyddio’r gwasanaethau Cymraeg sydd ar gael iddynt. Er mwyn mynd i’r afael â’r mater hwn, dyma restr o’r camau gweithredu a oedd angen eu hystyried:

  • Datblygu pecyn hyfforddi i Gynghorwyr ar ofynion Safonau’r Gymraeg, yn dilyn etholiad mis Mai 2022. 
  • Adolygu’r Polisi Grantiau er mwyn sicrhau bod arfer da Comisiynydd y Gymraeg wedi ei amlygu.
  • Adolygu Canllaw’r Asesiad Effaith Integredig, er mwyn helpu Swyddogion i nodi unrhyw effaith ar y Gymraeg wrth lunio polisi. 
  • Llunio adroddiad sy’n amlinellu’r hyn mae Strategaeth Iaith Ceredigion wedi’i gyflawni, a pharatoi ar gyfer datblygu’r Strategaeth ar gyfer y pum mlynedd nesaf. 
  • Cydlynu grŵp prosiect i ddatblygu ‘Pecyn Croeso’ mewn ymgais i geisio cymhathu mewnfudwyr: gwaith sy’n deillio o’r Fforwm Dyfodol Dwyieithog.
  • Cyflwyno cynllun sy’n argymell gwelliannau er mwyn cyflawni gofynion y Safonau Gweithredu defnyddio'r Gymraeg yn fewnol a hyrwyddo'r cysyniad o weithle dwyieithog
  • Cyfrifiad 2021: Dadansoddi Data Siaradwyr Cymraeg

 

Yn dilyn cwestiynau o’r llawr, CYTUNWYD i

(i) dderbyn yr adroddiad,

(ii) cymeradwyo bod yr adroddiad llawn yn cael ei gyflwyno i Gabinet y Cyngor ar gyfer ei gymeradwyo ac wedyn ei gyhoeddi ar wefan corfforaethol y Cyngor, fel sy’n ofynnol dan drefn Safonau’r Gymraeg, yn unol â Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011; a

(iii) diolch i’r Swyddog Polisi Iaith am ei chyflwyniad a’i hadroddiad manwl

 

Codwyd y materion canlynol yn dilyn y cyflwyniad ar yr adroddiad:

  • Bod angen helpu Swyddogion sy’n gallu siarad Cymraeg i fod yn fwy hyderus wrth gyflwyno a rhoi adroddiadau yn Gymraeg mewn pwyllgorau a hyfforddiant. Adroddwyd bod cyrsiau ar gael o fewn y Cyngor i bob Swyddog i wella sgiliau, megis cwrs "Gloywi Iaith".
  • Bod angen i Gynghorau Tref a Chymuned gael darpariaeth cyfieithu yn eu cyfarfodydd gan fod rhai cyfarfodydd yn digwydd dim ond drwy gyfrwng y Saesneg erbyn hyn. Nodwyd bod gan CERED offer cyfieithu y gellid ei ddarparu, fodd bynnag, byddai angen cyfieithydd a oedd yn costio tua £600 y flwyddyn i un Cyngor. Dywedodd y Swyddog Iaith fod hyn wedi cael ei drafod o'r blaen, ac er mwyn cynorthwyo Cynghorau y gallai Cynghorwyr gyfieithu’r mater dan sylw yn fras i'r sawl sy’n ddi-Gymraeg. Ni fyddent yn trosi gair am air fel y byddai cyfieithydd proffesiynol yn ei wneud. Adroddwyd bod hwn yn fater yr oedd yn rhaid i’r Cyngor Tref a Chymuned ei hun ei ddatrys ac nad oedd yn gyfrifoldeb i'r Cyngor Sir. Gallent hefyd ofyn am gyngor gan Un Llais Cymru.
  • Ystyried ysgrifennu yn Gymraeg mewn ffordd fwy clir a syml er mwyn annog dysgwyr.
  • Bod angen creu pecyn gwybodaeth i'w ddosbarthu i'r sector gofal ynglŷn â’r angen i sicrhau bod staff ar gael sy’n gallu siarad Cymraeg â'r cleifion. Dywedodd y Swyddog Iaith ei bod yn deall bod hyn ar gael eisoes; byddai'n cysylltu â'r Bwrdd Iechyd Lleol i gael copi ac yn ei ddosbarthu wedyn i'r Aelodau.

 

Dogfennau ategol: