Cofnodion:
Ymddiheurodd
Gavin Bown am na fedrai fod yn bresennol yn y cyfarfod
a gynhaliwyd ym mis Ionawr. Rhoddodd Gavin Bown gyflwyniad i’r Pwyllgor gan
amlinellu’r canlynol:
·
Cefndir
·
Afonydd
ACA yng Nghymru
·
Safonau
·
Strwythur
y Targedau Newydd
·
Trosolwg
o’r afonydd ACA yng Nghymru (gan gynnwys mapiau) cyn canolbwyntio ar Afon Teifi
·
Goblygiadau
·
Ymateb
Cyfoeth Naturiol Cymru
·
Byrddau
Rheoli Maethynnau (gan gynnwys Bwrdd Rheoli Maethynnau Afon Teifi)
·
Grwpiau
Allanol
·
Y
Camau Nesaf – ledled Cymru / Afon Teifi
Ar ôl y
cyflwyniad, cafodd Aelodau’r Pwyllgor y cyfle i holi Gavin Bown. Dyma’r prif
bwyntiau / pryderon a godwyd:
·
Gofynnodd un o’r Aelodau a oedd Cyfoeth
Naturiol Cymru yn fodlon ei fod wedi cydymffurfio â phum ffordd o weithio Deddf
Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol cyn cyhoeddi’r cyngor gwreiddiol. Wrth ymateb,
dywedodd Gavin Bown fod Cyfoeth Naturiol Cymru yn gyffredinol yn ceisio dysgu
gwersi o bob elfen o’r broses a bod hyn yn cynnwys creu fframwaith i sicrhau
bod unrhyw drafodaeth ac ymgynghoriad yn cael eu cynnal yn y ffordd briodol yn
y dyfodol.
·
Roedd Cyfoeth Naturiol Cymru yn cynnal nifer o brosiectau mawr
ar draws Cymru ar hyn o bryd i wella ansawdd dŵr a
oedd wedi’i lygru gan waith cloddio mwynau. Byddai Gavin Bown yn rhoi
diweddariad ysgrifenedig i Aelodau’r Pwyllgor am y sefyllfa yng Nghwm Rheidol.
·
Holodd un o’r Aelodau a oedd Cyfoeth
Naturiol Cymru wedi troi at ymgynghorwyr wrth baratoi ar gyfer gwaith lliniaru
posibl er bod data ar gael am y sefyllfa ar Afon Gwy a bod Awdurdodau Lleol
eraill wedi comisiynu tystiolaeth gyffelyb. Wrth ymateb, dywedwyd bod Cyfoeth
Naturiol Cymru wedi pwyso am sefydlu Grŵp Goruchwylio er mwyn osgoi
dyblygu gwaith a sicrhau bod y cyhoedd yn cael gwerth am arian.
·
Roedd cyfrifiannell maethynnau Sir Gaerfyrddin wedi’i datblygu’n
benodol ar gyfer Afon Tywi ond byddai gwaith yn cael ei wneud fel rhan o’r
Grŵp Goruchwylio i ystyried cyfrifianellau eraill a datblygu cyfrifiannell
a fyddai’n addas ar gyfer pob afon. Roedd angen ystyried sut y gallai Cyfoeth
Naturiol Cymru reoli allbynnau’r cyfrifianellau.
·
Byddai Cyfoeth Naturiol Cymru ynghyd â phob Bwrdd Rheoli
Maethynnau yn rhan o’r Grŵp Gorchwylio i sicrhau ffordd gydgysylltiedig o
weithio ond roedd yn bwysig deall bod gan bob afon ei gwahanol anghenion ac y
byddai’r atebion yn amrywio.
·
Wrth ymateb i gwestiwn am ansawdd dŵr, esboniodd Gavin Bown
fod y safonau diwygiedig yn amrywio rhwng afonydd gan eu bod yn ystyried y
cefndir naturiol. Ychwanegodd fod y safonau yn gyffredinol rhwng 50 ac 80% yn
llymach na’r rhai blaenorol.
·
Roedd Cyfoeth Naturiol Cymru wedi atal yr Awdurdod Lleol rhag
datblygu ymhellach ar Afon Teifi (gan effeithio ar 40% o Geredigion), am fod yr
afon mewn ardal cadwraeth arbennig. Gwnaed hyn ar ôl cynnal asesiad
cydymffurfio yr oedd yn rhaid i’r adran gynllunio ei dilyn. Serch hynny, fel
rhan o’r broses ymgynghori ar geisiadau cynllunio, roedd Cyfoeth Naturiol Cymru
yn ymgynghoreion statudol ond roeddent yn ymateb drwy ddweud nad
oedd ganddynt wrthwynebiadau i geisiadau i ddatblygu anheddau newydd ar Afon
Teifi. Codwyd pryderon ynghylch hyn gan fod hyn yn rhoi’r argraff i’r cyhoedd
mai’r adran gynllunio / Aelodau Etholedig oedd yn atal datblygiadau yn hytrach na Chyfoeth Naturiol Cymru ac felly roedd angen tryloywder.
Awgrymodd Gavin Bown y dylai enghreifftiau gael eu
hanfon ato fel y gallai ymchwilio iddynt.
·
Esboniodd Alan Davies fod materion yn ymwneud â ffosffadau yn
golygu bod tua 40 o geisiadau heb gael caniatâd eto a
dyna’r unig beth oedd yn eu dal yn ôl. Ychwanegodd fod yr adran yn ymddiheuro’n
barhaus i’r cyhoedd oherwydd diffyg ymateb Cyfoeth Naturiol Cymru. Cadarnhaodd
Gavin Bown fod gwaith yn cael ei wneud ar hyn o bryd ar y Canllawiau Ffosffadau
ond bod y gwaith yn cymryd ychydig yn fwy o amser na’r disgwyl er mwyn sicrhau
bod y cyngor yn gywir a’i fod o gymorth i Awdurdodau Lleol. Ar ôl i’r
canllawiau gael eu cwblhau, byddent yn cael eu rhannu
ar unwaith â’r adrannau cynllunio.
·
Amcan Cyfoeth Naturiol Cymru oedd lleihau lefelau’r ffosffadau i
sicrhau na fyddai cyfyngiadau ar y gwaith oedd angen
ei wneud. Roedd Gavin Bown yn ymwybodol bod y cyfarfod gyda Dŵr Cymru o
bosib wedi canolbwyntio mwy ar garthion ac felly nid oedd cynnwys rhyw lawer am
hyn yn ei gyflwyniad ef.
·
Roedd Aelodau’r Pwyllgor yn teimlo bod y byd amaeth yn cael ei
feio gan fod awgrym wedi’i wneud bod 80% o’r ffosffadau yn deillio o’r
diwydiant amaeth. Nid oedd neb yn siŵr a oedd rhywun wedi cysylltu ag adrannau amaeth y prifysgolion (gan gynnwys Sefydliad y
Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) ym Mhrifysgol Aberystwyth) o
ystyried eu gwybodaeth a’u harbenigedd; Dywedodd Gavin Bown y byddai’n
ymchwilio i hyn.
·
Roedd ystyriaeth yn cael ei rhoi ar hyn o bryd i’r posibilrwydd
o sefydlu is-grŵp amaethyddol cenedlaethol. Pe byddai’n cael ei sefydlu,
byddai adrannau amaeth y prifysgolion ynghyd ag
undebau’r ffermwyr (e.e. yr FUW a’r NFU) yn cael eu gwahodd i fod yn bresennol.
Cadarnhaodd y Cynghorydd Rhodri Evans (Cadeirydd Bwrdd Rheoli Maethynnau
Ceredigion) y byddai cynrychiolydd o’r sector amaethyddol yn cael ei wahodd i
gyfarfod Bwrdd Rheoli Maethynnau Ceredigion. Dywedodd Gavin Bown y byddai’n
gwirio a oedd undebau’r ffermwyr yn rhan o’r Grŵp
Goruchwylio.
·
O ran y Byrddau Rheoli Maethynnau, nid oedd Gavin Bown yn
ymwybodol o unrhyw gefnogaeth ariannol oddi wrth Gyfoeth Naturiol Cymru na Llywodraeth Cymru ar gyfer datblygu cynlluniau rheoli ac
nid oedd ychwaith yn ymwybodol y byddai rhywun yn goruchwylio’r byrddau yn yr
un modd ag yr oedd Natural England yn ei wneud yn Lloegr. Yn sgil pryderon na fyddai dim cynnydd yn cael ei wneud fel arall, byddai
Gavin Bown yn codi’r mater hwn ar lefel uwch. Gofynnwyd hefyd i’r Cynghorydd
Rhodri Evans fel y Cadeirydd yng Ngheredigion godi hyn gyda Chadeiryddion
eraill y Byrddau Rheoli Maethynnau. Roedd y Byrddau Rheoli Maethynnau yn cael
eu hannog i gydweithio â’i gilydd a chysylltu â’r Grŵp Goruchwylio lle
bynnag bo modd.
·
Ar ôl cyfraniad gan un o’r Aelodau,
dywedodd Gavin Bown nad oedd yn ymwybodol o brofiad Norfolk o ran ffosffadau
ond nododd fod trafodaethau wedi’u cynnal gydag asiantaethau eraill yn Lloegr.
Byddai felly yn codi’r mater hwn ynghyd â’r wybodaeth ynglŷn â’r cwmnïau
yn Ewrop a oedd yn arbenigo mewn tanciau i gasglu
ffosffadau gyda’i gydweithwyr.
·
Roedd Afon Hirwaun ac Afon Dulais yn rhan o’r Prosiect Gwella
Cynefinoedd Pysgodfeydd. Byddai Gavin Bown yn anfon rhagor o wybodaeth am y
gwaith hwn at yr Aelodau.
·
Mynegwyd pryder ynghylch y ffordd yr oedd y cyngor cynllunio
interim wedi’i gyhoeddi ym mis Ionawr 2021 gan nad
oedd cyfnod o ras wedi’i roi. Dywedwyd bod busnesau a sefydliadau yn gwneud
cynlluniau at y dyfodol ond nad oedd Cyfoeth Naturiol
Cymru wedi ystyried hyn. Hefyd, dywedwyd y dylai’r Byrddau Rheoli Maethynnau
a’r Canllawiau Ffosffadau wedi bod ar waith cyn cyflwyno’r newidiadau.
·
Roedd Aelodau’r Pwyllgor yn teimlo’n gryf nad oedd ardaloedd
gwledig fel Ceredigion
yn cael eu trin yn deg a gofynnwyd cwestiynau paham nad oedd manylion ynghylch
yr Ardaloedd Cadwraeth Arbennig Morol wedi’u cyhoeddi eto. Dywedodd Gavin Bown nad oedd yn ymwybodol o unrhyw resymau gwleidyddol na
rhesymau eraill paham fod yna oedi wedi bod o ran cyhoeddi’r data hwn.
·
Unwaith y byddai’r manylion am yr Ardaloedd Cadwraeth Arbennig
Morol yn cael eu cyhoeddi, gallai 90% o Geredigion wynebu sefyllfa lle na fyddai modd datblygu o gwbl hyd nes y byddai mesurau
lliniaru ar waith. Nid oedd dim byd mewn grym ar hyn o bryd. Nododd Gavin Bown
y gallai unrhyw beth a ddysgwyd o’r gwaith ar Ardaloedd Cadwraeth Arbennig yr
Afonydd gael ei ddefnyddio yn y dyfodol wrth ganfod
atebion i broblemau a allai godi o ran yr Ardaloedd Cadwraeth Arbennig
Morol.
·
Roedd swyddogion Dŵr Cymru wedi rhoi sicrwydd mai ychydig
iawn o ffosffadau oedd yn cael ei ryddhau o’r Safle Trin Dŵr Gwastraff.
Roedd angen buddsoddiad sylweddol yn y Safle Trin Dŵr Gwastraff er mwyn
gosod y cyfarpar angenrheidiol ar gyfer tynnu ffosffadau allan
o’r dŵr ond nid oedd y gwaith hwn wedi’i gynnwys yng nghynlluniau Dŵr
Cymru hyd yma a dywedwyd bod hyn yn bryder.
·
Codwyd pryderon mawr bod Ardaloedd Cadwraeth Arbennig yr Afonydd
yr oedd Cyfoeth Naturiol Cymru wedi’u cyflwyno wedi golygu bod yn rhaid rhoi’r
gorau i ddatblygiadau mewn mannau o Geredigion ond dywedwyd nad
oedd Cyfoeth Naturiol Cymru yn barod i fynd i’r afael â hyn. Teimlai Aelodau’r
Pwyllgor fod hyn yn cael effaith andwyol ar yr economi leol gan gynnwys
cyfleoedd gwaith. Ychwanegwyd bod hyn yn effeithio ar benderfyniadau pobl o ran
byw a gweithio yn yr ardal, ac yn benodol pobl ifanc a’u teuluoedd. Teimlwyd yn
gryf bod angen i Gyfoeth Naturiol Cymru a Llywodraeth Cymru gynnig cyfarwyddyd
clir ynghylch y ffordd ymlaen a chanfod ateb i’r broblem hon.
·
Esboniodd Gavin Bown ei fod yn deall yn llwyr bwysigrwydd y
mater hwn i Aelodau’r Pwyllgor a’r angen i sicrhau bod y gwaith hwn yn cael ei
wneud ar fyrder. Ychwanegodd ei bod yn allweddol i bawb gydweithio â’i gilydd
er mwyn canfod ateb ac mai dyna oedd Cyfoeth Naturiol Cymru yn ceisio ei wneud
yn genedlaethol a fesul dalgylch. Dywedodd y byddai’n trafod y materion a
godwyd yn y cyfarfod heddiw â’r bobl briodol.
Ar ran Aelodau’r Pwyllgor, diolchodd y Cadeirydd i Gavin
Bown o Gyfoeth Naturiol Cymru am fod yn bresennol yn y cyfarfod ac am ei
gyfraniad gwerthfawr.
Yn dilyn awgrym, cytunodd Aelodau’r Pwyllgor y byddai’r
Cadeirydd yn ysgrifennu at Gadeirydd Cyfoeth Naturiol Cymru a Llywodraeth Cymru
i fynegi’r pryderon a godwyd yn ystod y cyfarfod heddiw
Dogfennau ategol: