Cofnodion:
Trafodwyd adroddiad Swyddog Arweiniol Corfforaethol – yr Economi ac Adfywio ynghylch ceisiadau datblygu, hysbysebu, statudol a’r awdurdod lleol:-
Bu i Ms Jane Morgan (Ymgeisydd) annerch y Pwyllgor yn unol â’r atodiad
dros dro i’r weithdrefn weithredol sy’n caniatáu i’r cyhoedd annerch y Pwyllgor
Rheoli Datblygu yn sgil COVID-19.
A210091 Cais cynllunio ôl-weithredol ar gyfer sied storio offer
amaethyddol a gwelliannau i’r fynedfa bresennol i gerbydau, Tir gyferbyn â Than
yr Allt, Coxhead, Tregaron
GOHIRIO’R penderfyniad ar y cais i ofyn i’r
ymgeisydd ddarparu’r wybodaeth ychwanegol a gyflwynwyd ganddi yng nghyfarfod y
Pwyllgor.
_____________________________________________________________________
Darllenwyd llythyr ar
ran Mr Jeremey Davies (Ymgeisydd) i’r Pwyllgor yn
unol â’r atodiad dros dro i’r weithdrefn weithredol sy’n caniatáu i’r cyhoedd
annerch y Pwyllgor Rheoli Datblygu yn sgil COVID-19.
A210408 Addasiadau
mewnol sy’n ofynnol i leoli llety byw ar y llawr cyntaf ac ystafelloedd gwely
ar y llawr daear, gan addasu ffenestri’r wedd gefn yn unig, Island House, Maes yr Hafan, Aberaeron
CYMERADWYO’R cais yn ddibynnol ar amodau.
_____________________________________________________________
Darllenwyd llythyr ar ran Mr Rob
Thomas (Asiant) i’r Pwyllgor yn unol â’r atodiad dros dro i’r weithdrefn
weithredol sy’n caniatáu i’r cyhoedd annerch y Pwyllgor Rheoli Datblygu yn sgil
COVID-19.
A210573 Codi annedd newydd, Tir wrth ymyl Maes y Fedwen, Tre-saith
GOHIRIO’R penderfyniad ar y cais er mwyn i’r ymgeisydd ystyried, a chytuno i godi, annedd fforddiadwy a gaiff ei sicrhau drwy gytundeb Adran 106, gan ganiatáu i Swyddog Arweiniol Corfforaethol – yr Economi ac Adfywio gymeradwyo’r cais os yw’r ymgeisydd yn cytuno. Os na fydd yr ymgeisydd yn cytuno i godi annedd fforddiadwy, caiff y cais ei atgyfeirio at y Grŵp Gorchwyl a Gorffen am gyfnod “callio”.
-------------------------------------------------------------------------------------------------------------
Bu i Mr Richard Banks (Asiant) annerch y Pwyllgor yn unol â’r atodiad dros dro i’r weithdrefn weithredol sy’n caniatáu i’r cyhoedd annerch y Pwyllgor Rheoli Datblygu yn sgil COVID-19.
A210697 Amrywio amodau 4, 6, 7, 8 a 13 caniatâd cynllunio A160636 i gydymffurfio â Chynllun Safle cyfeirnod 2538-505-REV B a Chynllun Peirianyddol cyfeirnod 2538_(00)02_101-REV A yn hytrach na Chynllun Safle Dangosol RB/0054cREV4- Mawrth 2017, Tir oddi ar Ffordd Newydd, Aber-porth, Aberteifi
CYMERADWYO’R cais yn ddibynnol ar amodau a chytundeb cyfreithiol adran 106.
Roedd yr Aelodau am iddi gael ei nodi eu bod wedi gofyn a allai’r ymgeisydd ddarparu mwy o dai fforddiadwy drwy’r cynllun. Bu i’r swyddog ymateb drwy ddweud bod yr ymgeisydd wedi darparu tri thŷ fforddiadwy yn unol â’r polisi.
_______________________________________________________________________
A211113 Amrywio
amod 3 caniatâd cynllunio A160636 – i estyn y cyfnod ar gyfer cyflwyno’r
materion a gadwyd yn ôl, Tir oddi ar Ffordd Newydd, Aber-porth, Aberteifi
CYMERADWYO’R cais yn ddibynnol ar amodau a chytundeb
adran 106.
_____________________________________________________________________
Bu i Ms Helen Ashby-Ridgway (Asiant) annerch y Pwyllgor yn unol â’r atodiad dros dro i’r weithdrefn weithredol sy’n caniatáu i’r cyhoedd annerch y Pwyllgor Rheoli Datblygu yn sgil COVID-19.
A210888 Cynnig i
ddatblygu seiliau i leoli carafannau sefydlog ac i
addasu’r pwll presennol, gyda gwaith cysylltiedig o ran mynediad, parcio ceir,
tirweddu, a seilwaith draenio, Parc Gwyliau Quay
West, Cei Newydd
GOHIRIO’R penderfyniad, gan roi pwerau i’r Swyddog
Corfforaethol Arweiniol GYMERADWYO’R cais yn ddibynnol ar amodau, ar yr amod
bod yr Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd yn dod i’r casgliad na fydd y datblygiad
arfaethedig yn effeithio’n andwyol ar Ardaloedd Cadwraeth Arbennig Bae
Ceredigion a Gorllewin Cymru Forol.
Hefyd, bod cais
yn cael ei wneud am i’r cwmni gyfarwyddo eu defnyddwyr i ddefnyddio’r briffordd
i Gei Newydd er mwyn iddynt gyrraedd Milkwood, yn
hytrach na theithio drwy bentref Llaingarreglwyd.
_____________________________________________________________________
A210914 Addasu tŷ allan yn ddwy
uned wyliau, Fferm Graig, Mwnt, Aberteifi
CYMERADWYO’R cais yn
ddibynnol ar amodau.
Roedd yr Aelodau’n tybio bod modd
cymeradwyo’r cais am y rhesymau a ganlyn:-
o
Mae’n
cynorthwyo i gydymffurfio â Strategaeth Gorfforaethol y Cyngor o ran hybu’r
economi a chydnerthedd economaidd
o
Mae
Polisi Cynllunio Cymru o blaid arallgyfeirio ffermydd ac ailadeiladu adeiladau
sy’n bodoli eisoes
o
O
gymeradwyo’r cais, bydd yn gwireddu lles cynllunio ac yn gwella’r adeiladau
presennol
o
Mae’r
Pwyllgor yn cytuno â pharagraffau 5.6.10 a 5.6.11 o Bolisi Cynllunio Cymru
-----------------------------------------------------------------------------------------------------------------
Darllenwyd
llythyr ar ran Mr Alex Fox (Gwrthwynebydd), a bu i Mr Carwyn Young (ar ran y
Cyngor fel ymgeisydd) annerch y Pwyllgor yn unol â’r atodiad dros dro i’r
weithdrefn weithredol sy’n caniatáu i’r cyhoedd annerch y Pwyllgor Rheoli
Datblygu yn sgil COVID-19.
A210960
Adnewyddu’r ganolfan hamdden bresennol yn fewnol ac uwchraddio ffasâd y brif
wedd allanol, gan gynnwys gosod llenfuriau ac
arwyddion newydd. Bydd y gwaith mewnol yn cynnwys gwaith i wahanu ystafelloedd
ymhellach ac i osod llawr cyntaf rhannol newydd, gan gynnwys newid defnydd o
ganolfan hamdden (dosbarth defnydd D2) i ddefnydd cymysg. Canolfan Hamdden
Llanbedr Pont Steffan, Rhes Ffynnonbedr, Llanbedr Pont Steffan
GOHIRIO’R penderfyniad, gan roi pwerau i’r Swyddog
Corfforaethol Arweiniol GYMERADWYO’R cais yn ddibynnol ar amodau, ar yr amod
bod yr Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd yn dod i’r casgliad na fydd y datblygiad
arfaethedig yn effeithio’n andwyol ar Ardal Cadwraeth Arbennig Afon Teifi.
___________________________________________________________________
Dogfennau ategol: