Cofnodion:
Bu i’r Swyddog Arweiniol
Corfforaethol: Cyswllt Cwsmeriaid gyflwyno adroddiad i’r pwyllgor er mwyn
disgrifio’r offer TGCh arfaethedig a fydd yn cael ei ddarparu i’r Aelodau. Nodwyd, yn sgil pandemig COVID-19, fod newid mawr
wedi bod tuag at ffordd fwy digidol o weithio'n gorfforaethol, mewn ysgolion ac
yn y Cyngor. Mae hyn yn barhad o’r duedd a gychwynnodd flynyddoedd yn ôl i
weithio mewn ffordd ddigidol yn hytrach nag â phapur. Mae offer hybrid wrthi’n
cael ei osod yn Siambr y Cyngor a bydd hyn yn hwyluso dull hyblyg, gan leihau
amser teithio a chostau Cynghorwyr a Staff. Ond bydd angen gliniadur ar yr
Aelodau i gael mynediad i'r dull hybrid am nad oes modd ei ddefnyddio gydag
Android neu Apple.
Cynigiwyd bod yr Aelodau
yn cael cynnig yr un ddarpariaeth â staff y cyngor, sef gliniadur Windows, a
dwy sgrin 24”. Gosodir cyfrif Office 365
gan ddarparu Word, Excel a mynediad i e-byst. Hefyd bydd Aelodau’n gallu gosod
Office 365 ar hyd at 5 dyfais arall, i’w ddefnyddio o’u dyfeisiau symudol
personol. Bydd angen i’r Aelodau lofnodi
cytundeb defnydd er mwyn gwneud defnydd personol o’r offer, o fewn rheswm. Nodwyd bod y cynnig hwn yn cydymffurfio â'r
gofynion o ran diogelwch, gan sicrhau gwell cydnerthedd seiber a bod pob Aelod
yn cydymffurfio â GDPR.
Darperir cyfleusterau
argraffu ym Mhenmorfa a Chanolfan Rheidol, yn sgil y gost o ddarparu a rhedeg
peiriannau argraffu personol. Bydd modd i Aelodau anfon dogfennau i’r ystafell
bost i’w hargraffu a’u postio. Rhoddir
hyfforddiant priodol ar y dyfeisiau a ddarperir a bydd cymorth gan y ddesg
gwasanaeth TGCh.
Nododd yr Aelodau fod i-pads
yn ddefnyddiol wrth weithio yn y gymuned, i ddangos dogfennau i drigolion na
fyddai fel arall yn gallu mynd ar y we. Hefyd, i fynychu cyfarfodydd o wahanol
leoliadau y tu hwnt i’r cartref.
Gofynnodd yr Aelodau hefyd a oedd y Cyngor yn cynnig platfform diogel o
ran i-pads i Swyddogion, nad yw wedi'i gynnig i'r Aelodau. Nododd y Swyddogion fod dulliau amgen yn cael
eu hystyried a bod eu seiberddiogelwch yn cael ei brofi, ond roedd angen
sicrhau hefyd fod Aelodau'n gallu cael mynediad i'r system hybrid.
Nododd yr Aelodau fod
lawrlwytho ac argraffu papurau'r Cyngor yn gallu bod yn ddefnyddiol, yn enwedig
wrth gadeirio cyfarfod. Cadarnhaodd y swyddogion y byddai dwy sgrin fawr yn
cael eu darparu i hwyluso’r gwaith o ddarllen dogfennau ar y naill sgrin a
dilyn y cyfarfod ar y llall. Hefyd
nododd yr Aelodau nad yw’n ymarferol teithio er mwyn argraffu. Atgoffodd y Swyddogion yr Aelodau o ymrwymiad
y Cyngor - flynyddoedd lawer yn ôl - i leihau papur, gan nodi y gwaredwyd yn
llwyr â pheiriannau argraffu personol y Swyddogion.
Gofynnodd yr Aelodau a
ellir defnyddio cyfrifiaduron llechen eraill e.e. Microsoft Tablet. Cadarnhawyd bod llechenni arbenigol yn gallu
bod yn gostus iawn ac y byddai angen i Aelodau ddod o hyd i gyllid i dalu’r
gost ychwanegol. Nododd yr Aelodau fod y
papur wedi'i ysgrifennu o safbwynt swyddogion ac nad oedd yn cydnabod anghenion
y Cynghorwyr, sy'n gofyn am fwy o hyblygrwydd. Dywedwyd wrth yr Aelodau hefyd mai eu
penderfyniad nhw yn y pen draw yw a ddylid derbyn cyngor y Swyddog ynghylch
seiberddiogelwch.
Ar ôl trafod, PENDERFYNWYD:
(i)
bod yr Aelodau, ar ôl yr etholiad, yn cael yr un offer a
ddarparwyd i’r Aelodau presennol ym mis Ionawr pan ddatgomisiynwyd yr i-pads;
(ii)
cyfeirio’r mater i’r Cyngor ei drafod yn ystod y
weinyddiaeth nesaf.
Dogfennau ategol: