Cofnodion:
Cyflwynodd y Cynghorydd Rhodri Evans, yr Aelod Cabinet ar gyfer yr Economi
ac Adfywio, yr adroddiad i’r Cyngor gan nodi bod y Grŵp Annibynnol wedi
cyflwyno papur i’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol ar 29
Tachwedd 2021 yn amlinellu gweledigaeth ynghylch creu llwybr i Genhedlaeth
Ifanc Ceredigion berchen ar eu tŷ eu hunain. Cefnogwyd y cynigion gan y
Pwyllgor a gofynnwyd i Swyddogion weithio ar hyfywedd y cynllun. Cafodd
adroddiad pellach ei ystyried wedyn gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau
Corfforaethol ar 7 Chwefror 2022 a chan y Cabinet yn ei gyfarfod ar 22 Chwefror
2022.
Cyflwynodd y Cynghorydd Ivor Williams adborth ar lafar gan y Pwyllgor
Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol gan nodi bod trafodaeth gadarn wedi’i
chynnal a bod holl Aelodau’r Pwyllgor yn cefnogi’r cynnig. Diolchodd i’r
Grŵp Annibynnol am ddod â’r adroddiad hwn i’w ystyried.
Dywedodd y Cynghorydd Elizabeth Evans ei bod yn cefnogi’r cynnig, ond
nododd fod angen cefnogi cymunedau â nifer uchel o ail gartrefi hefyd.
Diolchodd y Cynghorydd Ifan Davies, ar ran y Grŵp Annibynnol, i’r
Swyddogion am y gwaith a wnaed ar fyr rybudd, a diolchodd i Gadeirydd y
Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol am drefnu cyfarfod arbennig
i ystyried yr argymhellion. Nododd fod ardaloedd gwledig yn wynebu nifer o
heriau, a fforddiadwyedd cartrefi i bobl ifanc yw un o’r rhai pwysicaf. Nododd
mai’r cam cyntaf oedd yr argymhellion a oedd yn cael eu hystyried, ond y byddai
angen gwneud rhagor o waith yn y weinyddiaeth newydd i ystyried a datblygu’r
gwahanol opsiynau sydd ar gael.
Yn dilyn pleidlais, PENDERFYNWYD:
a) Bod penderfyniad y Cyngor 24/3/16 Cofnod 12) Adroddiad y Dirprwy Brif
Weithredwr ar Bremiymau Treth y Cyngor ar gyfer cartrefi gwag hirdymor ac ail
gartrefi, pwynt 4 i’w ddiwygio fel a ganlyn:
“4.a) Lefel Premiwm Ail Gartrefi Treth y Cyngor a godir i’w phennu ar 25%
(yn dod i rym o 1 Ebrill 2017); a,
b) bod yr holl arian a
godir o Bremiwm 25% Ail Gartrefi Treth y Cyngor (net o ad-daliadau Treth y
Cyngor), yn cael ei glustnodi a’i ddefnyddio i gefnogi'r Cynllun Tai
Cymunedol.”
b) Bod yr holl arian a godir o Bremiwm 25% Ail Gartrefi Treth y Cyngor rhwng y
cyfnod 01/04/17 i 31/03/22 (net o ad-daliadau Treth y Cyngor), yn cael ei
glustnodi a’i ddefnyddio i gefnogi’r Cynllun Tai Cymunedol.
c) Bod yr holl arian a godir o Bremiwm 25% Ail Gartrefi Treth y Cyngor o
01/04/22 (net o addaliadau Treth y Cyngor), yn cael ei glustnodi a’i ddefnyddio
i gefnogi’r Cynllun Tai Cymunedol.
d) O 01/04/22, bod yr holl arian a godir o Bremiwm 25% Cartrefi Gwag Treth y
Cyngor (net o addaliadau Treth y Cyngor), yn cael ei glustnodi a’i ddefnyddio i
gefnogi’r Cynllun Tai Cymunedol.
e) Diddymu penderfyniad y Cyngor 16/03/17 cofnod 8.b) Premiymau Treth y Cyngor
ar Ail Gartrefi.
f) Bod manylion elfen rhannu ecwiti o’r cynllun yn cael eu paratoi a’u cytuno
o fewn 12 mis i benderfyniad y Cyngor a bod gwaith yn parhau ar yr opsiynau
eraill.
g) Gohirio’r posibilrwydd o sefydlu Cynllun Mantais Gymunedol am flwyddyn.
Dogfennau ategol: