Eitem Agenda

Materion Personol

Cofnodion:

a)            Llongyfarchodd y Cynghorydd Ellen ap Gwynn ‘Ynyshir Hall’ ar ennill dwy seren Michelin;

b)            Llongyfarchodd y Cynghorydd Ellen ap Gwynn fwyty ‘SY23’ ar ennill ei seren Michelin gyntaf;

c)            Llongyfarchodd y Cynghorydd Ellen ap Gwynn ‘Y Talbot’ ar gael ei gynnwys yng Nghanllaw Michelin;

d)            Llongyfarchodd y Cynghorydd Ellen ap Gwynn Robat ac Enid Griffiths, sylfaenwyr a pherchnogion y wasg 'Y Lolfa', sydd wedi’u dewis i arwain Gorymdaith Dydd Gŵyl Dewi yn Aberystwyth eleni;

e)            Llongyfarchodd y Cynghorydd Ellen ap Gwynn Sefydliad y Merched sy’n dathlu eu canmlwyddiant eleni;

f)             Nododd y Cynghorydd Ellen ap Gwynn fod y Gweinidog Addysg wedi cyhoeddi cyllid o £5.7m ar gyfer creu Canolfan Drochi Iaith Gymraeg a bloc o Ystafelloedd Dosbarth newydd yn Ysgol Gymraeg Aberystwyth;

g)            Nododd y Cynghorydd Gareth Lloyd, Aelod Panel ac Ymddiriedolwr ar Fwrdd Pensiwn Dyfed, fod y buddsoddiadau gyda Rwsia yn llai nag 1%, ond cytunwyd i ddadfuddsoddi cyn gynted â phosibl;

h)            Diolchodd y Cynghorydd Ellen a Gwynn i bawb am eu cefnogaeth gan nodi y byddai’n ymddeol ar ddiwedd y tymor hwn, gan ddiolch i’w chyd-gynghorwyr a Swyddogion am eu cefnogaeth dros ei 10 mlynedd fel Arweinydd y Cyngor. Talodd deyrnged i’r Cynghorwyr hynny a fyddai’n camu i lawr, gan gynnwys y Cynghorydd Alun Lloyd Jones, y Cynghorydd John Adams Lewis, y Cynghorydd Odwyn Davies, y Cynghorydd Lyndon Lloyd MBE, y Cynghorydd Lynford Thomas, y Cynghorydd Peter Davies MBE, y Cynghorydd Ivor Williams a’r Cynghorydd Matthew Woolfall Jones. Cydnabuwyd y sylwadau gan yr Aelodau perthnasol;

i)             Talodd y Cynghorydd Ceredig Davies deyrnged i’r Cynghorydd Ellen ap Gwynn a dymunodd yn dda iddi ar ei hymddeoliad;

j)             Myfyriodd y Cynghorydd Ray Quant MBE ar arweinyddiaeth y Cynghorydd Ellen ap Gwynn a thalodd deyrnged i’r holl Aelodau sy’n camu i lawr a diolchodd iddynt i gyd am eu cyfraniadau;

k)            Talodd y Cynghorydd Dafydd Edwards deyrnged i’r Cynghorydd Ellen ap Gwynn, a mynegodd ei ddymuniadau gorau i’r holl Aelodau sy’n camu i lawr;

l)             Ategodd Eifion Evans, Prif Weithredwr, bopeth a ddywedodd yr Aelodau, gan nodi y byddai ymddeoliad Cynghorwyr profiadol yn cael effaith sylweddol o ran colli arbenigedd a gwybodaeth. Nododd fod eu cyfraniadau wedi bod yn sylweddol o ran cyflawni Bargen Twf Canolbarth Cymru gwerth £110m, cronfa Codi’r Gwastad, cyllid ar gyfer Ysgolion yr 21ain Ganrif ac ati. Dymunodd yn dda i bob un ohonynt yn eu hymddeoliad;

m)          Diolchodd y Cynghorydd Bryan Davies, a fydd yn camu i rôl Arweinydd Grŵp Plaid Cymru, i’r Cynghorydd Ellen ap Gwynn a mynegodd ei ddymuniadau gorau i’r holl Aelodau a fyddai’n camu i lawr;

n)            Nododd y Cynghorydd Bryan Davies, yn dilyn y Rhybudd o Gynnig yng Nghyfarfod y Cyngor ar 9 Rhagfyr 2021, fod Aelodau wedi cyfarfod â’r Gwasanaeth Ambiwlans ac wedi cael sicrwydd na fydd y Gwasanaeth Ambiwlans sy’n gwasanaethu Ceredigion yn cael ei chwtogi.

o)            Nododd y Cynghorydd Bryan Davies y bydd Llanarth yn cymryd rhan mewn prosiect arbrofol a ariennir gan Lywodraeth Cymru i arwynebu ffyrdd gan ddefnyddio cewynnau wedi’u hailgylchu, a disgwylir i oes yr arwyneb bara ddwywaith yn fwy nac oes tarmac arferol;

p)            Nododd y Cynghorydd Maldwyn Lewis fod drama’n cael ei chynhyrchu am fywyd Carwyn James sydd â chysylltiad agos ag ardal Rhydlewis;

q)            Llongyfarchodd y Cynghorydd Maldwyn Lewis Gareth Thomas sydd wedi ennill 5 cap gyda thîm Rygbi Cymru;

r)             Llongyfarchodd y Cynghorydd Maldwyn Lewis Steffan Thomas sydd wedi'i ddewis i chwarae i Dîm Rygbi’r Scarlets;

s)            Llongyfarchodd y Cynghorydd Maldwyn Lewis y tîm sydd wedi cyhoeddi llyfr o'r enw ‘Ffrwyth y Coed’ sy'n rhoi hanes cynhwysfawr o Ysgol Coed-y-Bryn;

t)             Llongyfarchodd y Cynghorydd Gareth Lloyd Ffermwyr Ifanc Pontsian ar ennill cystadleuaeth Siarad Cyhoeddus Ffermwyr Ifanc Ceredigion, a mynegodd ei ddymuniadau gorau i bawb a fyddai’n cynrychioli’r Sir ar lefel Genedlaethol;

u)            Mynegodd y Cynghorydd Gareth Davies ei ddymuniadau gorau i’r holl Aelodau a fyddai’n camu i lawr, a diolchodd i’r Cynghorwyr Bryan Davies a Matthew Woolfall Jones am ddod â’r rhybudd o gynnig ynghylch y Gwasanaeth Ambiwlans ar ei ran;

v)            Estynnodd y Cynghorydd Gareth Davies gydymdeimlad â theulu Tegwen Jones, a oedd yn Glerc i Gyngor Cymuned Llanbadarn Fawr;

w)           Llongyfarchodd y Cynghorydd Odwyn Davies y Parchedig Goronwy Evans ar ennill MBE;

x)            Nododd y Cynghorydd Dafydd Edwards mai heddiw yw Diwrnod Cenedlaethol y Llyfr a bod digwyddiadau amrywiol wedi’u trefnu yn Llyfrgelloedd y Sir gan gynnwys lansiad llyfr ‘Lledrith y Llyfrgell’ sy’n dathlu 25 mlynedd o Ddiwrnod Cenedlaethol y Llyfr;

y)            Llongyfarchodd y Cynghorydd Paul Hinge Josh Hathaway sydd wedi’i ddewis i fod yn rhan o garfan rygbi Dan 20 Cymru;

z)            Llongyfarchodd y Cynghorydd Paul Hinge Joshua Tarling, Gruff Lewis a Finlay Tarling sy’n cael llwyddiant mawr ym myd beicio;

aa)         Llongyfarchodd y Cynghorydd Lyndon Lloyd MBE Doris James sy’n dathlu ei phen-blwydd yn 100 oed;

bb)         Diolchodd y Cynghorydd Dai Mason i bawb a fydd yn camu i lawr yn yr etholiad nesaf, gan ddymuno’n dda iddynt ar eu hymddeoliad.

 

Wcrain

cc)         Cyfeiriodd y Cynghorydd Ellen ap Gwynn at y sefyllfa enbyd yn Wcráin, gan nodi bod Prif Weinidog Cymru wedi datgan bod Cymru’n genedl noddfa. Dywedodd fod Ceredigion yn sir noddfa a gofynnodd i’r Aelodau am eu cefnogaeth i groesawu ffoaduriaid o Wcráin yn y dyfodol, ac i roi awdurdod i Swyddogion wneud trefniadau addas ar yr adeg briodol. Cytunodd yr Aelodau’n unfrydol drwy ddangos dwylo. Nododd hefyd ei bod wedi gofyn i’r Prif Weithredwr adolygu a oes gan y Cyngor unrhyw gontractau neu waith sy'n gysylltiedig â chwmnïau o Rwsia;