Cofnodion:
Cyflwynodd y Cynghorydd
Catherine Hughes (Aelod y Cabinet dros Borth Gofal, Ymyrraeth Gynnar, Hybiau
Lles a Diwylliant) gefndir yr adroddiad. Nodwyd bod y cynnig wedi ei drafod cyn
y gyllideb. Mae Gwasanaeth y Canolfannau Lles sydd o dan Borth Cymorth Cynnar
yn chwarae rôl allweddol wrth ddarparu cyfleoedd sy’n cyfrannu at ganlyniadau
iechyd a lles ein trigolion. Un elfen o
Wasanaethau’r Canolfannau Lles yw rhedeg cyfleusterau hamdden y Cyngor. Mae
annog trigolion i gymryd rhan yn rheolaidd mewn gweithgareddau corfforol yn
cyfrannu’n uniongyrchol at well iechyd meddwl a chorfforol ein cymunedau ac yn
cynorthwyo i feithrin cydnerthedd unigolion a lleihau dibyniaeth ar wasanaethau
iechyd.
Mae'r gwasanaeth yn creu incwm trwy godi tâl am
ddefnyddio ei gyfleusterau a mynediad i raglenni’r gweithgareddau y mae'n eu
darparu. Yn 2018/19 (cyn y pandemig) roedd yr incwm a grëwyd gan y gwasanaeth
yn cyfateb i £752,673 gyda thua £176,000 ohono o ganlyniad i becynnau aelodaeth
(ffi fisol benodol ar gyfer lefelau defnydd amrywiol o ran nofio, yr ystafell
ffitrwydd a dosbarthiadau ymarfer).
Roedd yr incwm a grëwyd ac Arian grant yn 55% o gyfanswm cost darparu
Gwasanaeth y Canolfannau Lles gyda’r gweddill yn cael ei ddarparu gan arian
craidd y cyngor. Fel gwasanaeth anstatudol, rhaid i Wasanaeth y Canolfannau
Lles ddenu pobl i ddefnyddio ei gyfleusterau. Mae yna nifer o ffactorau a all
ddylanwadu ar ble a phryd y mae person yn dewis bod yn heini ac mae prisio yn
un ohonynt.
Dywedodd Elen James yr
effeithiwyd yn ddifrifol ar y gwasanaeth yn ystod y 2 flynedd ddiwethaf ond yn
wahanol i rai awdurdodau lleol, cafodd staff eu hadleoli ac maent wedi dychwelyd
i'r gwasanaeth ers hynny. Mae pob canolfan hamdden a phwll nofio yn y sir wedi
ail-agor a thros 350 o blant wedi cofrestru ar gyfer gwersi nofio gyda 70+ o
blant ychwanegol ar y rhestr aros. Cyn y pandemig, roedd gan y gwasanaeth dros
900 o aelodaethau, dim ond tua 400+ sydd ganddyn nhw erbyn hyn, felly mae angen
gwaith i farchnata’r Canolfannau Lles, er mwyn annog pobl i ddychwelyd i
ymarfer corff a theimlo’n ddiogel wrth wneud. Y cynnig yw cyflwyno cynigion
tymor byr tebyg i awdurdodau lleol eraill, i gynyddu defnyddwyr gwasanaethau o
bob oed i ddychwelyd i ddefnyddio’r cyfleusterau. Mae’n anodd rhoi
enghreifftiau o ffioedd gan y bydd y cynigion yn dibynnu ar y data a gesglir,
ond cyflwynwyd enghreifftiau o gynigion i’r pwyllgor.
Nodwyd na ddylai fod llawer o
gostau ychwanegol ynghlwm wrth redeg y canolfannau gyda'r cynigion hyrwyddo ar
waith. Y pwrpas yw denu rhagor o bobl yn rheolaidd.
Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, eglurodd Elen James fod yr awdurdod lleol yn
parhau i gael cyfraniadau i gefnogi'r Cynllun Cenedlaethol i Atgyfeirio
Cleifion i Wneud Ymarfer Corff. Dywedwyd ddoe yn y Bwrdd Perfformiad bod dros
300 o atgyfeiriadau newydd. Rhoddir 16 wythnos o gymorth a'r bwriad yw annog
cleientiaid i barhau i ddefnyddio'r cyfleusterau, ar ôl yr 16 wythnos hyn, i
helpu i atal problemau pellach o ran iechyd.
Nid oes dim taflenni gwybodaeth
yn cael eu hanfon gyda Bil Treth y Cyngor ond mae gan y gwasanaeth wefan, mae
gwybodaeth hefyd ar gael ar y cyfryngau cymdeithasol ac mae swyddfa’r wasg yn
rhannu straeon. Pwysleisiwyd y dylid gwneud y cynghorau cymuned yn ymwybodol
o'r hyn sydd ar gael i bob oedran, er mwyn gallu hysbysebu'r gwasanaeth yn
lleol.
Codwyd manteision sesiynau
ymarfer corff i iechyd meddwl unigolion gan Aelodau’r Pwyllgor. Nododd Elen
James, er bod y canolfannau lles wedi bod ar gau, mae miloedd o bobl wedi
cymryd rhan / wedi mynychu sesiynau dros y 2 flynedd ddiwethaf, yn rhithwir ac
yn bersonol. Mae dros 2,000 o bobl wedi cymryd rhan yn y teithiau cerdded lles.
Anogir grwpiau a gynhelir mewn
canolfannau cymunedol i barhau. Bydd yn bwysig i'r awdurdod lleol weithio gyda
nhw i sicrhau bod y cyhoedd yn cael cyfleoedd amrywiol i wella eu hiechyd a'u
lles.
Yn dilyn cwestiynau gan Aelodau’r Pwyllgor CYTUNWYD i ddirprwyo awdurdod i’r
Cyfarwyddwr Corfforaethol a’r Swyddog Arweiniol Corfforaethol Porth Cymorth
Cynnar, mewn ymgynghoriad ag Aelod Cabinet y portffolio i amrywio’r Ffioedd a
Chostau ar gyfer 2022/23 i redeg cynigion hyrwyddo tymor byr/â chyfyngiad amser
i gymell rhagor o blant, pobl ifanc, unigolion a theuluoedd i gymryd rhan mewn
gweithgarwch corfforol rheolaidd a byw bywydau iachach.
Cytunodd Elen James i sôn am
y cynigion hyrwyddo yng nghyfnod y weinyddiaeth newydd.
Dogfennau ategol: