Cofnodion:
Cyflwynodd y Cynghorydd Alun Williams (Aelod y Cabinet
dros Borth Cynnal) Adroddiad y Gwasanaeth Adolygu Annibynnol Chwarter 2
2021/2022. Caiff adroddiadau chwarterol eu rhoi gerbron y Pwyllgor Trosolwg a
Chraffu Cymunedau Iachach fel rhan o'r ystyriaeth barhaus o'r pwnc i sicrhau
bod yr Awdurdod Lleol yn cyflawni ei ddyletswyddau fel y Rhiant Corfforaethol. Mae'r
adroddiad hwn yn cynnwys y safonau a'r targedau cenedlaethol a lleol a
ddefnyddir i fesur y canlyniadau ar gyfer plant sy'n derbyn gofal a phlant sydd
wedi gadael gofal adeg eu cyfarfod adolygu, ac mae'n cynnwys Dangosyddion
Perfformiad Llywodraeth Cymru.
Ar sail yr wybodaeth sydd ar
gael a'r hyn a fynegwyd yn ystod y cyfarfod adolygu, daw'r Swyddog Adolygu
Annibynnol i farn broffesiynol ynghylch effeithiolrwydd cynllun gofal y
plentyn/person ifanc o ran bodloni ei anghenion, a gall argymell newidiadau i'r
cynllun gofal. Yn ystod y cyfarfod adolygu bydd y Swyddog Adolygu Annibynnol yn
ystyried a oes angen cymorth ar y plentyn/person ifanc i adnabod pobl eraill
berthnasol er mwyn cael cyngor cyfreithiol/cymryd camau ar ei ran. Roedd y
Swyddog Adolygu Annibynnol o'r farn nad oedd angen cymryd y cam hwn ar gyfer
unrhyw blentyn yn ystod y cyfnod dan sylw. Yn ogystal, mae'r Swyddog Adolygu
Annibynnol yn ystyried a oes unrhyw dramgwydd yn erbyn hawliau dynol y
plentyn/person ifanc ac, os oes, gallai atgyfeirio'r
achos at CAFCASS Cymru. Nid oedd angen y cymryd y cam hwn yn unrhyw un o'r
cyfarfodydd adolygu yn ystod y cyfnod.
Aeth y Cynghorydd Alun Williams ymlaen i gyflwyno Crynodeb o'r Pwyntiau
Allweddol a nodwyd ar dudalen 2 yr adroddiad.
Nododd Sian Howys fod
effaith Covid-19 yn parhau, sydd wedi arwain at fwy o lwythi gwaith a
dyletswyddau statudol ond mae’r cydweithio ar draws y Model Gydol Oed a Lles
wedi bod yn gadarnhaol. O ystyried yr amgylchiadau a'r pwysau ar staff, roedd
yr adroddiad yn plesio ac roeddent yn ymwybodol o'r meysydd yr oedd angen eu
gwella.
Mewn ymateb i gwestiwn,
nododd Sian Howys fod yna brinder cenedlaethol o ofalwyr maeth yn gyffredinol,
ond annog dwyieithrwydd oedd y nod. Roedd ymgyrch recriwtio sy’n mynd rhagddi
ar gyfer gofalwyr maeth.
Oherwydd prinder gofalwyr
maeth, roedd plant naill ai'n cael eu lleoli yn y sir neu gyda gofalwyr maeth
sy'n gweithio i Asiantaethau Maethu Annibynnol sy'n byw yng Ngorllewin Cymru
neu gerllaw. Ni chafodd dim plant eu lleoli gyda gofalwyr maeth yn Lloegr, fodd
bynnag, roedd plant wedi'u lleoli gydag aelodau o'r teulu y tu allan i Gymru.
Roedd rhywfaint o ddefnydd o
leoliadau preswyl yn Lloegr oherwydd diffyg argaeledd yng Ngheredigion. Mae
Caniatâd Cynllunio wedi ei roi ar gyfer cartref gofal preswyl bychan yn ardal
Dyffryn Aeron. Mae swyddi wedi'u hysbysebu. Bydd rhagor o wybodaeth yn cael ei
rhannu maes o law. Roedd yr angen am leoliadau oherwydd troseddu yn gyffredinol
isel yng Ngheredigion ac felly hefyd yr angen am leoliadau arbenigol megis
cyfnodau yn yr ysbyty.
Mae ymchwil i Ofal
Cymdeithasol Plant gan Brifysgol Caerdydd wedi'i gyhoeddi. Bydd swyddogion yn
cael eu hannog i ddarllen yr adroddiad. Mae Llywodraeth Cymru wedi nodi bod
lleihau nifer y plant mewn gofal yn flaenoriaeth; pwysleisiodd Sian Howys fod
yn rhaid gwneud hyn yn ddiogel
Ers dechrau pandemig Covid-19, sydd wedi arwain at fwy o bwysau ar
deuluoedd, mae nifer y plant sy’n derbyn gofal wedi cynyddu. Awgrymwyd bod cynnydd
mewn niferoedd yn adlewyrchu bod plant yn cael eu gweld gan weithwyr
proffesiynol a bod swyddogion yn gwneud eu gwaith yn dda.
Eglurodd Sian Howys fod y
cynnig rhagweithiol o eiriolaeth yn cael ei bennu nid yn unig gan oedran, ond
hefyd gweithrediad gwybyddol neu emosiynol. Rhoddir cryn dipyn o amser ac
ymdrech gan ofalwyr neu unigolyn yr ymddiriedir ynddo i gael barn pob plentyn.
Lle bo angen, gall y Swyddog Adolygu Annibynnol drefnu cyfarfod 1-1 gyda’r plentyn
neu rywun y mae’r plentyn yn ei adnabod.
Mae adolygiadau wedi'u
cynnal yn rhithwir. Cynhaliwyd un adolygiad o ofalwr maeth y tu allan i'r
amserlenni oherwydd problem staffio. Gan fod adolygiadau'n cael eu cadeirio gan
aelod o'r tu allan i'r tîm ar gyfer gwrthrychedd, mae wedi bod yn heriol cadw
at amserlenni o ran absenoldebau a llenwi bylchau mewn staffio.
Diolchodd Aelodau'r Pwyllgor i Sian Howys am adroddiad
cynhwysfawr a gofynasant iddi fynegi eu diolch i'r adran am ei gwaith
caled.
Yn dilyn cwestiynau gan Aelodau’r Pwyllgor, cytunwyd i
nodi cynnwys yr adroddiad a lefelau’r gweithgarwch o fewn yr Awdurdod Lleol.
Dogfennau ategol: