Eitem Agenda

Adroddiad ar y Gyllideb Ddrafft 2022/2023

Cofnodion:

Amlinellodd y Cynghorydd Ivor Williams, Cadeirydd y Pwyllgor, weithdrefn y cyfarfod a chroesawodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Ellen ap Gwynn, yr Aelodau Cabinet a’r Swyddogion i'r cyfarfod.

 

Cyflwynodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Ellen ap Gwynn, yr adroddiad ar y gyllideb ddrafft ar gyfer 2022/2023 gan gynnwys y rhaglen gyfalaf tair blynedd, gan esbonio mai setliad dros dro yw hwn, a disgwylir y setliad terfynol ar 1 Mawrth, 2022. Cyfanswm y setliad refeniw, a elwir yn Gyllid Allanol Cyfun, a ddyrannwyd i Geredigion ar gyfer 2022/23 yw £119.419m. Mae hyn yn cymharu â dyraniad 2021/22 o £110.006m (wedi’i addasu ar gyfer trosglwyddiadau) ac mae’n gynnydd o 8.6%. Mae Cymru gyfan wedi gweld cynnydd o 9.4% ar gyfartaledd gyda Cheredigion yn 19eg. Dywedodd yr Arweinydd wrth Aelodau'r Pwyllgor fod £50 miliwn o arbedion wedi'u gwneud ers ei phenodiad yn 2012.

 

Dywedodd yr Arweinydd hefyd fod llythyr wedi dod i law ar 17 Chwefror 2022 gan Rebecca Evans AS, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, yn cyhoeddi cynnydd o £50m ar gyfer y setliad llywodraeth leol ar gyfer 2021-2022. Nid oedd y swm a fyddai’n cael ei ddyrannu i Gyngor Sir Ceredigion yn hysbys hyd yma ond roedd yn debygol o fod tua £1m. Nid oedd y cyllid wedi'i neilltuo (h.y. heb ei ddyrannu i wasanaethau penodol) a gellir ei gario ymlaen mewn cronfeydd wrth gefn i flwyddyn ariannol 2022-2023. Esboniwyd y byddai angen ystyried goblygiadau'r cyllid ychwanegol hwn a sut y byddai hynny'n cael ei ddyrannu ar gyfer cyllideb 2022-2023.

 

Croesawodd yr aelodau’r cyllid ychwanegol ond mynegwyd siom bod y cyhoeddiad yn hwyr ac nad oedd yn caniatáu i waith craffu ddigwydd yn seiliedig ar y wybodaeth newydd. Cadarnhaodd y Prif Weithredwr y byddai gwybodaeth yn cael ei chyflwyno i'r Cyngor ar 3 Mawrth 2022 ac y byddai cyfle i drafod yr opsiynau ar gyfer y cyllid ychwanegol.

 

Mae Setliad Ceredigion yn adlewyrchu ystod o symudiadau ailddosbarthu llai ffafriol yn ariannol a welir yn y boblogaeth a dangosyddion niferoedd disgyblion Ysgol Uwchradd. Mae Asesiadau o Wariant Safonol yn gyfrifiadau tybiannol o’r swm y mae angen i bob Cyngor ei wario er mwyn darparu lefel safonol o wasanaeth. Yr Asesiad o Wariant Safonol ar gyfer 2022/23 yw £166.372m, sef cynnydd o 7.2% (2021/22 £155.153m). Y cynnydd mwyaf sylweddol o ran gwasanaeth oedd Gwasanaethau Cymdeithasol Personol, sef 12.2%.

 

Mae model y Gyllideb wedi'i ddrafftio i gynnwys yr addasiadau o ran y setliad dros dro. Bydd angen ystyried unrhyw addasiadau sydd eu hangen sy’n codi yn y setliad terfynol a'u hymgorffori'n briodol yn y gyllideb.

 

Mae'r gwaith asesu manwl, a wnaed i nodi’r pwysau anochel o ran costau sy'n

wynebu'r Gwasanaethau, wedi'i gwblhau, ac mae hwn wedi nodi cyfanswm net o £13.1m, a grynhoir yn Atodiad 1 ym mhapurau’r agenda. Mae'r swm yma bron yn ddwbl y blynyddoedd cynt ac yn £3.8m yn fwy na'r swm uwch sydd ar gael yn y setliad a byddai hyn gyfystyr â'r angen i gynyddu Treth y Cyngor o bron i 8%, fodd bynnag mae rhai arbedion ar gael i broses pennu’r gyllideb.  

 

Daw costau cynyddol Gofal yn unig i £7m, gan gynnwys:-  

-       Cyflog Byw Gwirioneddol £9.90 y DU ac Yswiriant Gwladol Cyflogwyr 1.25% – yn effeithio ar y rhan fwyaf os nad y cyfan o’r Gwasanaethau a Gomisiynir yn ymwneud â Gofal (yn arwain at ffactorau chwyddiant dros dro o 8.87% ar gyfer Gofal Cartref / Byw â Chymorth, 9.13% ar gyfer Gofal Preswyl ac 11.15% ar gyfer Taliadau Uniongyrchol);

-       Cartrefi Preswyl – adolygiad pennu ffioedd yn mynd rhagddo ar hyn o bryd;

-       Taliadau Uniongyrchol;

-       Plant sy’n Derbyn Gofal; a;

-       Gofal Cartref.

 

Dywedodd yr Arweinydd hefyd fod darparu ar gyfer chwyddiant mewn cyflogau hefyd yn ffactor arwyddocaol a amcangyfrifir yn £3.4m, ac nid oes cytundeb ffurfiol eto ar brif ddyfarniad cyflog 2021/22. Ar ôl ystyried y cyllid posibl sydd ar gael, gellir cyflawni cyllideb gytbwys.

 

Mabwysiadwyd ffordd gorfforaethol o ymdrin â cholledion a chostau net COVID19, yn hytrach na bod yn rhaid i bob gwasanaeth ysgwyddo symiau y gellir eu priodoli i wasanaethau perthnasol. Mae’r dull hwn o weithredu wedi sicrhau bod rheolaeth ariannol cyllidebau 2021/22 a gweithgarwch busnes fel arfer wedi parhau’n gryf. Ar hyn o bryd rhagwelir y bydd y costau caledi a’r incwm a gollir yn dod i gyfanswm gros o ychydig dan £7m gyda chymaint â phosibl yn cael ei adennill a’i adhawlio drwy grantiau/arian Llywodraeth Cymru.

 

Bydd costau ychwanegol yn sgil COVID-19 a rhywfaint o incwm coll yn parhau i gael eu gweld i mewn i’r flwyddyn 2022/23 a thu hwnt ac felly mae angen cyllideb gorfforaethol o £750k o fewn cyllideb y Grŵp Arweiniol, yn ogystal â defnyddio’r gronfa wrth gefn a glustnodwyd gan gynnwys Cronfa Wrth Gefn COVID-19 a amcangyfrifir i fod yn £1.25m. Nid oes unrhyw geisiadau am grant yn ddyledus y flwyddyn nesaf gan y bydd y Gronfa Galedi yn cau ac mae'r Setliad bellach yn caniatáu ar gyfer hyn. Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi ymrwymo i barhau i gyflenwi Cyfarpar Diogelu Personol am ddim ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol cyhyd ag y bo angen ac i barhau i ddarparu cyllid ar gyfer Profi, Olrhain a Diogelu.

 

Mae angen cynyddu Treth y Cyngor i ariannu sefyllfa’r gyllideb yn llawn. Mae 4.75% ychwanegol o Dreth y Cyngor yn codi £2.1m gros, sy'n cyfateb i £1.8m net ar ôl darparu ar gyfer angen ychwanegol y gyllideb a roddir ar gynllun Gostyngiadau Treth y Cyngor. Mae polisi adennill Incwm a chostau’r Cyngor yn golygu bod gwasanaethau’n parhau i adennill eu costau chwyddiannol sy’n berthnasol i wasanaethau y gellir codi tâl amdanynt gan ddefnyddwyr gwasanaethau, er mai’r broblem ar hyn o bryd yn y tymor agos yw sicrhau bod ffrydiau incwm yn cael eu hadennill i lefelau cyn Covid-19.

Eglurodd yr Arweinydd gan mai cynnig cyllideb ddrafft yw hwn, yn seiliedig ar y setliad Dros Dro, mae’n destun unrhyw addasiadau y gallai fod eu hangen unwaith y bydd y Setliad Terfynol yn hysbys. Byddai unrhyw addasiadau angenrheidiol yn cael eu gwneud yn unol â’r canlynol:

1.  bydd gwerth unrhyw grantiau penodol a drosglwyddir i’r Grant Cynnal    Refeniw yn cael eu pasio ymlaen at gyllideb y Gwasanaeth perthnasol;

2. bydd unrhyw newidiadau penodol eraill yn cael eu targedu’n uniongyrchol at y Gwasanaeth(au) yr effeithir arnynt, os bydd hynny’n briodol; ac;

3.    ymdrinnir ag unrhyw newidiadau eraill i’r Grant Cynnal Refeniw drwy addasu cyllideb refeniw gorfforaethol y Grŵp Arweiniol.

 

Mae Ardoll yr Awdurdod Tân yn amodol ar gadarnhad ffurfiol a rhagwelir y bydd yn arwain at bwysau o ran cost o £104k, a fydd yn gofyn am gyllid brigdoriad.

 

Gorffennodd yr Arweinydd ei chyflwyniad gyda chrynodeb o bwysau costau ar draws yr holl wasanaethau/y rhan fwyaf ohonynt, ac ailadroddodd fod yr adroddiad hwn ynghylch y gyllideb yn ymdrin â chyhoeddiad y setliad dros dro gydag argymhelliad i'r Cyngor ar lefel Treth y Cyngor ar gyfer 2022/23. Mae'r Cyngor i fod i ystyried y gyllideb derfynol ar 3 Mawrth 2022 ar ôl craffu ar y papurau ynghylch y gyllideb a'r cynigion drafft.

 

Rhoddwyd y cyfle i Aelodau’r Pwyllgor ofyn cwestiynau ac atebwyd y cwestiynau yn eu tro gan yr Arweinydd a/neu’r Swyddogion. Ymhlith y prif gwestiynau / pwyntiau a godwyd oedd y canlynol:

 

  • Wrth ymateb i gwestiwn ynglŷn â’r posibilrwydd o leihau’r ganran a oedd yn cael ei chynnig ar gyfer cynyddu Treth y Cyngor,  oherwydd  cyhoeddiad Llywodraeth Cymru ynglŷn â’r cyllid heb ei neilltuo, dywedodd yr Arweinydd wrth Aelodau’r Pwyllgor y byddai pob opsiwn yn cael ei ystyried;
  • Cyfeiriodd un o’r Aelodau at Atodiad 1, ar dudalen 20 papurau’r agenda, Cyllideb 2022/23: Pwysau Costau a Amcangyfrifir fesul Gwasanaeth.  Bu i’r Aelod gwestiynu’r ffigwr o £13,173m. Wrth ymateb, rhoddodd un o’r swyddogion esboniad manwl;
  • Awgrymodd un o’r Aelodau bod angen rhoi ystyriaeth fanwl yn y dyfodol i unrhyw oedi ynghylch recriwtio i swyddi gwag.

         

Yn dilyn trafodaeth, cytunodd yr Aelodau i ystyried sefyllfa gyffredinol y Gyllideb fel y’i nodir yn yr adroddiad i’r Cabinet, er mwyn cynorthwyo i baratoi cyllideb gytbwys ar gyfer y flwyddyn nesaf.

 

Yna cyflwynodd yr Aelod Cabinet perthnasol y wybodaeth a oedd yn berthnasol i’w Maes Gwasanaeth (a ddangosir yn Atodiad B o bapurau’r agenda).

 

Ystyriodd Aelodau'r Pwyllgor y cyllidebau ar gyfer y meysydd gwasanaeth hynny sydd o fewn cylch gwaith y Pwyllgor (a ddangosir yn Atodiad C yr adroddiad); sef:

 

·         Cyfreithiol a Llywodraethu, Pobl a Threfniadaeth a’r Gwasanaethau Democrataidd

Roedd Elin Prysor, Geraint Edwards a Lowri Edwards yn bresennol i ateb unrhyw gwestiynau. Cyflwynwyd y wybodaeth gan yr Aelod Cabinet, y Cynghorydd Ray Quant.

·    Economi ac Adfywio

Roedd Russell Hughes-Pickering yn bresennol i ateb unrhyw gwestiynau. Cyflwynwyd y wybodaeth gan yr Aelod Cabinet, y Cynghorydd Rhodri Evans.

·    Cyswllt Cwsmeriaid

Roedd Arwyn Morris yn bresennol i ateb unrhyw gwestiynau. Cyflwynwyd y wybodaeth gan yr Aelod Cabinet, y Cynghorydd Dafydd Edwards.

·     Cyllid a Chaffael / Polisi, Perfformiad a Diogelu’r Cyhoedd 

Roedd Stephen Johnson ac Alun Williams yn bresennol i ateb unrhyw gwestiynau. Cyflwynodd yr Aelodau Cabinet, y Cynghorwyr Ellen ap Gwynn a Gareth Lloyd y wybodaeth a oedd yn berthnasol i’w portffolios Cabinet.

           

Diolchodd y Cadeirydd i’r Aelodau Cabinet am gyflwyno'r wybodaeth.

 

Yna cyflwynodd yr Aelod Cabinet perthnasol y Ffioedd a’r Taliadau arfaethedig fel yr amlinellwyd yn Atodiad D, tudalennau 45 i 51 ym mhapurau’r agenda.

 

Yna rhoddwyd cyfle i’r Aelodau ofyn cwestiynau, a gafodd eu hateb yn eu tro gan yr Aelod Cabinet neu’r Swyddog perthnasol. Ymhlith y prif gwestiynau / pwyntiau a godwyd oedd y canlynol:

 

·                     Wrth ymateb i gwestiwn ynglŷn â rhai o’r arbedion a ragwelwyd a oedd yn ymddangos yn flynyddol, er enghraifft, ad-drefnu gwasanaethau, cadarnhaodd yr Arweinydd fod y rhain yn cael eu monitro bob chwarter yng nghyfarfodydd y Grŵp Monitro Perfformiad yr oedd yr Uwch Swyddogion, yr Aelodau Cabinet a Chadeiryddion ac Is-gadeiryddion y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu yn bresennol ynddynt;

·                     Yn dilyn cwestiwn ynglŷn â rhoi benthyg offer cyfieithu i Gynghorau Tref a Chymuned, cadarnhaodd un o’r Swyddogion nad oedd y Cyngor yn codi tâl am hyn. Roedd hyn i annog y Cynghorau Tref a Chymuned i ddefnyddio’r Gymraeg yn ystod eu cyfarfodydd;

·                     Cadarnhawyd bod ffi’r bandstand yn gysylltiedig â chwyddiant ac nad oedd yn ffi newydd.

·                     Wrth ateb cwestiwn ynglŷn â’r ffi ar gyfer newid enwau tai, cadarnhaodd un o’r swyddogion fod 20 o enwau tai wedi newid o Saesneg i Gymraeg yn ystod y cyfnod rhwng 1.2.2020 a 1.2.2022 a bod 2 wedi newid o Gymraeg i Saesneg. Dywedodd un o’r cynghorwyr fod arwyddocâd hanesyddol i rai enwau Saesneg ar yr arfordir.

 

Diolchodd y Cadeirydd i'r Arweinydd, yr Aelodau Cabinet a'r Swyddogion am y wybodaeth a dderbyniwyd yn y cyfarfod, a gofynnodd i Aelodau'r Pwyllgor bleidleisio yn eu tro a oeddent yn derbyn, yn erbyn, neu'n ymatal rhag pleidleisio ar yr argymhellion canlynol:

 

  1. Ystyried y Cyllidebau Refeniw a Chyfalaf cyffredinol a gynigir.
  2. Ystyried y pwysau costau amcangyfrifedig a wynebir (£13.173m ar draws pob agwedd).
  3. Ystyried y ffioedd a'r taliadau arfaethedig a'r incwm ychwanegol o £155k a amcangyfrifir i helpu gyda'r Arbedion sydd eu hangen.
  4. Nodi'r Targed Arbedion Teithio arfaethedig o £230k ar gyfer Swyddogion ac Aelodau.
  5. Nodi’r Balans Arbedion o £113k y mae angen dod o hyd iddo o hyd.
  6. Ystyried y 3 opsiwn a gynigir ar gyfer lefel Treth y Cyngor, sef 4.75%, 5.0% a 5.25%.
  7. Darparu unrhyw adborth priodol arall sy'n ymwneud â'r Gyllideb Ddrafft i'r Cabinet.

 

Argymhelliad:

Ar ôl ystyried, cytunodd yr Aelodau i argymell bod y Cabinet yn:

  1. CYMERADWYO cyllideb y meysydd gwasanaeth o fewn cylch gwaith y Pwyllgor fel yr uchod;
  2. CYMERADWYO’R Ffioedd a’r Taliadau arfaethedig fel yr amlinellir yn atodiad D yr adroddiad (tudalen 45 o 51)
  3. CYMERADWYO'R cynlluniau Cyfalaf perthnasol yn y Rhaglen Gyfalaf arfaethedig;
  4. CYTUNO i nodi’r Targed Arbedion Teithio arfaethedig o £230k ar gyfer Swyddogion ac Aelodau;
  5. CYTUNO i nodi’r Balans Arbedion o £113k y mae angen dod o hyd iddo o hyd. Noder:  Gwnaeth y Cynghorydd Ceredig Davies ymatal rhag pleidleisio ar yr argymhelliad hwn ac roedd yn dymuno i hyn gael ei nodi yn y cofnodion;
  6. Oherwydd y llythyr diweddar a dderbyniwyd gan Rebecca Evans AS, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol ar 17 Chwefror 2022, ni chafodd argymhelliad rhif 6 ei ystyried;
  7. Cytunodd y Pwyllgor i ddarparu'r adborth priodol canlynol yn ymwneud â'r Gyllideb Ddrafft i'r Cabinet – Cytunwyd i argymell y byddai gweinyddiaeth newydd y Cyngor yn ystyried sefydlu Grŵp Gorchwyl a Gorffen i ystyried Paratoi'r Gyllideb. Byddai'r mater yn cael ei gyfeirio at y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd yn y lle cyntaf.

 

Diolchodd y Cadeirydd i Aelodau’r Pwyllgor am fod yn bresennol a daeth y cyfarfod i ben.

 

Dogfennau ategol: