Cofnodion:
Amlinellodd y
Cynghorydd Bryan Davies, Cadeirydd y Pwyllgor,
weithdrefn y cyfarfod a chroesawodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Ellen ap
Gwynn, yr Aelodau Cabinet a’r Swyddogion i'r cyfarfod.
Cyflwynodd
Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Ellen ap Gwynn, yr adroddiad ar y gyllideb
ddrafft ar gyfer 2022/2023 gan gynnwys y rhaglen gyfalaf tair blynedd, gan
esbonio mai setliad dros dro yw hwn, a disgwylir y setliad terfynol ar 1
Mawrth, 2022. Cyfanswm y
setliad refeniw, a elwir yn Gyllid Allanol Cyfun, a ddyrannwyd i Geredigion ar gyfer
2022/23 yw £119.419m. Mae hyn yn cymharu â dyraniad 2021/22 o £110.006m
(wedi’i addasu ar gyfer trosglwyddiadau) ac mae’n gynnydd o 8.6%. Mae Cymru
gyfan wedi gweld cynnydd o 9.4% ar gyfartaledd gyda Cheredigion yn 19eg.
Dywedodd yr Arweinydd wrth Aelodau'r Pwyllgor fod £50 miliwn o arbedion
wedi'u gwneud ers ei phenodiad yn 2012.
Mae Setliad Ceredigion yn adlewyrchu ystod o symudiadau
ailddosbarthu llai ffafriol yn ariannol a welir yn y boblogaeth a dangosyddion
niferoedd disgyblion Ysgol Uwchradd. Mae Asesiadau o Wariant Safonol yn
gyfrifiadau tybiannol o’r swm y mae angen i bob Cyngor ei wario er mwyn darparu lefel
safonol o wasanaeth. Yr Asesiad o Wariant Safonol ar gyfer 2022/23 yw £166.372m, sef
cynnydd o 7.2% (2021/22 £155.153m). Y cynnydd mwyaf sylweddol o ran gwasanaeth
oedd Gwasanaethau Cymdeithasol Personol, sef 12.2%. Mae model y Gyllideb wedi'i ddrafftio i gynnwys yr addasiadau
o ran y setliad dros dro. Bydd angen ystyried unrhyw addasiadau sydd eu hangen
sy’n codi yn y setliad terfynol a'u hymgorffori'n briodol yn y gyllideb. Mae'r
gwaith asesu manwl, a wnaed i nodi’r pwysau anochel o ran costau sy'n wynebu'r
Gwasanaethau, wedi'i gwblhau, ac mae hwn wedi nodi cyfanswm net o £13.1m,
a grynhoir yn Atodiad 1 ym mhapurau’r agenda. Mae'r swm yma bron yn ddwbl y
blynyddoedd cynt ac yn £3.8m yn fwy na'r swm uwch sydd ar gael yn y setliad a
byddai hyn gyfystyr â'r angen i gynyddu Treth y Cyngor o bron i 8%, fodd
bynnag mae rhai arbedion ar gael i broses pennu’r gyllideb. Daw
costau cynyddol Gofal yn unig i £7m, gan gynnwys:- - Cyflog Byw Gwirioneddol £9.90 y DU ac Yswiriant Gwladol
Cyflogwyr 1.25% – yn effeithio ar y rhan fwyaf os nad y cyfan o’r
Gwasanaethau a Gomisiynir yn ymwneud â Gofal (yn arwain at ffactorau
chwyddiant dros dro o 8.87% ar gyfer Gofal Cartref / Byw â Chymorth, 9.13% ar
gyfer Gofal Preswyl ac 11.15% ar gyfer Taliadau Uniongyrchol); - Cartrefi Preswyl – adolygiad pennu ffioedd yn mynd
rhagddo ar hyn o bryd; - Taliadau Uniongyrchol; - Plant sy’n Derbyn Gofal; a; - Gofal Cartref. Dywedodd yr Arweinydd hefyd fod darparu ar gyfer
chwyddiant mewn cyflogau hefyd yn ffactor arwyddocaol a amcangyfrifir yn
£3.4m, ac nid oes cytundeb ffurfiol eto ar brif ddyfarniad cyflog 2021/22. Ar ôl ystyried y cyllid posibl sydd ar gael, gellir cyflawni cyllideb
gytbwys. Mabwysiadwyd
ffordd gorfforaethol o ymdrin â cholledion a chostau net COVID19, yn hytrach na
bod yn rhaid i bob gwasanaeth ysgwyddo symiau y gellir eu priodoli i
wasanaethau perthnasol. Mae’r dull hwn o weithredu wedi sicrhau bod rheolaeth
ariannol cyllidebau 2021/22 a gweithgarwch busnes fel arfer wedi parhau’n
gryf. Ar hyn o bryd rhagwelir
y bydd y costau caledi a’r incwm a gollir yn dod i gyfanswm gros o ychydig
dan £7m gyda chymaint â phosibl yn cael ei adennill a’i adhawlio drwy
grantiau/arian Llywodraeth Cymru. Bydd
costau ychwanegol yn sgil COVID-19 a rhywfaint o incwm coll yn parhau i gael eu
gweld i mewn i’r flwyddyn 2022/23 a thu hwnt ac felly mae angen cyllideb gorfforaethol
o £750k o fewn cyllideb y Grŵp Arweiniol, yn ogystal â defnyddio’r
gronfa wrth
gefn a glustnodwyd gan gynnwys Cronfa Wrth Gefn COVID-19 a amcangyfrifir i
fod yn £1.25m. Nid oes unrhyw geisiadau am grant yn ddyledus y flwyddyn nesaf
gan y bydd y Gronfa Galedi yn cau ac mae'r Setliad bellach yn caniatáu ar
gyfer hyn. Mae
Llywodraeth Cymru hefyd wedi ymrwymo i barhau i gyflenwi Cyfarpar Diogelu
Personol am ddim ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol cyhyd ag y bo angen ac
i barhau i ddarparu cyllid ar gyfer Profi, Olrhain a Diogelu. Mae
angen cynyddu Treth y Cyngor i ariannu sefyllfa’r gyllideb yn llawn. Mae
4.75% ychwanegol o Dreth y Cyngor yn codi £2.1m gros, sy'n cyfateb i £1.8m
net ar
ôl darparu ar gyfer angen ychwanegol y gyllideb a roddir ar gynllun
Gostyngiadau Treth y
Cyngor. Mae polisi adennill Incwm a chostau’r Cyngor yn golygu bod gwasanaethau’n
parhau i adennill eu costau chwyddiannol sy’n berthnasol i wasanaethau
y gellir codi tâl amdanynt gan ddefnyddwyr gwasanaethau, er mai’r broblem
ar hyn o bryd yn y tymor agos yw sicrhau bod ffrydiau incwm yn cael eu hadennill i
lefelau cyn Covid-19. Eglurodd yr Arweinydd gan mai cynnig cyllideb ddrafft
yw hwn, yn seiliedig ar y setliad Dros Dro, mae’n destun unrhyw addasiadau y
gallai fod eu hangen unwaith y bydd y Setliad Terfynol yn hysbys. Byddai
unrhyw addasiadau angenrheidiol yn cael eu gwneud yn unol â’r canlynol: 1. bydd gwerth unrhyw grantiau penodol a drosglwyddir i’r
Grant Cynnal Refeniw yn cael eu pasio ymlaen at gyllideb y Gwasanaeth
perthnasol; 2. bydd unrhyw newidiadau penodol eraill yn cael eu
targedu’n uniongyrchol at y Gwasanaeth(au) yr
effeithir arnynt, os bydd hynny’n briodol; ac 3. ymdrinnir ag unrhyw newidiadau eraill i’r Grant Cynnal
Refeniw drwy addasu cyllideb refeniw gorfforaethol y Grŵp Arweiniol. Mae Ardoll yr
Awdurdod Tân yn amodol ar gadarnhad ffurfiol a rhagwelir y bydd yn arwain at
bwysau o ran cost o £104k, a fydd yn gofyn am gyllid brigdoriad. |
Gorffennodd yr Arweinydd ei chyflwyniad gyda chrynodeb o bwysau costau ar
draws yr holl wasanaethau/y rhan fwyaf ohonynt, ac ailadroddodd fod yr
adroddiad hwn ynghylch y gyllideb yn ymdrin â chyhoeddiad y setliad dros dro
gydag argymhelliad i'r Cyngor ar lefel Treth y Cyngor ar gyfer 2022/23. Mae'r
Cyngor i fod i ystyried y gyllideb derfynol ar 3 Mawrth 2022 ar ôl craffu ar y
papurau ynghylch y gyllideb a'r cynigion drafft.
Diolchodd y Cadeirydd i Arweinydd y Cyngor am gyflwyno'r wybodaeth a
diolchodd hefyd i Stephen Johnson, Duncan Hall a Justin Davies a'u tîm o
swyddogion am eu gwaith caled wrth baratoi'r adroddiadau i'r Pwyllgor eu
hystyried.
Yna
cyflwynodd yr Aelod Cabinet perthnasol y pwysau costau sy'n effeithio ar yr
holl wasanaethau / y rhan fwyaf ohonynt (a ddangosir yn Atodiad B o bapurau'r
agenda).
Ystyriodd
Aelodau'r Pwyllgor y cyllidebau ar gyfer y meysydd gwasanaeth hynny sydd o fewn
cylch gwaith y Pwyllgor (a ddangosir yn Atodiad C yr adroddiad); sef:
·
Porth Cymorth Cynnal,
Porth Gofal, Porth Cymorth Cynnar
Roedd Sian Howys, Donna Pritchard ac Elen James yn
bresennol i ateb unrhyw gwestiynau. Cyflwynodd yr Aelodau Cabinet, y Cynghorwyr
Catherine Hughes ac Alun Williams, y wybodaeth sy'n berthnasol i'w portffolios
cabinet.
·
Polisi, Perfformiad a
Diogelu’r Cyhoedd
Roedd Alun Williams
yn bresennol i ateb unrhyw gwestiynau. Cyflwynodd yr Aelod Cabinet, y
Cynghorydd Gareth Lloyd, y wybodaeth sy'n berthnasol i’w bortffolio Cabinet.
Yn ystod y cyflwyniad, manteisiodd y Cynghorwyr Catherine Hughes ac Alun
Williams ar y cyfle i ddiolch i’r staff sydd wedi cynnal gwasanaethau hanfodol
o dan amgylchiadau heriol iawn yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf.
Manteisiodd y Cynghorydd Gareth Lloyd hefyd ar y cyfle i ddiolch i’r staff
sydd wedi gweithio’n ddiflino i sicrhau bod Ceredigion mor ddiogel â phosibl yn
ystod y ddwy flynedd ddiwethaf.
Yn ystod y drafodaeth, codwyd y pwyntiau/pryderon canlynol:
·
Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch
arian wedi’i neilltuo i foderneiddio Cartrefi Preswyl yr Awdurdod, cadarnhawyd
bod arian wedi'i neilltuo ar gyfer uwchraddio Cartrefi Preswyl fel y nodwyd yn
y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig a ddangosir yn Atodiad A, tudalen 62 o
bapurau’r agenda;
·
Yn dilyn cwestiwn ynghylch
costau Gofal Cartref, dywedwyd wrth y Pwyllgor fod Arwyn Morris, Swyddog
Arweiniol Corfforaethol, wrthi’n archwilio opsiynau ar gyfer y model gorau ar
gyfer Gofal Cartref i Geredigion ar hyn o bryd;
·
Atgoffodd Aelod o'r Pwyllgor
bawb a oedd yn bresennol am Gronfa Gofal Iechyd Parhaus y GIG sydd ar gael drwy
asesiad;
·
Cafwyd trafodaeth hir
ynghylch buddsoddiad newydd arfaethedig yn y gwasanaeth – Diogelu’r Cyhoedd, a
ddangosir yn Atodiad C, tudalen 73 o bapurau’r agenda fel a ganlyn:
Mae pwysau sylweddol ar
y Gwasanaeth Diogelu'r Cyhoedd o ganlyniad i'r Pandemig
parhaus. Yn benodol, mae llawer o dasgau statudol beichus wrth ymateb i
achosion mewn lleoliadau gofal preswyl ac ysgolion o ran rheoli heintiau a rhoi
cyngor arbenigol a chyfarwyddyd ynghylch rheoli clystyrau ac achosion. Mae
buddsoddiadau ychwanegol yn costio ond gall hyn fod yn rhan o drafodaethau'r
Aelodau ynghylch y 3 opsiwn gwahanol y mae'r Cabinet yn edrych arnynt o ran
Treth y Cyngor. Er enghraifft, byddai £55,000 yn ariannu'n fras 1 swydd
ychwanegol Uwch Swyddog Iechyd yr Amgylchedd.
Cydnabu Aelodau'r Pwyllgor y swydd amhrisiadwy hon
a'r gwaith statudol a wneir gan y Gwasanaeth hwn. Fodd bynnag, teimlai rhai
Aelodau fod prinder staff ar draws gwasanaethau eraill o fewn yr Awdurdod ac
felly ni allent gefnogi hyn. Teimlai Aelodau eraill o’r Pwyllgor fod hwn yn
weithgaredd eithriadol o bwysig o ystyried y pandemig
Covid parhaus, ac roeddent yn gefnogol iawn o’r rôl
hon.
·
Yn dilyn cwestiwn ynghylch
swyddi gwag ar gyfer staff gofal cymdeithasol sy’n cael eu hysbysebu ar hyn o
bryd ac a yw'r cyllid ar gyfer y swyddi eisoes wedi'i gyfrif yn y Gyllideb hon
ai peidio, cadarnhawyd bod y swyddi gwag a hysbysebir wedi cael eu cyfrif yn y
Gyllideb hon.
Diolchodd y Cadeirydd i’r Aelodau Cabinet am
gyflwyno'r wybodaeth a diolchodd i'r swyddogion am y wybodaeth.
Yna cyflwynodd yr Aelod Cabinet a’r swyddog
perthnasol y Ffioedd a’r Taliadau arfaethedig fel yr amlinellwyd yn Atodiad D,
tudalennau 1 i 13 ym mhapurau’r agenda.
Yna rhoddwyd cyfle i’r Aelodau ofyn cwestiynau, a
gafodd eu hateb yn eu tro gan yr Aelod Cabinet neu’r Swyddog perthnasol.
Diolchodd y Cadeirydd i'r Arweinydd, yr Aelodau
Cabinet a'r Swyddogion am y wybodaeth a dderbyniwyd yn y cyfarfod, a gofynnodd
i Aelodau'r Pwyllgor bleidleisio yn eu tro a ydynt yn derbyn, yn erbyn, neu'n
ymatal rhag pleidleisio ar yr argymhellion canlynol:
1. Ystyried y Cyllidebau
Refeniw a Chyfalaf cyffredinol a gynigir.
2. Ystyried y pwysau
costau amcangyfrifedig a wynebir (£13.173m ar draws
pob agwedd).
3. Ystyried y ffioedd a'r taliadau arfaethedig a'r incwm ychwanegol o £155k
a amcangyfrifir i helpu gyda'r Arbedion sydd eu hangen.
Argymhellion:
Ar ôl ystyried, cytunodd yr Aelodau i
argymell bod y Cabinet yn:
1. CYMERADWYO'r Cyllidebau Refeniw a Chyfalaf
cyffredinol a gynigir;
2. CYMERADWYO'r Pwysau Costau amcangyfrifedig;
3. CYMERADWYO'r Ffioedd a'r Taliadau arfaethedig fel yr amlinellir yn
atodiad D, atodiad 2 o bapurau'r agenda, (tudalennau 1-13 o 51) yn amodol ar
ystyried cynnwys y canlynol ar dudalen 9 o 51 mewn perthynas â'r ffioedd ar
gyfer Canolfannau Lles,
Canolfannau Lles – Pecynnau Aelodaeth Ceredigion Actif, Porth Cymorth
Cynnar:
Cytuno i ddirprwyo awdurdod i'r Cyfarwyddwr Corfforaethol
a/neu Swyddog Arweiniol Corfforaethol Porth Cymorth Cynnar, gan ymgynghori â'r
Aelod Cabinet ar gyfer Porth Gofal, Ymyrraeth Gynnar, Canolfannau Lles a
Diwylliant, i amrywio'r Ffioedd a'r Taliadau ar gyfer y Canolfannau Lles ar
gyfer 2022/23, i gynnig cynigion arbennig tymor byr / am gyfnod cyfyngedig, er
mwyn cymell mwy o blant, pobl ifanc, unigolion a theuluoedd i gymryd rhan mewn
gweithgarwch corfforol rheolaidd a dilyn ffordd iachach o fyw.
Cytunwyd y
byddai manylion pellach mewn perthynas â’r uchod yn cael eu cyflwyno yng
nghyfarfod y pwyllgor ar 16 Mawrth 2022.
4. CYTUNO nodi’r Targed
Arbedion Teithio arfaethedig o £230k ar gyfer Swyddogion ac Aelodau;
5. CYTUNO nodi’r Balans Arbedion o £113k y
mae angen dod o hyd iddo o hyd;
·
Cynigiwyd,
eiliwyd a phleidleisiwyd ar 4.75%. Cynigiwyd, eiliwyd a phleidleisiwyd ar
gynnydd o 5.0% hefyd.
·
Nid oedd
aelodau'r Pwyllgor am ystyried 5.25%.
·
Pleidleisiodd y Pwyllgor
ar y gwelliant yn gyntaf, sef cynnydd o 5% yn Nhreth y Cyngor gyda'r cyllid
ychwanegol yn darparu ar gyfer swydd Uwch Swyddog Iechyd yr Amgylchedd
ychwanegol, byddai £55k yn ariannu hyn yn fras, fel yr ystyriwyd ac a nodwyd
uchod ar dudalen 4 a 5 o'r cofnodion hyn.
·
Pleidleisiodd
7 Aelod o'r Pwyllgor yn erbyn y
cynnig hwn, gyda 5 yn pleidleisio o blaid.
·
Yna
pleidleisiodd y Pwyllgor ar y cynnig cychwynnol o gynnydd o 4.75% yn Nhreth y
Cyngor.
·
Pleidleisiodd
y rhan fwyaf o Aelodau'r Pwyllgor o blaid cynnydd o 4.75% ar gyfer lefelau
Treth y Cyngor gyda 7 Aelod o’r Pwyllgor yn pleidleisio o blaid, a 5 yn ymatal
rhag pleidleisio.
·
Felly
byddai'r Pwyllgor yn argymell cynnydd o 4.75% yn Nhreth y Cyngor ar gyfer
2022-2023.
Dogfennau ategol: