Cofnodion:
Rhoddodd y Cynghorydd Rowland
Rees-Evans, Cadeirydd y Pwyllgor, fraslun o weithdrefn y cyfarfod a chroesawodd
i’r cyfarfod Arweinydd y Cyngor - y Cynghorydd Ellen ap Gwynn ynghyd â’r
Aelodau o’r Cabinet a Swyddogion.
Bu i
Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Ellen ap Gwynn gyflwyno’r adroddiad am
gyllideb
ddrafft 2022/23 a’r rhaglen gyfalaf tair blynedd, gan esbonio mai setliad
dros dro yw hwn a bod disgwyl y setliad terfynol ar 1 Mawrth, 2022. Cyfanswm y setliad refeniw, a elwir yn Gyllid Allanol
Cyfun, a ddyrannwyd i Geredigion ar gyfer 2022/23 yw £119.419m, o gymharu â £110.006m yn 2021/22 (wedi'i addasu ar gyfer
trosglwyddiadau) sef cynnydd o 8.6%. Mae
Cymru gyfan wedi gweld cynnydd o 9.4% ar gyfartaledd ac mae Ceredigion yn safle 19 o blith yr awdurdodau
lleol. Rhoddodd yr Arweinydd wybod i Aelodau’r
Pwyllgor fod
£50 miliwn o
arbedion wedi’u gwneud ers iddi gael ei phenodi yn 2012.
Mae Setliad Ceredigion yn
adlewyrchu ystod o symudiadau ailddosbarthu
llai ffafriol yn ariannol a
welir yn y boblogaeth a dangosyddion niferoedd disgyblion Ysgolion Uwchradd. Mae Asesiadau o
Wariant Safonol yn gyfrifiadau tybiannol o’r swm y mae angen i bob
Cyngor ei wario er mwyn darparu lefel safonol o wasanaeth. Yr Asesiad o Wariant Safonol ar gyfer 2022/23 yw £166.372m,
sef cynnydd o 7.2% o’r flwyddyn flaenorol
(2021/22 - £155.153m). Y cynnydd mwyaf sylweddol o ran gwasanaeth oedd y Gwasanaethau Cymdeithasol Personol, sef 12.2%.
Mae model y Gyllideb wedi’i
ddrafftio i gynnwys yr addasiadau o ran
y setliad dros dro. Bydd
angen ystyried unrhyw addasiadau sydd eu hangen
ac sy’n codi yn y setliad
terfynol a'u hymgorffori'n briodol yn y gyllideb.
Mae'r gwaith
asesu manwl, a wnaed i nodi’r pwysau costau anochel
sy'n
wynebu'r Gwasanaethau, wedi'i gwblhau ac mae hwn wedi nodi cyfanswm net o
£13.1m a grynhowyd yn Atodiad 1 o bapurau’r agenda. Mae'r swm
yma bron yn ddwbl y blynyddoedd cynt ac yn £3.8m yn fwy na'r swm uwch sydd ar
gael yn y setliad. Byddai hyn gyfystyr â’r angen i gynyddu Treth y Cyngor
gan bron i 8%,
fodd bynnag
mae rhai arbedion ar gael i broses pennu’r gyllideb.
Daw costau cynyddol Gofal yn unig i £7m,
gan gynnwys:
·
Cyflog Byw Gwirioneddol £9.90 y DU ac Yswiriant Gwladol
Cyflogwyr 1.25% – yn effeithio ar y rhan fwyaf os nad y cyfan o’r Gwasanaethau
a Gomisiynir yn ymwneud â Gofal (yn arwain at ffactorau chwyddiant dros dro o
8.87% ar gyfer Gofal Cartref / Byw â Chymorth, 9.13% ar gyfer Gofal Preswyl ac
11.15% ar gyfer Taliadau Uniongyrchol);
·
Cartrefi Preswyl – adolygiad pennu ffioedd yn mynd
rhagddo ar hyn o bryd;
·
Taliadau Uniongyrchol;
·
Plant sy'n derbyn gofal;
·
Gofal Cartref.
Dywedodd yr Arweinydd fod darparu ar
gyfer chwyddiant mewn cyflogau
hefyd yn ffactor arwyddocaol a
amcangyfrifir yn £3.4m, ac fel y mae pethau nid oes cytundeb ffurfiol eto ar
brif ddyfarniad cyflog 2021/22. Ar ôl cymryd i ystyriaeth y cyllid posibl sydd
ar gael, gellir cyflawni cyllideb wedi’i mantoli.
Mabwysiadwyd
ffordd gorfforaethol o ymdrin â cholledion a chostau net Covid-19,
yn hytrach
na bod yn rhaid i bob gwasanaeth ysgwyddo symiau a ddyrennir
i bob
gwasanaeth. Mae’r dull hwn o
weithredu wedi sicrhau bod rheolaeth ariannol cyllidebau 2021/22 a’r
gweithgarwch busnes arferol wedi parhau’n gryf. Ar hyn o bryd rhagwelir y bydd
y costau caledi a’r incwm a gollir yn dod i gyfanswm gros o ychydig dan £7m
gyda chymaint â phosibl yn cael ei
adennill a’i adhawlio drwy grantiau/arian Llywodraeth Cymru.
Bydd costau ychwanegol yn sgil Covid-19 a rhywfaint o incwm
coll yn parhau i mewn i’r flwyddyn 2022/2 a thu hwnt. Felly mae angen cyllideb
gorfforaethol £750k o fewn cyllideb y Grŵp Arweiniol, yn ogystal â
defnyddio cronfa wrth gefn a glustnodwyd gan gynnwys Cronfa Wrth Gefn Covid-19
a amcangyfrifir yn £1.25m. Nid oes dim ceisiadau am grant yn ddyledus y
flwyddyn nesaf gan y bydd y Gronfa Galedi yn cau ac mae'r Setliad bellach yn
cynnwys ar gyfer yr angen hwnnw. Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi ymrwymo i
barhau i gyflenwi Cyfarpar Diogelu Personol am ddim ar gyfer Iechyd a Gofal
Cymdeithasol cyhyd ag y bo angen ac i barhau i ddarparu cyllid ar gyfer Profi,
Olrhain a Diogelu.
Bydd angen i Dreth y Cyngor godi i ariannu’r
sefyllfa Gyllidebol yn llawn a byddai cynnydd o 6% yn ddelfrydol. Mae 4.75% ychwanegol o Dreth y Cyngor yn codi
£2.1m gros, sy'n cyfateb i £1.8m net ar ôl darparu ar gyfer anghenion
ychwanegol y gyllideb yn sgil cynllun Gostyngiadau Treth y Cyngor. Mae polisi
adennill Incwm a chostau’r Cyngor yn golygu bod gwasanaethau’n parhau i
adennill eu costau chwyddiannol sy’n berthnasol i wasanaethau y gellir codi tâl
amdanynt gan ddefnyddwyr gwasanaethau, er mai’r broblem ar hyn o bryd yn y
tymor byr yw sicrhau bod ffrydiau incwm yn cael eu hadennill i’r lefelau cyn
Covid-19.
Cynghorwyd yr Aelodau i fynegi
pryderon am feysydd gwasanaeth penodol yng nghyfarfodydd y Pwyllgor Craffu
perthnasol yr wythnos nesaf.
Esboniodd
yr Arweinydd mai cyllideb ddrafft a gynigir a hynny
ar sail y setliad Dros Dro ac yn destun unrhyw addasiadau y gall fod angen eu
gwneud unwaith y bydd y Setliad Terfynol yn hysbys.
Gwneir unrhyw addasiadau angenrheidiol yn unol â’r canlynol:
1. bydd gwerth
unrhyw grantiau penodol a drosglwyddir i’r Grant Cynnal Refeniw yn cael eu
pasio ymlaen at gyllideb y Gwasanaeth perthnasol;
2. bydd unrhyw
newidiadau penodol eraill yn cael eu targedu’n uniongyrchol at y Gwasanaeth(au) a effeithir, os bydd hynny’n briodol;
3. ymdrinnir ag unrhyw newidiadau eraill i’r
Grant Cynnal Refeniw drwy addasu cyllideb refeniw gorfforaethol y Grŵp
Arweiniol.
Mae Ardoll yr Awdurdod Tân yn amodol ar gadarnhad
ffurfiol a rhagwelir y bydd yn arwain at bwysau costau o £104k, a fydd angen
cyllid brigdoriad.
Gorffennodd yr Arweinydd ei chyflwyniad gyda
chrynodeb o bwysau costau ar draws yr holl wasanaethau/y rhan fwyaf ohonynt ac
adleisiodd fod adroddiad hwn y gyllideb yn ymdrin â’r setliad dros dro gydag
argymhelliad i'r Cyngor ynghylch lefel Treth y Cyngor yn 2022/23. Bydd y Cyngor yn ystyried y gyllideb derfynol ar 3
Mawrth 2022 ar ôl craffu ar bapurau'r gyllideb a'r cynigion drafft.
Rhoddwyd cyfle i Aelodau’r Pwyllgor ofyn cwestiynau a
atebwyd yn eu tro gan yr Arweinydd a/neu'r Swyddogion. Y prif bwyntiau a godwyd
oedd y canlynol:
1. Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch cost
gynyddol Yswiriant Gwladol ac a oes angen i'r Awdurdod Lleol ysgwyddo’r costau
hyn, cadarnhawyd y byddent yn cael eu hysgwyddo yn genedlaethol;
2. O ran taliad newydd Llywodraeth Cymru i
staff Gofal Cymdeithasol, ni fydd yn cael effaith ar y broses o bennu’r gyllideb
ar gyfer y flwyddyn nesaf a dylai gael ei dalu gan gyllid grant;
3. Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch ariannu
Cyd-bwyllgorau Corfforaethol, cadarnhawyd nad yw’r cyllid rhwng Powys a
Cheredigion yn derfynol eto;
4. Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch a yw
Tyfu Canolbarth Cymru yn rhan o'r Cydbwyllgor Corfforaethol, cadarnhawyd ei fod
ar wahân ar hyn o bryd;
5. Gofynnwyd cwestiwn ynghylch Pwysau Cost
ac a ydynt wedi'u cynnwys o fewn y Gyllideb a fantolwyd? Cadarnhawyd, os cytunir ar gynnydd o 5% yn
Nhreth y Cyngor, y byddai hyn yn talu am y pwysau cost presennol. Os cytunir ar
4.75% byddai angen dyrannu rhagor o arian;
6. Cadarnhawyd mai Cyllideb y Grŵp
Arweiniol sy'n gyfrifol am gronfa frys Covid-19, cost Lleoliadau Gofal y Tu
Allan i'r Sir, ac arian wrth gefn ar gyfer dyfarniadau Cyflog a fydd o bosib yn
uwch na'r 2.5% a ddyrennir i Wasanaethau;
7. Codwyd cwestiwn ynghylch costau sy’n
gysylltiedig â'r corffdai dros dro, a sefydlwyd yn ystod ton gyntaf y pandemig. Cadarnhawyd bod 100% o'r costau wedi’u hadennill;
8. Holwyd cwestiwn ynghylch eiddo gwag
mewn pentrefi, yn enwedig hen ysgolion a phryd y bydd y rhain yn cael eu
gwerthu. Cadarnhawyd bod gan y Panel Asedau broses i’w dilyn mewn achosion o’r
fath a’u bod ond yn gallu cynnig eiddo dros ben ar y farchnad agored pan ystyrir
ei bod yn briodol gwneud hynny.
Cadarnhawyd bod yr holl arian a ddaw o werthu ysgolion gwag yn cael ei
neilltuo i gefnogi Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif;
9. Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â
gwerthu hen gartref preswyl Bodlondeb, Penparcau, Aberystwyth, cadarnhawyd y
bydd yr eiddo ar gael i'w brynu ar y farchnad agored ymhen ychydig wythnosau;
10. Awgrymwyd y dylid trin yr arian a geir
o werthu asedau Gofal Cymdeithasol yn yr un modd ag asedau Ysgolion, sy’n cael
eu neilltuo ar gyfer Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif. Cytunwyd y byddai hyn yn cael ei drafod a’i
ystyried ymhellach ar ôl yr etholiad.
Yn dilyn trafodaeth, cytunodd yr
Aelodau i ystyried sefyllfa gyffredinol y gyllideb fel y dangosir yn adroddiad
y gyllideb i'r Cabinet, er mwyn helpu i baratoi cyllideb wedi’i mantoli ar
gyfer y flwyddyn nesaf.
Diolchodd y Cadeirydd i Arweinydd y
Cyngor am gyflwyno’r wybodaeth a diolchodd i Stephen Johnson, Duncan Hall a
Justin Davies a’u tîm o Swyddogion am eu gwaith caled wrth baratoi’r
adroddiadau er mwyn i’r Pwyllgor eu hystyried yn y cyfarfod y prynhawn
yma.
Dogfennau ategol: