Cofnodion:
Cafwyd cais
am ollyngiad dyddiedig 31 Ionawr 2022 oddi wrth y Cynghorydd Ruth Davies i siarad a phleidleisio ar gais cynllunio
ei chymydog i newid defnydd ei
heiddo i fod yn fusnes glampio
sef cais cynllunio A211044 ar gyfer 6 pod glampio, toiled a chawodydd a lle parcio cysylltiedig yn The Gardener’s Cottage, The Walled Gardens, Llangoedmor,
Aberteifi SA43 2LQ.
Roedd y Cynghorydd
Davies yn bresennol yn y cyfarfod i gyflwyno ei chais.
Roedd gan
yr ymgeisydd fynediad preifat dros ei thir
i’w hannedd ond nid hawl
i newid defnydd y mynediad ar gyfer
y datblygiad newydd arfaethedig . Roedd y trac mynediad eisoes
mewn cyflwr gwael oherwydd y defnydd anghyfreithlon o’i garej fel
Airbnb hyd at Nadolig 2021
ac yn awr fel annedd ychwanegol.
Nid oedd gan y cymdogion hawddfreintiau ychwanegol ar gyfer y mynediad
ychwanegol nac ar gyfer y prif
gyflenwad dŵr i’r ‘annedd’ hon na chwaith ar
gyfer y cais presennol am yr unedau Glampio a’r toiledau a’r
cawodydd a ddarperir.
Cyflenwyd y dŵr
i eiddo’r cymdogion drwy is-fesurydd o’i fferm hi. Roedd
y prif gyflenwad dŵr yn dod
i ben dros 900 metr i ffwrdd wrth fferm
Cwrcoed. Roedd pwysedd y dŵr eisoes yn isel
ac roedd y dŵr a ddefnyddiwyd rhwng mis Rhagfyr 2020 a mis Mehefin 2021 eisoes wedi cynyddu
gan 25% heb ddim cynnydd yn
y defnydd amaethyddol neu fwy o dda
byw, a dim dŵr yn gollwng. Nid
oedd defnyddwyr presennol y lôn yn cau gât
y cae ar ben y lôn / ar y briffordd
gyhoeddus. Roedd da byw yn crwydro
mas o’r cae yn rheolaidd o achos hyn. Dros
y misoedd diwethaf roedd y gât wedi
cael ei gadael
ar agor yn
rheolaidd er iddi siarad â’r
ymgeisydd a bod arwydd ar y gât yn
gofyn iddi gael ei chau
drwy’r amser. Hefyd gwelwyd cŵn
ymwelwyr yn cwrso ar ôl
y da a byddai hyn ond yn cynyddu
wrth i nifer yr aelwydydd gynyddu
o’r ddwy aelwyd a ganiateir ar hyn o bryd
i chwe aelwyd arall.
Dywedodd y Cynghorydd
Davies ei bod yn cyflwyno’r cais am ei bod yn bosib
nad oedd y Cyngor yn ymwybodol o’r
pwyntiau uchod.
Atebodd y Cynghorydd
Davies gwestiynau ynglŷn
â’i chais am ollyngiad.
Nododd y Cynghorydd
Davies y canlynol:
• bod trefniadau bilio dŵr preifat ar waith
• bod 11 aelod ar Gyngor
Cymuned Llangoedmor.
Gofynnwyd i’r
Cynghorydd Davies adael y cyfarfod a oedd yn cael ei
gynnal drwy fideogynadledda fel y gallai’r Pwyllgor ystyried ei chais.
PENDERFYNWYD i WRTHOD y cais am ollyngiad i siarad a phleidleisio yng nghyfarfod Cyngor Cymuned
Llangoedmor ar 7/2/22 ynglŷn
â chais cynllunio A211044
gyfer 6 pod glampio,
toiled a chawodydd a lle parcio cysylltiedig yn The Gardener’s Cottage, The Walled Gardens, Llangoedmor,
Aberteifi
Bu’r Pwyllgor
yn trafod y cais am ollyngiad am gryn amser.
Roedd y rhesymau
dros wrthod y cais yn cynnwys
y canlynol:
(i) nid oedd
y Pwyllgor yn fodlon bod unrhyw un o’r seiliau statudol
ar gyfer gollyngiad wedi’u nodi;
(ii) roedd y Pwyllgor
yn nodi bod gan Gyngor Cymuned
Llangoedmor brotocol a oedd
yn caniatáu i aelodau’r cyhoedd wneud sylwadau fel aelod o’r
cyhoedd yng nghyfarfodydd y cyngor cymuned ynglŷn â materion ar yr
agenda neu faterion a oedd o bryder i’r
Gymuned;
(iii) roedd y Pwyllgor
yn pryderu y gallai presenoldeb cynghorydd ddylanwadu ar benderfyniad y Cyngor Cymuned;
(iv) nid oedd
y Pwyllgor yn teimlo y byddai gwrthod y cais yn arwain at ddiffyg
democrataidd; ac
(v) roedd paragraff 14(2), Cod Ymddygiad yr Aelodau yn berthnasol
Dogfennau ategol: