Cofnodion:
Dywedodd Mr
Russell Hughes-Pickering, Swyddog Arweiniol Corfforaethol: Economi ac Adfywio
fod y Grŵp Annibynnol wedi cyflwyno papur i’r Pwyllgor ar 29 Tachwedd 2021
yn amlinellu gweledigaeth ynghylch creu llwybr i Genhedlaeth Ifanc Ceredigion
berchen ar eu tŷ eu hunain. Roedd y
weledigaeth
wedi'i drafftio mewn ymateb i'r sefyllfa economaidd sy'n wynebu pobl ifanc
Ceredigion a'r diffyg cyfleoedd i'w galluogi i brynu eu cartref cyntaf ac aros
yn eu cymunedau eu hunain.
Mewn cyfarfod a gynhaliwyd ym mis Tachwedd 2021, cyflwynwyd tystiolaeth i’r Aelodau i ddangos mai cyfyngedig oedd y cyfleoedd i bobl ifanc allu prynu eu cartref cyntaf oherwydd yr economi yng Ngheredigion. Roedd y Pwyllgor yn gefnogol i’r cynnig a chytunwyd y byddai’r ‘Weledigaeth ynghylch creu llwybr i Genhedlaeth Ifanc Ceredigion berchen ar eu tŷ eu hunain’ yn cael ei throsglwyddo i’r swyddogion perthnasol fel y gallent weithio ar ymarferoldeb y cynllun. Byddai’r Swyddogion wedyn yn dychwelyd i’r Pwyllgor gyda'u hargymhellion cyn y byddai argymhellion yn cael eu cyflwyno gerbron y Cabinet a'r Cyngor. Petai'r cynllun yn cael ei gymeradwyo gan y Cabinet/Cyngor, byddai'r opsiwn ariannu a ffefrir yn cael ei fodelu i mewn i’r broses flynyddol o bennu’r gyllideb.
Dywedwyd bod
Grŵp Gorchwyl a Gorffen Premiwm Treth y Cyngor a oedd yn cynnwys
Cynghorwyr a Swyddogion wedi cytuno’n unfrydol yn y cyfarfod ar 26 Ionawr 2022
i argymell a chefnogi’r cynnig tai lleol a gyflwynwyd i’r Pwyllgor.
Ystyriwyd cynnwys
yr adroddiad a oedd yn rhoi amlinelliad manwl o’r Prif Bwyntiau yn y Weledigaeth,
Arfarniad o’r Cynnig a’r Casgliadau.
Gofynnodd yr
Aelodau gwestiynau am gynnwys yr adroddiad a atebodd y swyddogion y cwestiynau
hynny. Trafododd y Pwyllgor amrywiol faterion a chyfleoedd y byddai modd i’r
weinyddiaeth newydd eu hystyried a’u datblygu ymhellach ar ôl yr etholiadau
lleol ym mis Mai 2022. Cafwyd consensws bod y cynigion yn briodol fel cam
cyntaf cynllun hirdymor i gefnogi pobl ifanc yng Ngheredigion.
CYTUNWYD argymell
y canlynol i’r Cyngor:-
1.bod
penderfyniad y Cyngor 24/3/16 Cofnod 12) Adroddiad y Dirprwy Brif Weithredwr ar
Bremiymau Treth y Cyngor ar gyfer cartrefi gwag hirdymor ac ail gartrefi, pwynt
4 yn cael ei ddiwygio fel a ganlyn:
“4) a) Lefel
Premiwm Ail Gartrefi Treth y Cyngor a godir i’w phennu ar 25% (yn dod i rym o 1
Ebrill 2017), a, b) bod yr holl arian a godir o Bremiwm 25% Ail Gartrefi Treth
y Cyngor (net o ad-daliadau Treth y Cyngor), yn cael ei glustnodi a'i
ddefnyddio i gefnogi'r Cynllun Tai Cymunedol.”
2. bod yr holl
arian a godir o Bremiwm 25% Ail Gartrefi Treth y Cyngor rhwng y cyfnod 1/4/17 i
31/3/22 (net o ad-daliadau Treth y Cyngor), yn cael ei glustnodi a'i ddefnyddio
i gefnogi'r Cynllun Tai Cymunedol.
3. bod yr holl
arian a godir o Bremiwm 25% Ail Gartrefi Treth y Cyngor o 1/4/22 (net o ad-daliadau
Treth y Cyngor), yn cael ei glustnodi a'i ddefnyddio i gefnogi'r Cynllun Tai
Cymunedol.
4. o 1/4/22, bod
yr holl arian a godir o Bremiwm 25% Cartrefi Gwag Treth y Cyngor (net o
ad-daliadau Treth y Cyngor), yn cael ei glustnodi a'i ddefnyddio i gefnogi'r
Cynllun Tai Cymunedol.
5. bod
penderfyniad y Cyngor 16/3/17 cofnod 8)b) Premiymau Treth y Cyngor ar Ail
Gartrefi yn cael ei ddiddymu.
6. bod manylion
elfen rhannu ecwiti o'r cynllun yn cael eu paratoi a'u cytuno o fewn 12 mis i
benderfyniad y Cyngor a bod gwaith yn parhau ar yr opsiynau eraill.
7.bod y
posibilrwydd o sefydlu Cynllun Budd Cymunedol yn cael ei ohirio am flwyddyn.
Ar ôl ystyried
hyn oll, cytunodd Aelodau’r Pwyllgor i argymell bod y Cabinet yn cytuno i
bwyntiau 1,2,3,4,5, 6 a 7 uchod, cyn i’r mater fynd gerbron y Cyngor.
Diolchodd y
Cadeirydd i’r Swyddogion am yr adroddiad cynhwysfawr ac am eu cefnogaeth yn
ystod y broses hon.
Dogfennau ategol: