Eitem Agenda

Meysydd Parcio Talu ac Arddangos

Cofnodion:

Bu i’r Aelodau ofyn am adroddiad gyda rhagor o wybodaeth ynghylch y cynigion a gyflwynwyd i'r Pwyllgor hwn ar 10 Hydref 2019.  Yn dilyn y cyfarfod hwnnw, argymhellodd y Pwyllgor y canlynol i’r Cabinet:

·         Cynnal rhagor o waith ar y cynigion a awgrymwyd o ran y meysydd parcio talu ac arddangos;

·         Dilyn y prosesau ymgynghori gofynnol mewn perthynas â’r cynnig ar gyfer Maes Parcio Pendre.

 

Cyflwynodd Gerwyn Jones y sefyllfa bresennol i Aelodau’r Pwyllgor a hynny ar ffurf

cyflwyniad Pwerbwynt gan ddweud fod pandemig COVID-19 wedi cael effaith sylweddol ar allu'r Gwasanaeth i ddatblygu prosiectau a gweithio y tu hwnt i gynnal gwasanaethau rheng flaen.

 

Mae tîm y Gwasanaethau Parcio wedi bod yn ymwneud llawer ag ymateb corfforaethol y Cyngor i'r pandemig, sydd wedi gweld staff yn cael eu hadleoli i rolau yn y Tîm

Profi, Olrhain a Diogelu, y tîm Diogelu'r Cyhoedd a hefyd yn cefnogi gweithgareddau megis dosbarthu bocsys bwyd i unigolion bregus.

 

Wrth i sefyllfa’r pandemig esblygu, mae’r ymateb hefyd wedi esblygu,  ac yn achos tîm y Gwasanaethau Parcio mae’r tîm bellach wedi ailddechrau ei gyfres lawn o weithgareddau sy'n ymwneud yn bennaf â monitro, cynghori a gorfodi gwaith sy'n gysylltiedig â chynllun Gorfodi Parcio Sifil y Cyngor a rheoli'r portffolio o feysydd parcio talu ac arddangos.

 

Penodwyd Rheolwr newydd ar y Gwasanaethau Parcio, Nicola Parry, ac mae wedi bod yn ei swydd ers mis Gorffennaf 2021. Roedd y rôl wedi bod yn wag am dros 12 mis cyn y dyddiad hwn oherwydd y pandemig ac ailstrwythuro'r Gwasanaethau Amgylcheddol. Yn ogystal â Rheolwr y Gwasanaethau Parcio, mae Tîm bach y Gwasanaethau Parcio ar hyn o bryd yn cynnwys 4 Swyddog Gwasanaethau Parcio ac 1 Arweinydd Gwaith y Gwasanaethau Parcio. Ar hyn o bryd mae 1 swydd wag ar gyfer Swyddog Gwasanaethau Parcio ac mae proses recriwtio yn mynd yn ei blaen mewn perthynas â hyn.

 

Mae aelodau’r Tîm Gwasanaethau Parcio bach yn cael eu lleoli ar sail blaenoriaeth

lle ystyrir y mae’r angen mwyaf a lle mae eu presenoldeb yn debygol o gael effaith gadarnhaol ar faterion neu bryderon. Mae rhai materion a lleoliadau, megis yng nghyffiniau ysgolion ar ddechrau a diwedd y diwrnod ysgol, a sefyllfaoedd, megis parcio ar y palmant, lle mae gallu’r tîm i ddylanwadu ar y rhain yn gyfyngedig.

 

Yna rhoddodd swyddogion wybod i'r Pwyllgor faint o docynnau a brynwyd  

a’r incwm o holl Feysydd Parcio Talu ac Arddangos yn nhrefi Ceredigion, fel y dangosir yn yr Adroddiad.  Mae'n amlwg y bydd pandemig COVID-19 wedi effeithio'n sylweddol ar y blynyddoedd 2020/21 a 2021/22 o ran defnydd a’r incwm a gynhyrchwyd drwy'r peiriannau.

 

      Yna cyfeiriodd y swyddogion at wybodaeth mewn perthynas â’r tocynnau tymor a ddefnyddir ym Meysydd Parcio Talu ac Arddangos Ceredigion.

 

       Mae wedi bod yn bosibl datblygu'r awgrym a wnaed gan y Pwyllgor ym mis

       Hydref 2019 o ran darparu mwy o beiriannau parcio sy’n derbyn cerdyn yn unig.

       Mae Meysydd Parcio Talu ac Arddangos y Cyngor wedi bod yn ddi-arian-parod ers

       1 Rhagfyr 2020. Mae'r newid, gan ystyried nifer y trafodion a wnaed, wedi mynd yn dda, gyda'r trefniadau'n cael eu hadolygu a'u gwella'n barhaus i adlewyrchu'r adborth a dderbynnir a’r profiad. Gellir gweld yr adroddiad i'r Cabinet, a gyflwynwyd ar 12 Ionawr 2021, drwy'r ddolen ganlynol:

http://www.ceredigion.gov.uk/cpdl/Democratic_Services_Meetings_Public/(Dwyieitho

g)%20-%20Cashless%20Car%20Parking%20Charges.pdf

 

        Bwriedir rhesymoli'r cynigion ar draws y meysydd parcio a chodi pris cyson fesul gofod parcio ar gyfer y rhain ar draws y portffolio o feysydd parcio, fel y nodir ar dudalennau 49 a 50 o’r adroddiad. Pe bai awydd i ystyried rhesymoli'r strwythur codi tâl byddai angen gwaith modelu pellach i ragweld yr effaith ar gynhyrchu incwm. Oherwydd lefel yr incwm a gynhyrchir, byddai angen rhoi ystyriaeth ofalus i'r opsiynau a ystyrir.

 

        Wedyn rhoddwyd cyfle i'r Aelodau ofyn cwestiynau a atebwyd yn eu tro gan y Swyddogion.  Dyma’r prif bwyntiau:

 

·         Dywedodd Aelod fod awgrym yn yr adroddiad ynghylch dechrau codi tâl ym meysydd parcio Llandysul a Thregaron.  Bydd hyn yn cael ei ystyried ymhellach yn ystod y Broses o Baratoi'r Gyllideb. Awgrymodd yr Aelod fod Aelodau'r Pwyllgor yn ystyried sut y byddai hyn yn effeithio ar ganol trefi o ran gweithgarwch economaidd. Cadarnhaodd yr Aelod nad oedd o'r farn y byddai cyflwyno taliadau meysydd parcio yn gost-effeithiol i'r Awdurdod yn y ddau achos;

·         Dywedodd Aelod o'r Pwyllgor nad yw’r peiriannau di-arian-parod yn hawdd i’w defnyddio ac awgrymodd eu bod yn ailystyried y mater.  Cadarnhaodd y Swyddog fod yr angen i fewnbynnu rhif cofrestru eisoes wedi'i ddileu yn dilyn awgrym Craffu;

·         Dywedodd Aelod fod Swyddfa Archwilio Cymru wedi cydnabod fod cost mannau parcio ceir yn rhwystr allweddol rhag i bobl ymweld â Chanol Trefi, gan gael effaith andwyol ar yr economi.

      

         Ar ôl trafod, gofynnwyd i Aelodau’r Pwyllgor ystyried yr argymhelliad canlynol:

·         Bod y Pwyllgor yn cefnogi gwneud rhagor o waith ar y cysyniad o

                 resymoli'r strwythur codi tâl ym Meysydd Parcio Talu ac Arddangos

                 Cyngor Sir Ceredigion.

 

         Cytunodd Aelodau’r Pwyllgor i gefnogi gwneud rhagor o waith ar y

         cysyniad o resymoli'r strwythur codi tâl ym Meysydd Parcio Talu ac Arddangos

         Cyngor Sir Ceredigion.

 

         Diolchodd y Cadeirydd i’r Swyddogion am y wybodaeth.

 

Dogfennau ategol: