Cofnodion:
Cyflwynodd Sarah Groves-Phillips yr adroddiad ar
yr asesiad o anghenion llety
Sipsiwn a Theithwyr, a'r
ddyletswydd i ddarparu ar gyfer safleoedd lle mae'r asesiad yn nodi angen, sydd
wedi dod yn ofynion statudol o dan Adran 101 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014.
Diben Asesiad o Lety Sipsiwn a
Theithwyr yw sicrhau bod Awdurdodau Lleol yn cael gwell dealltwriaeth o faint o
leiniau sydd eu hangen ar gyfer Sipsiwn a Theithwyr yn eu hardal, ac fe ddylai ffurfio sylfaen dystiolaeth gadarn ar gyfer
polisïau cynllunio lleol sy'n diwallu'r anghenion hynny.
Rhaid cynnal yr Asesiad o Lety
Sipsiwn a Theithwyr o leiaf bob pum mlynedd, ac yn y cyd-destun hwn cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ‘Canllawiau Cynnal
Asesiadau o Anghenion Llety Sipsiwn a Theithwyr’ (2015) i gynorthwyo Awdurdodau
Lleol i lunio asesiad cadarn o anghenion llety
Sipsiwn a Theithwyr yn eu hardal.
Cyflwynodd Cyngor Sir Ceredigion
Asesiad o Lety Sipsiwn a Theithwyr i Lywodraeth Cymru ym mis Ionawr 2020, a
derbyniodd adborth yn gofyn am waith pellach ar yr angen posibl am safle tramwy
yn y sir. Fodd bynnag, yn dilyn y cyngor hwn, dechreuodd pandemig
Covid-19 ac roedd hyn yn gwneud hi’n anodd iawn ymgysylltu. Felly, rhoddodd
Llywodraeth Cymru estyniad tan fis Chwefror 2022 i bob Awdurdod Cynllunio Lleol
gynnal eu Hasesiad o Lety Sipsiwn a Theithwyr, er mwyn caniatáu digon o ymgysylltu
â'r gymuned Sipsiwn-Teithwyr. Paratowyd yr Asesiad o Lety Sipsiwn a Theithwyr
mewn ymgynghoriad â'r Grŵp Llywio Sipsiwn-Teithwyr.
Dywedodd y
Swyddog fod yr adroddiad hwn yn cyflwyno canlyniadau Asesiad
o Lety
Sipsiwn a Theithwyr 2022 a gynhaliwyd gan yr Awdurdod.
Ar hyn o bryd, nid oes unrhyw
safleoedd Sipsiwn a Theithwyr gan yr awdurdod lleol, a dim ond un safle preifat
awdurdodedig sydd yn y sir. Nid oes unrhyw ddarpariaeth barhaol chwaith ar
gyfer siewmyn. Credir bod Teithwyr Newydd yn y sir
ond nid oes gan y Cyngor unrhyw gofnod o’u lleoliad. Ers mis Mehefin 2016, mae
ethnigrwydd wedi ei gynnwys ym mhroses ymgeisio’r gofrestr dai a chanfuwyd
pedwar aelod o’r Gymuned Sipsiwn a Theithwyr - tri sydd ddim yn byw yng Ngheredigion ar hyn o bryd ac un sy’n byw mewn llety
brics a morter. Mae dau aelod arall o’r Gymuned Sipsiwn a
Theithwyr mewn llety brics a morter ers nifer
o flynyddoedd a hynny cyn bod modd canfod ethnigrwydd drwy
broses ymgeisio’r gofrestr dai.
Yn ôl y disgwyl, bu’n
eithriadol o anodd lleoli’r boblogaeth darged ar gyfer yr asesiad hwn. Ar sail
y nifer bach iawn o holiaduron a ddychwelwyd a’r cyfweliadau/ymweliadau safle a
gynhaliwyd ynghyd â’r trafodaethau gyda Llywodraeth Cymru, daw’r asesiad i’r
casgliad nad oes angen safle preswyl parhaol ar gyfer Sipsiwn a Theithwyr yn y
sir, ac ar ôl gwaith ymgysylltu pellach gyda pherchennog y tir a phreswylwyr y
safle ym Mhlwmp, nid oes angen safle tramwy. Fodd
bynnag, mae angen gwneud gwaith pellach gyda pherchennog y tir a’r preswylwyr i
drefnu'n ffurfiol ar gyfer 'safle a oddefir' a ganiateir o dan ganllawiau Llywodraeth Cymru yn
ogystal ag ystyried gwelliannau posibl.
Ar ôl i Lywodraeth Cymru gymeradwyo
Asesiad o Lety Sipsiwn a Theithwyr 2022, bydd angen Asesiad arall ymhen 5
mlynedd.
Ar ôl trafod, cytunodd Aelodau’r
Pwyllgor i argymell i’r Cabinet:
·
fod Asesiad o Lety
Sipsiwn a Theithwyr 2022 yn cael ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru er mwyn ei
gymeradwyo.
Dogfennau ategol: