Cofnodion:
4.
Clefyd Coed Ynn – Diweddariad er gwybodaeth Cyflwynodd Phil Jones yr adroddiad
a oedd yn rhoi gwybodaeth gefndirol am y sefyllfa ynghylch Clefyd Coed Ynn.
Bydd Clefyd Coed Ynn yn arwain at brinder a gwywiad hyd at 95% o goed
ynn y DU, ac mae’r onnen i’w gweld dros ardal eang ledled Cymru a
Cheredigion. Mae hyn yn cynnwys y tu allan i goetiroedd ar ffurf
gwrychoedd a choed unigol ar hyd ffyrdd, hawliau tramwy cyhoeddus
eraill ac mewn mannau
cyhoeddus. Mae’r onnen, ochr yn ochr â’r dderwen a’r ffawydden, yn un
o’r tri phrif fath o goeden perth sydd gennym. Y risg yw bod coed marw a’r
rhai sy’n cario’r clefyd yn debygol o achosi perygl o ran iechyd a diogelwch
y cyhoedd, ynghyd â chael effaith sylweddol ar yr economi, yr amgylchedd a’r
tirlun. Mae’r sefyllfa yn peri’r fath
bryder fel bod Clefyd Coed Ynn ar Gofrestr Risg yr
Awdurdod. Rhoddodd Phil Jones wybod
i’r Pwyllgor am y gwaith a wnaed hyd yn hyn, fel y nodir yn yr
adroddiad. Wedyn rhoddodd wybod i’r
Aelodau am y gwaith sydd ar y gweill ar gyfer y misoedd i ddod, fel y nodir
isod: |
1. Datblygu a chynnal
parhad o ran ymateb ar draws pob gwasanaeth sy’n debygol o fod mewn cyswllt
â’r cyhoedd ynghylch Clefyd Coed Ynn gan gynnwys: ·
Swyddog Coed –
Yr
Arfordir a Chefn Gwlad ·
Hawliau Tramwy Cyhoeddus ·
Diogelu’r Cyhoedd ·
Rheoli Cynllunio/Adeiladu ·
Parciau a Gerddi 2. Cyflenwi’r cynllun cyfathrebu, rhoi
gwybodaeth ac arweiniad i: ·
Ffermwyr ·
Coedwigwyr ·
Perchenogion Coetiroedd ·
Tirfeddianwyr eraill ·
Gweithwyr proffesiynol ym maes coed (yn
enwedig y rhai nad ydynt yn perthyn i gymdeithas broffesiynol) ·
Staff asiantaethau a’r Llywodraeth ·
Colegau ·
Y Cyhoedd ·
Y Cyfryngau 3.
Dadansoddiad o ddata’r arolwg: ·
Ebrill 2022 –
Mawrth
2023 - Blaenoriaethu’r rhaglen waith ar goed sy’n eiddo i
Geredigion, yn unol â’r matrics risg coed y cytunwyd arno; ·
Blaenoriaethu cyhoeddi hysbysiadau adran 154
(Priffyrdd a Hawliau Tramwy Cyhoeddus) ac adran 23, hysbysiadau Deddf
Darpariaethau Amrywiol (sy’n eiddo i’r Cyngor a thir â mynediad cyhoeddus) i
dirfeddianwyr preifat yn unol â’r matrics risg coed y cytunwyd arno; ·
Anfon canllawiau/llythyron cynghori i
berchenogion preifat coed risg is, yn unol â’r matrics risg coed y cytunwyd
arno. 4. Rheoli’r gweithredu adweithiol i Glefyd
Coed Ynn - llythyr cynghori cychwynnol a hysbysiadau adran 154 i dirfeddianwyr (materion ar wahân i rai a godwyd o
arolygon) ·
Materion a godwyd gan aelodau o’r cyhoedd ·
Staff Ceredigion ·
Rhanddeiliaid eraill 5.
Cynhyrchu a thendro gwaith arolygu ar gyfer 2022-2023 ·
Cynhyrchu a thendro gwaith arolygu yn unol â’r
Cynllun Gweithredu Clefyd Coed Ynn ar gyfer 2022/2023 ·
Ymchwilio pellach yn ofynnol i bennu ac
adolygu’r defnydd o atebion blaengar ar
gyfer arolygu (darluniau lloeren, arolygu drwy ddronau
ac ati).
Roedd Norman Birch ac Owen Stephens wrth law i ateb cwestiynau.
Gofynnodd Aelod o'r Pwyllgor a oedd y posibilrwydd o brynu peiriannau
a defnyddio staff
mewnol i ymgymryd â'r gwaith hwn wedi cael ei ystyried yn unol â’r cais mewn
cyfarfod blaenorol ar 15 Ionawr 2020, a argymhellwyd i'r Cabinet ar 28 Ionawr
2020 fel a ganlyn: ·
Ystyried y cyfle i sefydlu tîm o fewn yr awdurdod gyda'r peiriannau
priodol i ymgymryd â'r gwaith cwympo oherwydd gallai fod yn fwy
cost-effeithiol na chontractio'r gwaith allan. Gellid defnyddio'r sgil-gynnyrch ar gyfer
biomas gan arbed rhagor i'r awdurdod.
Cadarnhaodd y swyddogion fod yr opsiwn hwn heb ei ystyried hyd yma.
Holodd Aelod o’r Pwyllgor a
ellid storio'r sglodion o'r coed a'u defnyddio ar gyfer biomas. Dywedodd Norman Birch fod defnyddio'r
sgil-gynnyrch onnen fel tanwydd ar gyfer biomas yr Awdurdod yn debygol o fod
yn anaddas, fodd bynnag, dylid ymchwilio ymhellach i hynny a'i ystyried fel
opsiwn.
Cytunwyd y dylid cyflwyno argymhelliad unwaith eto i'r Cabinet, fel a
ganlyn: ·
bod astudiaeth ddichonoldeb yn cael ei chynnal i ystyried yr opsiynau ar
gyfer gwneud y gwaith hwn yn fewnol, a defnyddio’r sgil-gynnyrch i fwydo
biomas yr Awdurdod, a bod hyn yn cael ei adrodd yn ôl wedyn i'r Pwyllgor. |
Gofynnwyd i'r Aelodau nodi'r wybodaeth
ddiweddaraf er gwybodaeth yn unig.
Diolchodd y Cadeirydd i’r Swyddogion am y wybodaeth. |
Dogfennau ategol: