Cofnodion:
Daeth cynrychiolwyr o
Ddŵr Cymru i'r cyfarfod yn unol â’r cais yn dilyn cyfarfod blaenorol o’r
Pwyllgor Cymunedau Ffyniannus. Gofynnodd
Aelodau’r Pwyllgor am gael trafod sefyllfa ffosffad yng Ngheredigion, yn
ogystal â materion ynghylch Gwaith Trin Dŵr Gwastraff yn rhyddhau elifion
i ardaloedd afonol eraill Ceredigion (sef harbwr Aberaeron) a’r amserau ymateb
i ymgyngoriadau gan y Gwasanaeth Rheoli Datblygu.
Roedd swyddogion perthnasol Dŵr Cymru ar gyfer y meysydd pwnc dan sylw
wedi cytuno i fod yn bresennol yn y cyfarfod.
Bu i’r Cadeirydd groesawu
Steve Wilson ac Owain George Daniel i'r cyfarfod a diolchodd iddynt am eu
parodrwydd i siarad ag Aelodau'r Pwyllgor ynglŷn â'r mater hwn o
bryder. Mynegodd y Cadeirydd ei siom nad
oedd cynrychiolwyr Cyfoeth Naturiol Cymru yn bresennol ar ôl ond rhoi gwybod i
Swyddogion y Cyngor y noson gynt nad oedd modd iddynt fod yn bresennol
mwyach.
Cyflwynodd Sarah Groves-Phillips y cefndir i’r mater dan sylw a’r
sefyllfa
bresennol. Ym mis
Ionawr 2021 rhyddhaodd Cyfoeth Naturiol Cymru gyngor cynllunio dros dro ynghylch datblygu yn
nalgylch Ardaloedd Cadwraeth Arbennig afonol yng Nghymru. Yn dilyn monitro
cydymffurfiaeth Afon Teifi, a oedd yn gweld methiant ysbeidiol o ran lefelau
ffosffad, roedd y cyngor hwn yn sicrhau na fyddid yn caniatáu unrhyw
ddatblygiad pellach a oedd â’r potensial i gynyddu lefelau ffosffad yn yr
Ardaloedd Cadwraeth Arbennig afonol. Yna
rhoddodd Steve Wilson gyflwyniad pwerbwynt yn
amlinellu Cynlluniau Dŵr Cymru. Esboniodd hefyd y broses o
liniaru'r mater ffosffadau.
Sicrhaodd Owain George Daniel Aelodau'r Pwyllgor fod gwaith yn mynd
rhagddo yn y cefndir. Dywedodd wrth y Pwyllgor fod rhanddeiliaid perthnasol yn ymwneud yn llawn â’r broses
hon. Mae’r canllawiau a
gyhoeddwyd gan Gyfoeth Naturiol Cymru wedi cael effaith sylweddol ledled y
sir. Yn benodol: 1. Effeithir ar Lanbedr Pont Steffan, Tregaron a Llandysul a’r aneddiadau
cyfagos; 2. Rhoddwyd saib ar y
Cynllun Datblygu Lleol; 3. Nid yw’n bosib
cyflenwi’r safleoedd a neilltuwyd yn yr ardal yr effeithir arni (dros 500 o
gartrefi, 114 ohonynt i fod yn rhai fforddiadwy); 4. Bu’n rhaid dirymu neu
wrthod ceisiadau cynllunio; 5. Mae Dŵr Cymru
wedi cadarnhau mai dim ond un Gwaith Trin Dŵr Gwastraff sy’n stripio
ffosffad a geir yng Ngheredigion, yn Llanddewi Brefi, ac mae cynlluniau heb
eu cadarnhau y gall un arall (Tregaron) gael ei gynnwys yng nghyfnod
Cynllunio Rheoli Asedau 2025-2030; 6. Mae gwaith
rhagarweiniol ar ddosrannu ffynonellau (ar gyfer Dŵr Cymru ar Afon Gwy)
yn dangos bod cyfran sylweddol o ffosffadau yn dod o amaethyddiaeth yn
ogystal ag o weithfeydd Trin Dŵr Gwastraff. |
Wedyn cafodd Aelodau'r Pwyllgor gyfle i holi Swyddogion Dŵr Cymru a
Chyngor Sir Ceredigion a dyma'r prif bwyntiau/pryderon a godwyd: ·
Cadarnhawyd, ar ôl casglu samplau o'r afonydd, fod Ffynhonnell Annibynnol
yn craffu ar lefel y ffosffadau a oedd yn bresennol; ·
Mynegwyd pryder ynghylch trefi Tregaron, Llanbedr Pont Steffan a
Llandysul gan nad oes cynlluniau ar gyfer y pum mlynedd nesaf ac felly ni
fydd datblygiadau newydd yn cael eu cymeradwyo. Ymatebodd Steve Wilson gan
ddweud y gellir diwygio'r cynllun AMP8 o hyd; ·
Mae ymrwymiad cadarn gan Ddŵr Cymru i ymchwilio i atebion priodol; ·
Mae angen perswadio Cyfoeth Naturiol Cymru i ystyried dalgylchoedd yn
hytrach na lleoliadau; ·
Mynegwyd pryder ynghylch rhyddhau carthion crai
i afon Aeron yn Aberaeron. Cadarnhaodd
Steve Wilson fod hwn yn fater y mae'n ymwybodol ohono a bydd yn ei drafod
gyda'r Aelod Lleol, y Cynghorydd Elizabeth Evans, yn dilyn y cyfarfod; ·
Gofynnodd Aelod a ddylid rhoi'r gorau i hidlo cemegol? Atebodd Steve Wilson fod ymgyrch i drin yn
naturiol, â charbon isel ac yn ysgafn o ran cemegion,
ond yn anffodus yr unig dechneg sy'n cynnig elfen o sicrwydd ar hyn o bryd
yw’r un gemegol; ·
Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch dŵr ymdrochi, cadarnhaodd Steve
Wilson fod Dŵr Cymru wedi ymrwymo 100% i sicrhau dyfroedd glân ar bob
traeth; ·
Mae’r fasnach bysgota ar Afon Teifi yn destun pryder ar hyn o bryd; ·
Dywedodd Aelod fod gwaith carthion heb ei
fabwysiadu mewn hen ystadau a brynwyd yn ystod y newid yn 1986 a bod llawer
dal yn gorfod talu hyd at £900.00 y flwyddyn am waith cynnal a chadw. Cadarnhaodd Dŵr Cymru, oherwydd mater
ffosffad, na ellir mabwysiadu’r rhain ar hyn o bryd; ·
Mewn ymateb i gwestiwn, dywedodd Owain George Daniel fod dyhead i alluogi
mathau o ddatblygu na fyddai'n cael effaith ar ffosffadau a hynny i sicrhau
bod masnachu yn gallu parhau yn lleol; ·
Dywedodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Ellen ap Gwynn, a'r Cynghorydd
Rhodri Evans fod y Cabinet wedi anfon llythyr at Mark Drakeford,
Prif Weinidog Cymru, Julie James, y Gweinidog dros
Newid Hinsawdd, Lesley Griffiths, y Gweinidog dros
Faterion Gwledig, a Vaughan Gething, Gweinidog yr
Economi, ynghylch pryderon yr Awdurdod o ran Economi a Datblygu yn sgil
Ffosffadau, ac ni chafwyd ateb hyd yma; ·
Hefyd cadarnhaodd yr Arweinydd ei bod, ar y cyd ag Eifion Evans y Prif
Weithredwr, wedi cyfarfod â Chyfoeth Naturiol Cymru. Mynegodd y Cynghorydd ap
Gwynn ei siom nad oedd yr un cynrychiolydd o Gyfoeth Naturiol Cymru yn
bresennol yn y cyfarfod hwn; ·
Mewn ymateb i sylw ynglŷn â bod Afon Teifi yn go agos at
gydymffurfio, dywedodd Dŵr Cymru fod gwaith ar y gweill sy'n cynnig
rhywfaint o obaith am ateb maes o law a bod yn rhaid cydweithio er mwyn
cyflawni’r canlyniad llwyddiannus a awgrymir; ·
Mae Bwrdd Rheoli Maethynnau wedi'i sefydlu sy'n cynnwys yr holl Randdeiliaid perthnasol a disgwylir iddo gyfarfod cyn bo
hir; ·
Awgrymwyd bod Dŵr Cymru yn cysylltu ag IBERS gan eu bod yn gwneud
gwaith ymchwil ar hyn o bryd i weld a allant helpu gydag atebion posibl. |
Ar ran Aelodau'r Pwyllgor, diolchodd y Cadeirydd i swyddogion Dŵr
Cymru
am fod yn bresennol ac am eu cyfraniad gwerthfawr i’r cyfarfod. Diolchodd
y Cadeirydd hefyd i Sarah Groves-Phillips.
Awgrymwyd a chytunodd Aelodau'r Pwyllgor fod y Cadeirydd yn ysgrifennu
at
Gyfoeth Naturiol Cymru i fynegi eu siom fod cynrychiolydd heb
fynychu'r cyfarfod
fel y cytunwyd yn flaenorol. |
Dogfennau ategol: