Ystyriwyd yr adroddiad ar y Fframwaith Datblygu ar gyfer Cynghorwyr
yng Nghymru 2021. Adroddwyd y datblygwyd y fframwaith hwn gan Gymdeithas Llywodraeth
Leol Cymru, fel canllaw defnyddiol i nodi blaenoriaethau ar gyfer datblygiad
personol a phroffesiynol parhaus ac ar gyfer darparu cymorth a hyfforddiant i
aelodau. Mae'n cynnwys ystod o gymwyseddau generig sydd eu hangen ar bob
Cynghorydd yn ogystal â chymwyseddau arbenigol sy'n gysylltiedig â rolau
penodol ar y Cyngor.
Mae'r cymwyseddau generig yn cynnwys: sgiliau sylfaenol megis deall
rôl y Cynghorydd, a'r Awdurdod Lleol, ymddygiad, cydraddoldeb ac amrywiaeth,
sgiliau TGCh a chydbwysedd rhwng bywyd a gwaith ac
ati; sgiliau sydd eu hangen ar bob cynghorydd yn eu rolau fel arweinwyr
cymunedol megis ymgynghori ac ymgysylltu; gwaith achos ar ran y cyhoedd;
partneriaeth a chynrychiolaeth; a gweithio mewn amgylchedd gwleidyddol. Mae
cymwyseddau penodol rolau yn cynnwys dealltwriaeth o rôl Craffu, datblygu ac
adolygu polisi, dwyn y Weithrediaeth i gyfrif,
monitro perfformiad; Sgiliau cadeirio; gwasanaethu ar bwyllgorau statudol /
rheoleiddiol; Aelodau Gweithrediaeth; ac
Arweinyddiaeth y Cyngor.
Byddai’r fframwaith yn bwydo i'r rhaglen hyfforddi / cynefino ar gyfer
Cynghorwyr.
Adrannau perthnasol i'r Pwyllgor Moeseg a Safonau
Mae’r tabl isod yn cyfeirio at yr hanfodion: Amrywiaeth o sgiliau
cyffredinol sydd eu hangen ar yr holl Aelodau.
Cyf
|
Gofyniad
|
Gwybodaeth a Sgiliau
|
Ymddygiadau effeithiol
|
A3
|
Ymddygiad
|
Y fframwaith
moesegol y
mae'n rhaid i
Gynghorwyr
weithio yn ei ôl.
Y Cod Ymddygiad. Rôl
y
Swyddog Monitro, y
Pwyllgor Safonau, y
Protocol Datrysiadau
Lleol.
rôl Ombwdsmon
Gwasanaethau
Cyhoeddus
Cymru a chyfarwyddyd
ganddo.
|
Bob amser yn cadw at
y Cod
Ymddygiad. Bob amser
yn
datgelu ac yn
diffinio
buddiannau pan fo
angen. Yn gofyn am gyngor gan y
swyddog monitro pan
fo
angen.
|
A17
|
Gweithio gyda Swyddogion
|
Rôl swyddogion yn
gyffredinol a’r ‘rheolau’
y
mae angen iddynt
gadw
atynt gan gynnwys
dealltwriaeth
ddyfnach o rôl
uwch swyddogion fel
y Prif
Weithredwr, y Tîm
Uwch Reolwyr,
y Swyddog
Monitro a
Phenaethiaid
Cyllid, Cyfreithiol
a
Gwasanaethau
Democrataidd.
Sgiliau wrth
weithredu fel
cyflogwr
corfforaethol. Deall
y
broses benodi a
sgiliau
cyfweld.
|
Yn cynnal
perthnasoedd
proffesiynol â
swyddogion,
gan gydnabod ffiniau
a chadw at Brotocol yr Aelodau a’r Swyddogion. Yn gweithredu fel aelod
effeithiol o banel
penodi, gan
weithredu
egwyddorion cadarn o
ran
Adnoddau Dynol,
cydraddoldeb ac
amrywiaeth i
wneud penodiadau.
|
A38
|
Disgyblaeth Grŵp
|
Dealltwriaeth o
ymddygiadau ac
ymddygiad sydd eu
hangen
gan aelod o'r grŵp
|
Yn gweithio yn unol
â'r safonau ymddygiad sy'n
ofynnol gan
Arweinydd y
Grŵp.
|
B8
|
Arweinyddiaeth
Pwyllgor
|
Dealltwriaeth
drylwyr o rôl y
pwyllgor a'i gwmpas.
Y gallu i gysylltu â
swyddogion, aelodau
ac
asiantaethau
perthnasol.
Ymrwymiad i alluogi
holl
aelodau'r pwyllgor i
ddatblygu sgiliau a
chymryd rhan yn
effeithiol
mewn cyfarfodydd.
|
Yn hyrwyddo gwaith a
gwerth y pwyllgor yn y Cyngor ac i'r
cyhoedd. Gweithio
gyda'r
pwyllgor y tu allan
i
gyfarfodydd i wneud
iddo
weithio'n fwy
effeithiol.
Cyfathrebu ag
aelodau a
swyddogion sydd â diddordeb
yn nhrafodion y pwyllgor. Yn meithrin perthnasoedd â
Phenaethiaid/Cyfarwyddwyr
perthnasol
Gwasanaethau i
sicrhau bod gwaith y
pwyllgor yn berthnasol, yn wybodus ac yn rhoi'r canlyniadau sydd eu
hangen.
|
B16
|
Safonau
|
Y gyfraith a'r
cyfansoddiad
mewn perthynas ag
ymddygiad. Protocolau datrysiadau lleol. Anghenion y Cyngor Sir a
Chynghorau Tref a Chymuned ar gyfer
Hyfforddiant mewn perthynas
â'r Cod
Ymddygiad. Ymddygiad
aelodau, delio ag adroddiadau gan Arweinwyr Grwpiau ac adroddiadau
blynyddol
|
Yn dangos
gwrthrychedd trwy wneud penderfyniadau
annibynnol yn
seiliedig ar
dystiolaeth a'r
cyfrifoldeb
cyfreithiol a roddir
ar
bwyllgorau sy'n
gweithredu
mewn rôl
led-farnwrol. Yn
dryloyw yn cadw at y
Cod
Ymddygiad. Yn gofyn
am
gyngor priodol gan swyddogion proffesiynol,
datblygiad personol
neu friffio cyn gwneud penderfyniadau.
|
CYTUNWYD nodi’r Fframwaith Datblygu ar gyfer
Cynghorwyr a sut
mae'n berthnasol i'r Pwyllgor Moeseg a Safonau.
|