Eitem Agenda

Polisiau Gyrru yn y Gwaith - Fflyd y Cyngor a Defnyddio Cerbydau Preifat (Fflyd Llwyd)

Cofnodion:

Ystyriwyd y ddau bolisi newydd yr oedd y Gwasanaeth Pobl a Threfniadaeth wedi’u datblygu ar y cyd â’r Priffyrdd a’r Gwasanaethau Amgylcheddol. Yn dilyn ystyriaeth gychwynnol gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol ar 27 Hydref 2021, ailddrafftiwyd y ddau bolisi hyn i gynnwys nifer o’r newidiadau a awgrymwyd. Ymgynghorwyd gyda’r Undebau Llafur perthnasol am y polisïau hyn a chafodd eu newidiadau nhw eu cynnwys lle bo hynny’n briodol. 

 

Diben yr holl bolisïau a gweithdrefnau staff oedd nodi’n glir yr ymddygiad, y prosesau a’r gweithdrefnau y mae’n ofynnol i’r staff gadw atynt. Hefyd, roedd y dogfennau hyn yn nodi sut y gall y staff gael cyngor neu gymorth ynghyd â’r canlyniadau o beidio cydymffurfio â’r polisi a/neu’r weithdrefn. 

 

Polisi Gyrru yn y Gwaith – Fflyd y Cyngor

Cynhaliwyd adolygiad Rheoli Risg Fflyd a Gyrwyr gan ymgynghorydd ar ran Zurich, cwmni yswiriant y Cyngor. Y prif ddiben oedd adolygu polisïau a threfniadau’r Cyngor gan ystyried safonau arfer gorau a darparu argymhellion a fyddai’n cynorthwyo wrth sicrhau cydymffurfiaeth, diogelu ein gweithlu rhag niwed a lleihau risg digwyddiadau. 

 

Un o brif argymhellion yr Adolygiad oedd cyflwyno Polisi Gyrru yn y Gwaith gyda Chytundeb Gyrrwr yn rhan ohono, sy’n cynnig “disgwyliad diamwys clir ynghylch safonau gyrru”. Roedd y Polisi Gyrru yn y Gwaith – Fflyd y Cyngor yn un o gyfres o gynlluniau sy’n ceisio safoni’r prosesau cofnodi a chydymffurfiaeth ar draws y fflyd cerbydau a sicrhau safonau gyrru sy’n gwella diogelwch y gyrwyr a’r teithwyr, gan leihau nifer y digwyddiadau a’r

damweiniau sy’n gysylltiedig â’r fflyd. Roedd y cynlluniau eraill yn cynnwys cyflwyno modiwl e-ddysgu ar gyfer rhoi hyfforddiant i yrwyr a systemau archwilio cadarn ar gyfer cerbydau a thrwyddedau. 

 

Cyflwynwyd y canlynol fel rhan o’r Polisi Gyrru yn y Gwaith – Fflyd y Cyngor:-

 

  • Cytundeb Gyrrwr/Gweithredwr Peirianwaith i’w lofnodi bob blwyddyn;
  • Y gofyniad i weithwyr hysbysu eu rheolwr o unrhyw newid i’w hiechyd neu namau corfforol/synhwyraidd ac asesiad iechyd blynyddol
  • Os oes achos, sgrinio am gyffuriau ac alcohol
  • Y gweithiwr yn talu cyfraniad o hyd at £250 at gostau dros-ben yswiriant yn dilyn gweithdrefn ddisgyblu, os achosir y difrod o ganlyniad i’w hesgeulustod nhw neu os byddant wedi bod yn gyrru heb ofal a sylw priodol

 

Polisi Gyrru yn y Gwaith – Defnyddio Cerbyd Preifat (Fflyd Llwyd)

Roedd y Polisi Gyrru yn y Gwaith – Defnyddio Cerbyd Preifat (Fflyd Llwyd) yn nodi’r disgwyliadau ar y gweithwyr hynny sy’n defnyddio eu cerbyd preifat at ddibenion busnes y Cyngor. Byddai modiwl e-ddysgu hefyd yn cael ei ddatblygu i gyd-fynd â’r polisi. 

 

Cyflwynwyd y canlynol fel rhan o’r Polisi Gyrru yn y Gwaith – Defnyddio Cerbyd Preifat (Fflyd Llwyd):

 

  • Datganiad defnyddiwr Cerbyd Preifat i’w lofnodi bob blwyddyn;
  • Y gofyniad i’r gweithiwr hysbysu eu rheolwr o unrhyw newid i’w hamgylchiadau a allai effeithio ar ddefnyddio cerbyd preifat at ddibenion gwaith
  • Os oes achos, sgrinio am gyffuriau ac alcohol
  • Y gweithwyr yn cadarnhau bod eu cerbydau yn addas i’r ffordd fawr, bod ganddynt dystysgrif MOT (pan fo hynny’n briodol) a’u bod wedi cael ei yswirio’n gywir at ddibenion busnes.

 

Yn dilyn cwestiynau o’r llawr, CYTUNWYD i argymell y dylai’r Cabinet gymeradwyo’r Polisi Gyrru yn y Gwaith – Fflyd y Cyngor a’r Polisi

Gyrru yn y Gwaith – Defnyddio Cerbydau Preifat (Fflyd Llwyd) yn amodol ar ystyried gwirio ar wefan y DVLA bod cerbydau preifat yn addas i’r ffordd fawr.

 

Dogfennau ategol: