Eitem Agenda

Adroddiad Diogelu Grwp Gweithredol Lleol ar y Cyd CYSUR/CWMPAS Chwarter 1 2021/22

Cofnodion:

Daeth Elizabeth Upcott i’r cyfarfod i gyflwyno Adroddiad Diogelu Grŵp Gweithredol Lleol ar y Cyd CYSUR/CWMPAS ar gyfer Chwarter 1 2021/22, 2021/2022. Bu iddi amlinellu crynodeb o’r prif bwyntiau fel a ganlyn:

 

·         Roedd tipyn o gynnydd yn nifer yr adroddiadau diogelu plant o'i gymharu â'r chwarter blaenorol a arweiniodd at Drafodaethau Strategaeth/Cyfarfodydd Strategaeth Amddiffyn Plant, 99 o adroddiadau yn Chwarter 4 o'i gymharu â 116 yn Chwarter 1. Mae hwn yn gynnydd sylweddol o'r un chwarter y flwyddyn flaenorol pan gafwyd 85 o adroddiadau a aeth ymlaen i drafodaeth strategaeth/cyfarfod strategaeth. Gyda'r cyfyngiadau'n cael eu llacio a'r ysgolion yn ailagor cafwyd twf yn nifer yr adroddiadau a dderbyniwyd ar ôl i lefelau adrodd leihau yn ystod y cyfnod clo.

·         Cynhaliwyd 18 o Gynadleddau Cychwynnol Amddiffyn Plant yn ystod y chwarter hwn o'i gymharu â 9 yn y chwarter blaenorol, sef Chwarter 4.

·         Cyfanswm y plant a gafodd eu rhoi ar y Gofrestr Amddiffyn Plant yn dilyn Cynadleddau Cychwynnol oedd 18 yn y chwarter hwn, o'i gymharu â 7 yn ystod y chwarter blaenorol.

·         Unwaith eto yr heddlu oedd y brif asiantaeth atgyfeirio yn y chwarter hwn wedi'i ddilyn gan staff Addysg ac yna staff y Gwasanaethau Cymdeithasol. Mae hyn yn dilyn yr un patrwm â Chwarter 4.

·         Y pryderon mwyaf a arweiniodd at gwblhau ymholiadau amddiffyn plant oedd honiadau o gam-drin/camfanteisio'n rhywiol (25) a cham-drin corfforol (24). Yn Chwarter 4 y prif gategorïau o gam-drin a gafodd eu hadrodd oedd cam-drin corfforol (17) a cham-drin rhywiol (16).

·         Roedd y cynadleddau cychwynnol amddiffyn plant a gynhaliwyd yn ystod y chwarter hwn wedi dyblu o'r chwarter blaenorol. Cynhaliwyd 94.4% o'r cynadleddau cychwynnol o fewn yr amserlenni.

·         Cynhaliwyd cyfanswm o 12 o Gynadleddau Adolygu Amddiffyn Plant yn ystod y chwarter hwn. Roedd y rhain ar gyfer cyfanswm o 24 o blant o 12 teulu. O ganlyniad i'r cynadleddau adolygu roedd 7 plentyn wedi parhau ar y gofrestr a chafodd 17 o blant eu dileu o'r Gofrestr Amddiffyn Plant. O'r nifer y plant a gafodd eu dileu o'r gofrestr, roedd 16 o blant yn parhau i fod yn destun Cynllun Plentyn sydd Angen Gofal a Chymorth.

·         Mewn 95% o'r cynadleddau a gynhaliwyd roedd o leiaf un aelod o'r teulu sydd â Chyfrifoldeb Rhieni yn bresennol yn y gynhadledd, ac mewn 90% o'r cynadleddau a gynhaliwyd cafodd barn y plentyn ei chynrychioli.

·         Y prif ffactorau risg i blant a gafodd eu cofnodi o'r cynadleddau oedd cam-drin domestig, rhieni ddim yn cydweithredu â Chynllun Amddiffyn Plant, rhieni'n gwahanu, ac anawsterau iechyd meddwl rhieni.

·         Roedd nifer y plant ar y Gofrestr Amddiffyn Plant yn gyson â'r chwarter blaenorol. Fodd bynnag, cafodd 17 o blant eu datgofrestru a chafodd 18 o blant eraill eu cofrestru yn y Gynhadledd Gychwynnol Amddiffyn Plant.

 

      Yn dilyn cwestiwn ynglŷn â chapasiti’r staff, cadarnhawyd bod yna swyddi gwag oedd angen eu llenwi. Serch hynny, roedd holl ofynion y gwaith statudol  yn cael eu bodloni ac roedd y staff yn parhau i weithio’n ddiflino yn y gwasanaeth hwn. Roedd gwaith partneriaeth yn allweddol. Er enghraifft, roedd Swyddogion Cyswllt yr Heddlu wedi’u neilltuo i bob ysgol yng Ngheredigion ac roedd galw am eu cefnogaeth yn rheolaidd.

 

      Codwyd pryder ynghylch y cynnydd mewn atgyfeiriadau Amddiffyn Plant a chadarnhaodd y Swyddog fod Gweithwyr Cymdeithasol wedi parhau i gynnal ymweliadau hanfodol ar gyfer y teuluoedd hynny lle’r oedd y plant ar y Gofrestr Amddiffyn Plant hyd yn oed yn ystod y cyfnod clo, gan gadw at ganllawiau Covid. Dywedodd un o’r Aelodau wrth y Pwyllgor ei fod yn ymwybodol o athrawon a oedd yn ymweld â chartrefi teuluoedd y plant yn ystod y cyfnod clo i ddarparu gwaith cartref i’r plentyn fel ffordd o fonitro’r plant hynny a oedd ar y Gofrestr Amddiffyn Plant.

      

      Cadarnhaodd y Cynghorydd Alun Williams, yr Aelod Cabinet, fod recriwtio staff yn fater o bryder a bod Staff Asiantaeth yn cael eu cyflogi i gynorthwyo. Dywedodd hefyd fod nifer yr atgyfeiriadau lefel uchel hefyd yn fater o bryder.  Ychwanegodd ei fod hefyd o’r farn fod cyllideb sylfaenol y Gwasanaethau Cymdeithasol yn rhy isel i fodloni’r dyletswyddau statudol. Diolchodd i’r Swyddogion / Staff am eu gwaith caled parhaus. 

 

      Yn dilyn trafodaeth, cytunodd yr Aelodau i nodi cynnwys yr adroddiad a'r lefel o weithgarwch o fewn yr Awdurdod Lleol fel bod trefniadau llywodraethu gweithgarwch yr Awdurdod Lleol ac asiantaethau sy’n bartneriaid yn cael eu monitro.

 

      Nodwyd bod gan ddiogelu statws coch ar hyn o bryd ar Gofrestr Risgiau’r Awdurdod.

 

      Diolchodd y Cadeirydd i Elizabeth Upcott am gyflwyno’r wybodaeth a gofynnodd iddi ddiolch i’r Staff am eu hymdrechion parhaus.

 

Dogfennau ategol: