Cofnodion:
Cyflwynodd Cathryn Morgan gofnodion
cyfarfod Bwrdd Gwasanaethau
Cyhoeddus Ceredigion a gynhaliwyd
ar 17 Medi
2021.
Cyflwynodd Rob Starr a Caitlin Theodorou
yr Asesiad Drafft o Lesiant Lleol. Dywedodd Rob Starr wrth Aelodau’r Pwyllgor fod yr Asesiad
drafft o Lesiant Lleol wedi’i baratoi
er mwyn cyfrannu
at y gwaith o baratoi Cynllun Llesiant Lleol Ceredigion 2023-28. Byddai’r
Cynllun yn nodi sut y byddai’r
Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus
yn gwella llesiant Ceredigion a’i chymunedau dros y 5 mlynedd nesaf gan
amlinellu’r hyn sy’n bwysig i’r
bobl a’r cymunedau yng Ngheredigion.
Roedd y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus wedi cymeradwyo’r asesiad drafft fel y gellid
ymgynghori yn ei gylch ac roedd
y Bwrdd ar y trywydd iawn i
gyhoeddi’r Asesiad terfynol ym mis
Mawrth 2022.
Ar ôl hynny,
amlinellodd Rob Starr a Caitlin Theodorou
y prif themâu a chanfyddiadau hyd yma a oedd
fel a ganlyn:
·
Digideiddio – adroddwyd bod hon yn flaenoriaeth uchel, yn fwy felly gan
fod mwy o bobl bellach yn
gweithio o gartref ac o
bell;
·
Fforddiadwyedd tai – adroddwyd bod hyn yn flaenoriaeth uchel, yn fwy
felly gan fod prisiau tai wedi cynyddu yn ystod
y pandemig;
·
Tlodi (tlodi mewn gwaith a thlodi
plant) – Ceredigion welodd yr
ail gynnydd uchaf mewn tlodi plant yng Nghymru ac felly roedd angen monitro
hyn yn ofalus;
·
Newid yn y boblogaeth – bu gostyngiad yn nifer
y bobl sydd yn yr oedran
gweithio a chynnydd yn nifer y bobl
hŷn. Gallai hyn arwain at fwy
o anghenion cymhleth a phwysau ar ein
gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol;
·
Yr Amgylchedd – roedd newid hinsawdd
a diogelu’r amgylchedd yn bwysig, yn
enwedig i blant;
·
Anghenion iechyd y dyfodol – Nodwyd y byddai cael gwasanaethau
hamdden o ansawdd gwell a sicrhau gwell mynediad iddynt yn cynorthwyo
lles ac iechyd meddwl yr unigolyn;
·
Rôl diwylliant – nodwyd bod hyn yn bwysig er
y cafwyd gostyngiad yn nifer y bobl
sy’n cymryd rhan mewn gweithgareddau
celfyddydol a threftadaethol ychydig cyn pandemig COVID-19. Serch hynny, roedd
canlyniadau’r ymgysylltu yn dangos tystiolaeth
bod unigolion yn gwerthfawrogi’n fawr rôl
diwylliant yn eu bywydau;
·
Y
Gymraeg – roedd y dystiolaeth yn dangos bod nifer y siaradwyr Cymraeg yn y Sir yn
parhau i gynyddu.
Aeth Caitlin Theodorou yn ei
blaen i esbonio
camau nesaf y broses hon:
·
Cyfnod ymgynghori –
8 wythnos (disgwyl iddo ddechrau’n fuan iawn);
·
Ymgynghoriad i
barhau tan Ionawr 2022;
·
Gofyn i bawb roi adborth
ac ymateb;
·
Cyflwyno’r Asesiad Terfynol i’r Bwrdd
Gwasanaethau Cyhoeddus ar 7
Mawrth 2022.
Wrth ymateb i gwestiynau a phryderon yr Aelodau,
yn benodol y pryderon ynghylch tlodi a thai,
cadarnhawyd bod angen gwneud rhagor o waith ymchwil cyn cwblhau’r ddogfen.
Yn dilyn trafodaeth, cytunodd yr Aelodau i’r
argymhellion canlynol:
1.
Derbyn cofnodion drafft cyfarfod Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus
Ceredigion a gynhaliwyd ar
17 Medi 2021; a
2.
Derbyn yr Asesiad drafft o Lesiant Lleol sy’n
destun ymgynghoriad cyhoeddus ar hyn
o bryd.
Diolchodd y Cadeirydd i Diana, Rob, Caitlin, Mari ac Arweinydd
y Cyngor am yr adroddiad manwl.
Dogfennau ategol: