Cofnodion:
a)
Talodd y Cynghorydd Ray Quant deyrnged i bawb a
fu'n rhan o'r ymgyrch i newid y penderfyniad i israddio'r bad achub yng
Ngheinewydd, gan nodi y bydd bad achub bob tywydd ar gael bellach yng
Ngheinewydd yn dilyn adolygiad. Nododd y Cynghorydd Dan Potter, sydd hefyd yn
llywiwr ar fad achub Ceinewydd, bwysigrwydd yr orsaf hon. Diolchodd i griw'r
bad achub a'r gorsafoedd cyfagos a gefnogodd yr ymgyrch hon a thraddodiad mwyaf
yr RNLI, sef achub bywydau ar y môr.
Hefyd dywedodd y Cynghorydd Elizabeth Evans fod rhoi Cynnig gerbron y
Cyngor, a chefnogaeth unfrydol yr Aelodau iddo, wedi arwain at weld yr RNLI yn
‘newid gêr’ yn bendant gan ddangos pa mor effeithiol yw dod â chynigion o'r
fath gerbron y Cyngor;
b)
Estynnodd y Cynghorydd Euros Davies ei
longyfarchiadau i Glybiau Ffermwyr Ifanc Ceredigion ar Eisteddfod lwyddiannus
ym Mhafiliwn Bont ac i bawb a enillodd yn y gwahanol gategorïau gan gynnwys
Llanwenog a enillodd y wobr gyntaf, Pontsiân a ddaeth yn ail a chlwb Troedyraur
a ddaeth yn drydydd. Twm Ebbsworth enillodd Coron yr Eisteddfod ac Ianto Jones
enillodd y Gadair. Aeth Ianto Jones ymlaen i ennill y Gadair dros Gymru gyfan a
daeth Twm Ebbsworth yn ail yn y Goron dros Gymru gyfan;
c)
Estynnodd y Cynghorydd Euros Davies ei
longyfarchiadau i Eluned Jones ar ennill y Goron ac Martha Evans ar ennill y
Gadair yn Eisteddfod Clybiau Ffermwyr Ifanc Sir Gâr.
d)
Estynnodd y Cynghorydd Euros Davies ei
longyfarchiadau i’r Clybiau Ffermwyr Ifanc ar gael Diwrnod Maes llwyddiannus, a
enillwyd gan Glwb Ffermwyr Ifanc Llangwyryfon. Dymunodd yn dda i bawb a fydd yn
mynd ymlaen i’r rownd nesaf yn y Ffair Aeaf.
e)
Estynnodd y Cynghorydd Euros Davies ei
longyfarchiadau i Dai Thomas o Lanwnnen ar ennill y bustach gorau yn y Ffair
Aeaf yn Lloegr, ac i bawb arall a oedd yn llwyddiannus;
f)
Estynnodd y Cynghorydd Meirion Davies ei
longyfarchiadau i Glwb Ffermwyr Ifanc Llangwyryfon ar ennill yn y Diwrnod Maes
am y seithfed flwyddyn yn olynol, a hynny ar fferm Trawsgoed yn ei Ward;
g)
Estynnodd y Cynghorydd Lyndon Lloyd MBE ei
longyfarchiadau i Eluned Jones ar ddathlu ei phen-blwydd yn 102;
h)
Nododd y Cynghorydd John Adams-Lewis fod y gwaith
ar y ffordd yn Ystâd Brynhafod bellach wedi'i gwblhau yn sgil cynllun gan
Lywodraeth Cymru, a diolchodd i’r Swyddogion am eu cefnogaeth;
i)
Dymunodd y Prif Weithredwr Eifion Evans yn dda i
Caroline Lewis, Cyfarwyddwr Corfforaethol, ar ei hymddeoliad a diolchodd iddi
am ei gwaith dros y pymtheg mlynedd diwethaf, yn enwedig ei chyfraniad dros y
deuddeg mis diwethaf wrth hyrwyddo'r Strategaeth Gydol Oes a Llesiant. Ategwyd y diolch gan y Cynghorydd Ellen ap
Gwynn;
j)
Dymunodd y Cynghorydd Elizabeth Evans yn dda i
Amanda Roberts, Rheolwr Corfforaethol Archwilio Mewnol ar ei hymddeoliad a
diolchodd iddi am ei gwaith dros y 36 mlynedd diwethaf yn cefnogi ac yn rhoi
hyder i’r Pwyllgor Archwilio. Ategwyd y diolch gan y Cynghorydd Ellen ap Gwynn;
k)
Estynnodd y Cynghorydd Ellen ap Gwynn ei
llongyfarchiadau i Elgan Evans o Dalybont ar ennill gyda’r gwartheg duon a’r
bridiau cynhenid yn y Ffair Aeaf yn Lloegr.