Eitem Agenda

Cadw elfennau o'r Gorchmynion Rheoleiddio Traffig Dros Dro mewn trefi yng Ngheredigion

Cofnodion:

Dywedodd y Cynghorydd Rhodri Evans, Aelod Cabinet, nad oedd y Cynghorydd Dafydd Edwards, Aelod Cabinet yn medru bod yn bresennol yn y cyfarfod i gyflwyno’r adroddiad ac felly byddai’r swyddogion yn gwneud hynny. 

 

Croesawodd y Cadeirydd Russell Hughes-Pickering, Rhodri Llwyd a Steve Hallows i’r cyfarfod.

 

Rhoddodd Russell Hughes-Pickering grynodeb byr i’r Aelodau o’r wybodaeth a gyflwynwyd i’r Pwyllgor ar 1 Hydref 2021. Cyfeiriodd yn benodol at y camau nesaf yr oedd wedi sôn amdanynt yn y cyfarfod hwnnw a oedd yn cynnwys ymgysylltu â’r Aelodau Lleol a’r Aelodau Cabinet ym mis Hydref a chyflwyno’r  adroddiad hwn i’r Pwyllgor Craffu heddiw. Dywedodd hefyd y byddai’r adroddiad hwn yn cael ei gyflwyno gerbron y Cabinet ym mis Ionawr 2022. Pe byddai’r cynigion yn cael eu cefnogi, cadarnhaodd y byddai Gorchymyn Rheoleiddio Traffig Arbrofol (ETRO) yn cael ei gyflwyno ac y byddai hyn yn cynnwys cyfnod ymgynghori o chwe mis er mwyn casglu barn y cyhoedd.

 

Ar ôl hynny cyflwynodd Steve Hallows y cynigion ar gyfer Gorchmynion Rheoleiddio Traffig Arbrofol fel rhan o’r broses o wneud elfennau dethol sy’n ymwneud â pharcio a llif y traffig, a roddwyd ar waith dros dro mewn ymateb i’r pandemig Covid-19, yn nodweddion parhaol. Dywedodd y Swyddog fod nifer o fesurau rheoli traffig wedi’u cyflwyno drwy gyfrwng Gorchmynion Rheoleiddio Traffig Dros Dro (TRRO) yn Aberaeron, Aberystwyth, Aberteifi a Cheinewydd, er mwyn hwyluso ymbellhau cymdeithasol yn ystod cyfyngiadau’r cyfnodau clo yn sgil y pandemig Covid-19. Mae Gorchmynion Rheoleiddio Traffig Dros Dro yn para uchafswm o 18 mis, ac mae’r rhai hynny sydd mewn grym yn dechrau dod i ben o fis Hydref 2022 ymlaen. Mae’n bosibl iddynt gael eu hymestyn gyda chaniatâd priodol ond dim ond os yw’r rhesymeg sydd wrth wraidd eu creu yn dal yn berthnasol ac yn ddilys. Dywedwyd bod hyn yn annhebygol ar hyn o bryd o ystyried bod y cyfyngiadau clo cyntaf wedi’u llacio.

 

Dywedodd Mr Hallows fod adolygiad o’r trefniadau dros dro wedi cydnabod bod rhai o’r elfennau wedi bod o fudd ehangach i gymdeithas a bod achos dros ddechrau’r broses gyfreithiol i ystyried gwneud y rhain yn fwy parhaol, drwy wneud dau Orchymyn Rheoleiddio Traffig Arbrofol. Un er mwyn ymdrin â’r cyfyngiadau parcio a fydd yn diwygio’r Gorchymyn Parcio Traffig sy’n bodoli ar lefel sirol ac un i ymdrin â’r rheoliadau ‘symud’, megis llif traffig unffordd, gwaharddiadau troi i’r dde/chwith, dim mynediad ayb.

 

Aeth y Swyddog yn ei flaen wedyn i esbonio’r broses. Ar ôl cyhoeddi Hysbysiad o Fwriad, byddai gan aelodau’r cyhoedd gyfnod o chwe mis pan fyddai modd iddynt gyflwyno gwrthwynebiadau ffurfiol i’r broses Gorchmynion Rheoleiddio Traffig Arbrofol. Esboniodd hefyd y gall Gorchymyn Rheoleiddio Traffig Arbrofol barhau mewn grym am gyfnod o hyd at 18 mis. Ar ddiwedd y cyfnod chwe mis cychwynnol ar gyfer gwrthwynebiadau, gall yr Awdurdod benderfynu dirymu Gorchymyn Rheoleiddio Traffig Arbrofol, ei ddiwygio neu ei wneud yn barhaol. Drwy ddefnyddio Gorchmynion Rheoleiddio Traffig Arbrofol fel y broses o wneud nodweddion yn barhaol a’u haddasu lle bo angen, caniateir cyfnod hwy, felly, pan ellir monitro eu heffeithiau a gall aelodau’r cyhoedd fynegi unrhyw wrthwynebiadau i gyflwyno Gorchmynion Rheoleiddio Traffig Parhaol.

 

          Ar ôl hynny, cafodd y mesurau arfaethedig i gadw/newid eu cyflwyno i’r Aelodau fel a ganlyn:

 

     

           ABERTEIFI

Yn ogystal â’r Gorchmynion Rheoleiddio Traffig Arbrofol a amlinellir uchod, cynghorir cadw’r adrannau o’r droedffordd a ledwyd yn y lleoliadau canlynol. Mae’r rhain wedi eu lleoli yn:

 

·       Y Stryd Fawr (ger Belottis)

·       Neuadd y Dref

·       Pendre (ger y Siop Sglodion)

·       Stryd y Priordy (Crwst)

 

           Cynigir cynnwys y mesurau parcio canlynol yn y Gorchmynion Rheoliadau Traffig Arbrofol:

1.    Cyflwyno Cilfan Lwytho newydd 12 metr o hyd, o ddydd Llun i ddydd Sadwrn, rhwng 8am a 5pm am 20 munud a dim dychwelyd o fewn 20 munud ar Y Stryd Fawr gyferbyn â’r safle bws (a fydd yn cael ei adfer) i’r de o Neuadd y Sir. Bydd hon yn lle’r Gilfan Lwytho dros dro a gyflwynwyd yn lleoliad y safle bws. Bydd y Gilfan Lwytho newydd yn lle rhan o’r gilfan aros am amser cyfyngedig a oedd ar ochr arall y ffordd cyn cyflwyno’r parth diogel. 

2.    Cyflwyno man parcio newydd i Ddeiliaid Bathodyn Anabl yn unig, rhwng 8am a 6pm, 3 awr a dim dychwelyd o fewn 3 awr wrth ochr y Gilfan lwytho uchod yn 1 er mwyn meddiannu gweddill y gilfan lle’r oedd aros cyfyngedig.

3.    Cyflwyno gwaharddiad newydd rhag Aros ar Unrhyw Adeg ar y Stryd Fawr o ben gogleddol y safle bws i’r de o Neuadd y Sir i’r groesffordd â Lôn y Farchnad (ychydig y tu hwnt i siop delicatessen Belotti)

4.    Cadw’r adran a gyflwynwyd dros dro yn yr ardal lle y gwaharddwyd Aros ar unrhyw adeg ar Stryd y Priordy, ger Crwst, lle y gosodwyd darn estynedig newydd.

5.    Cadw’r adran a gyflwynwyd dros dro yn lle parcio ar gyfer Deiliaid Bathodyn Anabl yn Unig, rhwng 8am a 6pm, 3 awr a dim dychwelyd am 3 awr ger y Clinig Traed ar ochr arall Stryd y Priordy.

6.    Cadw’r gwaharddiad dros dro rhag aros ar unrhyw amser ym Mhendre o Mundos/Caffi Food for Thought i’r gyffordd â Rhodfa’r Felin gerllaw Caffi a Siop Pysgod a Sglodion Pendre.

 

 

            Cynigir cynnwys y Gwaharddiadau canlynol rhag Symud yn y Gorchmynion Rheoliadau Traffig Arbrofol:

1.    Cadw’r llif traffig unffordd a gyflwynwyd dros dro yn Rhes y Coleg (o’r Stryd Fawr i Res y Frenhines/Mwldan Ganol ger maes parcio Caeglas).

2.    Cyflwyno gwaharddiad newydd rhag troi i’r chwith o’r [maes parcio] ym Mwldan Uchaf i mewn i Res y Coleg 

3.    Cyflwyno gwaharddiad rhag troi i’r dde o Fwldan Ganol i mewn i Res y Coleg.

4.    Cyflwyno llif traffig unffordd newydd ym Mhwllhai o Ganolfan Hen Bethau Aberteifi (Cardigan Antiques Centre) i’r gyffordd â’r Stryd Fawr (o’r dwyrain i’r gorllewin).

5.    Cyflwyno llif traffig unffordd newydd yn Lôn Siawnsri o gyfeiriad Stryd y Santes Fair i’r Stryd Fawr (o’r de i’r gogledd).

 

            CEINEWYDD

            Cynigir cynnwys y mesur parcio canlynol yn y Gorchmynion Rheoleiddio Traffig Arbrofol:

1.    Cadw’r parcio ar gyfer Deiliaid Bathodyn Anabl yn unig rhwng 9am a 5pm, 3 awr a dim dychwelyd o fewn 3 awr a osodwyd dros dro ar yr ochr sy’n wynebu’r môr o Res Glanmor yn y bae gyferbyn â’r Penwig.

2.    Cyflwyno Gwaharddiad newydd rhag Parcio ar unrhyw adeg ar ochr orllewinol Stryd Ioan ac ar bob ochr i’w chyffordd â Stryd yr Efail i ymuno â’r Gwaharddiadau presennol rhag Parcio ar unrhyw adeg. 

3.    Cyflwyno Gwaharddiad newydd rhag parcio ar unrhyw adeg ar Stryd Ioan o ddiwedd y gwaharddiad presennol rhag parcio ar unrhyw adeg ger eiddo o’r enw The Marina i ffin yr eiddo ar ochr y tir o Dŷ Glyn yng Nglan Dolau gyferbyn â’r gyffordd â Maes yr Odyn.

 

 

             Cynigir cynnwys y canlynol yn y Gwaharddiad rhag Symud yn y  Gorchmynion Rheoleiddio Traffig Arbrofol:

1.    Cadw’r rhan o’r llif traffig unffordd ar Heol y Dŵr o’r gyffordd â Stryd yr Hen Goleg wrth deithio i’r gogledd-ddwyrain i’r gyffordd â’r Beili. 

2.    Cyflwyno gwaharddiad newydd rhag troi i’r dde o Res y Morwyr i mewn i Heol y Dŵr.

3.    Cyflwyno gwaharddiad newydd rhag troi i’r chwith o’r Beili i mewn i Heol y Dŵr.

 

             ABERAERON

             Yn ychwanegol at y Gorchmynion Rheoleiddio Traffig Arbrofol a amlinellir isod, cynghorir cadw’r adran a ledwyd o’r droedffordd yn y lleoliadau canlynol. Mae’r rhain wedi’u lleoli ar

 

·       Heol y Farchnad (ger Tafarn Cadwgan, Celtic, Costcutters)

 

             Argymhellir i Lywodraeth Cymru / Asiant Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru bod y rhan o’r droedffordd sydd wedi ei lledu ger Ambassadors ar yr A487 yn cael ei thynnu ymaith a bod y rhan hon yn dychwelyd i fod yn fan lle mae cyfyngu ar aros, a bod y rhan sydd â llinellau melyn dwbl ger y gyffordd â’r A487 a Sgwâr Alban ger y Royal Oak yn cael ei chadw.

 

               Cynigir cynnwys y mesurau parcio canlynol yn y Gorchmynion Rheoleiddio Traffig Arbrofol:

 

1.    Cadw hanner deheuol (tuag at gefnffordd yr A487) y parcio i Ddeiliaid Bathodyn Anabl yn unig, 2 awr a dim dychwelyd am ddwy awr a gyflwynwyd dros dro i’r gilfan ar ochr arall y ffordd i Costcutter ar Heol y Farchnad. Bydd hanner gogleddol y gilfan (tuag at yr harbwr) yn mynd yn ôl i fod yn aros cyfyngedig, o ddydd Llun i ddydd Sadwrn, rhwng 9am a 6pm, 1 awr a dim dychwelyd o fewn yr awr.

2.    Cadw’r rhan lle ceir gwaharddiad rhag aros ar unrhyw adeg gyferbyn y cilfannau uchod – ar gyfer deiliaid bathodyn anabl a lle ceir cyfyngu ar aros (i) y tu allan i Costcutter i gydfynd â’r droedffordd a ledwyd (ac sydd wedi’i chadw.

3.    Cadw’r rhan o’r Gwaharddiad Rhag Aros ar Unrhyw Adeg a gyflwynwyd dros dro yng Nghadwgan ar yr ochr sydd ar bwys Pwll Cam o’r gyffordd â Heol y Farchnad / Stryd y Tabernacl hyd at y gyffordd â Lôn Ganol, ac ymestyn hyn i’r gyffordd â Phen Cei ger The Hive, gan gynnwys y fynedfa at lan cei yr harbwr.

4.    Cadw’r rhan lle ceir parcio i Ddeiliaid Bathodyn Anabl yn unig, 2 awr a dim dychwelyd o fewn 2 awr a gyflwynwyd dros dro ar ochr ddeheuol Stryd Buddug ger Neuadd y Sir.

5.    Cyflwyno Cilfan newydd i Gerbydau Nwyddau ar gyfer Llwytho yn unig, o ddydd Llun i ddydd Sadwrn, rhwng 9am a 5pm, 30 munud a dim dychwelyd o fewn awr, 12 metr o hyd ar ochr orllewinol Sgwâr Alban ar ochr orllewinol y ffordd.

6.    Cyflwyno cilfan newydd ar gyfer Deiliaid Bathodyn Anabl yn Unig, 6.6 metr o hyd ar ochr orllewinol Sgwâr Alban ar ochr orllewinol y ffordd..

 

               Cynigir cynnwys y Gwaharddiadau rhag Symud canlynol yn y Gorchmynion

Rheoleiddio Traffig Arbrofol:

1.    Cadw’r llif traffig unffordd a gyflwynwyd dros dro ar ran isaf Ffordd y Gaer o’r gogledd i’r maes parcio talu ac arddangos, hyd at lan y môr, ar hyd glan y môr ac i mewn i Stryd y Tabernacl ac yna Heol y Farchnad.

2.    Cyflwyno gwaharddiad newydd rhag troi i’r chwith o Heol Tudur i Stryd y Tabernacl.

3.    Cyflwyno gwaharddiad newydd rhag troi i’r dde o Lan y Môr i Stryd y Tabernacl.

 

                 ABERYSTWYTH

                 Yn ychwanegol at y Gorchmynion Rheoleiddio Traffig Arbrofol a amlinellir isod cynghorir bod y rhannau o’r droedffordd sydd wedi eu lledu yn y lleoliadau canlynol yn cael eu cadw. Mae’r rhain wedi eu lleoli fel a ganlyn:

·       Heol y Wig (ger Sports Direct a Cactws)

·       Y Ffynnon Haearn (ger Evola)

·       Ffordd y Môr (ger Stars a Boots)

 

                 Cynigir cynnwys y mesurau parcio canlynol yn y Gorchmynion  Rheoleiddio Traffig Arbrofol:

1.    Cael gwared ar y parcio ar gyfer Deiliaid Bathodyn Anabl, 2 awr a dim dychwelyd o fewn 2 awr (2-3 lle) ar Stryd y Farchnad ac yn lle hynny rhoi Gwaharddiad rhag Aros ar unrhyw Adeg.

2.    Cadw’r Gwaharddiad rhag Aros ar unrhyw Adeg a gyflwynwyd dros dro ar ochr orllewinol Heol y Wig rhwng y gyffordd â’r Stryd Newydd a Stryd y Brenin. (Roedd hwn wedi ei osod yn lle llinell felen sengl a oedd yn Gwahardd rhag Aros rhwng 9am a 6pm).

3.    Cadw’r Gilfan i Gerbydau Nwyddau ar gyfer Llwytho yn unig, o ddydd Llun i ddydd Sadwrn, 8am i 6pm, 1 awr a dim dychwelyd o fewn 1 awr a gyflwynwyd dros dro ar ochr ddwyreiniol y Ffynnon Haearn y tu allan i salon trin gwallt Evola a siop gigydd Rattray.

4.    Cadw’r Gwaharddiad rhag Aros ar Unrhyw Adeg a gyflwynwyd dros dro yn lle cilfan lwytho ac aros cyfyngedig ar ochr orllewinol y Ffynnon Haearn gyferbyn â’r Gilfan Lwytho yn ii) uchod.

5.    Cadw’r parcio ar gyfer Deiliaid Bathodyn Anabl yn unig rhwng 11am a 6pm, 2 awr a dim dychwelyd o fewn 2 awr a gyflwynwyd dros dro ar ochr orllewinol y Ffynnon Haearn ger Cymdeithas Gofal ayb. ond addasu’r amser i fod rhwng 9am a 5pm, 2 awr a dim dychwelyd o fewn 2 awr..

6.    Cadw’r rhan parcio ar gyfer Deiliaid Bathodyn Anabl yn unig, o ddydd Llun i ddydd Sadwrn, rhwng 9am a 5pm, 2 awr a dim dychwelyd o fewn 2 awr a gyflwynwyd dros dro ar ochr orllewinol Stryd y Popty (bydd y gilfan ar ochr ddwyreiniol Stryd y Popty yn dychwelyd i fod yn Gilfan Lwytho, o ddydd Llun i ddydd Sadwrn, rhwng 8am a 1pm, 1 awr a dim dychwelyd o fewn 1 awr; Aros Cyfyngedig, o ddydd Llun i ddydd Sadwrn rhwng 1pm a 6pm, 30 munud a dim dychwelyd o fewn 30 munud). 

7.    Cadw’r parcio ar gyfer Deiliaid Bathodyn Anabl yn Unig, o ddydd Llun i ddydd Sadwrn, rhwng 8am a 5pm, 2 awr dim dychwelyd o fewn dwy awr ar ochr ogleddol y Porth Bach y tu allan i Downies Vaults, Fusion King ayb.

8.    Cadw’r gilfan i gerbydau nwyddau ar gyfer llwytho yn unig, o ddydd Llun i ddydd Sadwrn, 8am i 5pm, 1 awr a dim dychwelyd o fewn 1awr a gyflwynwyd dros dro ar ochr ogleddol Stryd Portland wrth y gyffordd â Ffordd y Môr, y tu allan i fynedfa fach fferyllfa Boots.

9.    Cadw’r parcio ar gyfer deiliaid bathodyn anabl yn unig 9am i 5pm, 2 awr a dim dychwelyd o fewn 2 awr a gyflwynwyd dros dro ar ochr orllewinol Maes Lowri ger eglwys San Mihangel, ond newid yr amser i 9am i 5pm, 2 awr a dim dychwelyd o fewn 2 awr.

10. Cadw’r Gilfan i Gerbydau Nwyddau ar gyfer Llwytho yn unig o ddydd Llun i ddydd Sadwrn rhwng 8am a 5pm, 1 awr a dim dychwelyd o fewn 1 awr y tu allan i rifau 8 i 10 am 14.6 metr a gyflwynwyd dros dro ar ochr orllewinol Heol y Wig (ger Sports Direct)

11. Cadw’r Gilfan i Gerbydau Nwyddau ar gyfer Llwytho yn unig o ddydd Llun i ddydd Sadwrn rhwng 8am a 5pm, 1awr a dim dychwelyd o fewn 1 awr a gyflwynwyd dros dro y tu allan i siop Cactws am 12 metr ar ochr ddwyreiniol Heol y Wig.

12. Cadw’r Gilfan i Gerbydau Nwyddau ar gyfer Llwytho yn unig o ddydd Llun i ddydd Sadwrn, rhwng 8 am a 5pm, 1 awr a dim dychwelyd o fewn 1 awr a gyflwynwyd dros dro ar ochr orllewinol Ffordd y Môr ger Stars.

 

Cynigir cynnwys y Gwaharddiadau Symud canlynol yn y Gorchmynion Rheoleiddio Traffig Arbrofol:

1.    Cadw’r llif traffig unffordd a gyflwynwyd dros dro ar Heol y Wig (o’r de i’r gogledd o’r Stryd Fawr i’r Promenâd Newydd/Glan-y-Môr).

2.    Cyflwyno Gwaharddiad rhag Troi i’r Chwith o’r Porth Bach i Heol y Wig, er mwyn ategu’r system unffordd yn Heol y Wig.

3.    Cyflwyno Gwaharddiad newydd rhag Troi i’r Dde o Stryd y Brenin i Heol y Wig.

4.    Cadw’r llif traffig unffordd a gyflwynwyd dros dro ar Ffordd y Môr o lan y môr yng Nglany-Môr i’r cyffyrdd â Stryd Portland

5.    Cyflwyno Gwaharddiad newydd rhag Troi i’r Dde o fraich ddwyreiniol Stryd Portland i Ffordd y Môr.

6.    Cyflwyno Gwaharddiad rhag Troi i’r Chwith o fraich orllewinol Stryd Portland i Ffordd y Môr.

7.    Cyflwyno Gwaharddiad newydd rhag Troi i’r Dde o Ffordd Portland i Ffordd y Môr.

8.    Cadw’r llif traffig unffordd a gyflwynwyd dros dro ar Stryd y Popty, o gyfeiriad y gyffordd â Stryd Portland tuag at y gyffordd â Rhodfa’r Gogledd/Y Stryd Fawr.

9.    Cyflwyno Gwaharddiad newydd rhag Troi i’r Dde o Stryd y Baddon i Ffordd y Môr.

10. Cadw’r llif traffig unffordd a gyflwynwyd dros dro ar Stryd y Baddon.

11. Cyflwyno gwaharddiadau rhag troi (i’r chwith ac i’r dde) o’r Morfa Mawr i Stryd Baddon.

 

Diolchodd y Cadeirydd i Steve Hallows am gyflwyno’r wybodaeth a gwahoddodd gwestiynau gan Aelodau’r Pwyllgor. Gofynnodd yr Aelodau nifer o gwestiynau ynglŷn â’r ardaloedd a oedd o ddiddordeb ynddyn nhw ac atebwyd y cwestiynau hynny yn eu tro gan y Swyddogion.

 

Gofynnodd yr Aelodau i ystyriaeth gael ei rhoi i bobl oedrannus ac eiddil nad oes ganddynt fathodyn glas gan fod parcio yn agos i'r dref yn bwysig iawn iddynt. Wrth ymateb, cadarnhawyd bod yr astudiaeth a wnaed wedi edrych ar bob tref yn unigol.

 

Wrth ymateb i gwestiwn, cadarnhaodd y Swyddogion y byddai angen iddynt ymchwilio i’r oriau a ganiateir o dan y Bathodyn Glas. Roedd un o’r Aelodau wedi nodi bod yr oriau a ganiateir wedi gostwng o 3 awr i 2 awr. Roedd yr Aelod o’r farn y dylai’r 3 awr a ganiateid yn wreiddiol ddychwelyd bellach ym mhob un o’r lleoliadau dan sylw.

 

Wrth ymateb i gwestiwn arall, cadarnhaodd y Swyddogion fod dŵr yn cronni wedi bod yn broblem mewn rhai mannau. Dywedwyd bod modd datrys y broblem hon yn weddol hawdd.

 

Yn dilyn ymholiad, cadarnhawyd y byddai ffioedd trwyddedu ar waith o 2022 ymlaen, ac mai’r rheswm am beidio â chodi tâl tan hynny oedd yr angen i gefnogi masnachwyr Ceredigion yn ystod cyfnod hynod o heriol ac anodd.

 

Mynegodd un o’r Cynghorwyr ei siom bod aelod o’r cyhoedd wedi gwneud cais i siarad ynglŷn â pharcio i’r anabl yn y cyfarfod y bore yma ond bod y cais hwnnw wedi’i wrthod.

 

Yn dilyn cwestiwn, cadarnhawyd bod parcio i’r cyhoedd ar gael am 30 munud ar Stryd y Popty, Aberystwyth rhwng 1pm a 6pm bob dydd.  Pwysleisiwyd hefyd, gan y byddai’r ymgynghoriad yn para 6 mis, y byddai pob sylw, awgrym a barn ynglŷn â’r cynigion hyn a’r holl drefniadau eraill yn cael eu hystyried.

 

Yn dilyn cwestiwn ynglŷn ag Aberteifi, cadarnhawyd bod y gilfan lwytho ger y Castell wedi’i lleoli mor agos ag y bo modd er mwyn i draffig fedru mynd heibio yn hwylus. Hefyd, gofynnwyd i’r swyddogion ymchwilio i’r cais am arwyddion i rybuddio lorïau bod ffordd benodol yn anaddas ar gyfer cerbydau nwyddau trwm. Gwnaed cais am weld y warden traffig ym Mhendre yn amlach.

 

Cytunodd Aelodau’r Pwyllgor fod angen rhoi cyhoeddusrwydd i’r hysbysiad o fwriad, a fyddai’n ymddangos yn y wasg ym mis Chwefror 2021 ac yn cynnwys gwybodaeth am y cyfnod ymgynghori 6 mis, gan sicrhau bod y cyhoedd yn ymwybodol ohono.

 

Cytunodd Aelodau’r Pwyllgor fod sicrhau mynediad rhwydd i bawb yn allweddol a bod angen ystyried anghenion pobl hŷn ac eiddil (y rheiny heb fathodynnau glas) hefyd. Argymhellwyd y dylid sicrhau, wrth bennu ffioedd parcio, eu bod yn fforddiadwy i bawb fel y gall y trigolion barhau i siopa yn eu trefi lleol. 

 

Wrth ymateb i gwestiwn ynglŷn â’r amserlen arfaethedig ar gyfer gweithredu’r cynigion, dywedwyd mai cynigion y swyddogion oedd y rhain ac y byddai angen i’r Cabinet eu cadarnhau.

 

Dywedodd un o Aelodau’r Pwyllgor ei fod wedi derbyn nifer o gwynion oddi wrth ei etholwyr a oedd yn byw y tu allan i Aberystwyth. Esboniodd nad oeddent bellach yn teimlo’n gyffyrddus yn siopa yn y dref oherwydd y ffyrdd a oedd wedi’u cau a’r systemau unffordd.  Cadarnhaodd un o’r swyddogion fod y parthau diogel yn fater ar wahân ac y byddai gan y cyhoedd y cyfle i roi eu barn am y gorchmynion arbrofol hyn. Croesawodd Aelodau’r Pwyllgor y cyfle i ymateb drwy'r ymgynghoriad.

 

Ar ôl hynny, rhoddodd y Cadeirydd y cyfle i’r Aelodau nad oeddent yn Aelodau o’r Pwyllgor  siarad a chodwyd y pryderon canlynol:

·       Bu’n hynod o anodd i’r preswylwyr barcio a dylid ystyried yr effaith ar yr unigolion hynny;

·       Dylid ystyried effeithlonrwydd llif y traffig;

·       Byddai adroddiad llawn ar yr effaith economaidd yn fuddiol;

·       Awgrymwyd y dylid ystyried man gollwng teithwyr y tu allan i’r Factory Shop yn Aberteifi;

·       Roedd ymestyn y palmentydd wedi arwain at fwy o lifogydd ym Mhendre, Aberteifi.

 

Yn dilyn trafodaeth hir, gofynnwyd i Aelodau’r Pwyllgor ystyried yr argymhelliad canlynol:

 

ARGYMHELLIAD:

Argymhellir bod y cynigion hyn ac unrhyw newidiadau, y tybir eu bod yn angenrheidiol, yn cael eu cymeradwyo i’w cyflwyno i’r Cabinet, er mwyn ceisio caniatâd i wneud y Gorchmynion Rheoleiddio Traffig Arbrofol a chyhoeddi Hysbysiad i’r perwyl hwnnw yn y wasg leol a dirymu pob mesur arall sy’n gysylltiedig â Gorchmynion Traffig Dros Dro y Parthau Diogel.

 

Cytunodd Aelodau’r Pwyllgor i argymell yr argymhelliad diwygiedig canlynol (y newidiadau i’w gweld yn y print bras) i’r cabinet:

Argymhellir bod y cynigion hyn ac unrhyw newidiadau, y tybir eu bod yn angenrheidiol yn dilyn trafodaeth yng nghyfarfod y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau Ffyniannus a gynhaliwyd ar 8 Tachwedd, ac ar ôl ymgynghori â’r Aelodau Lleol                              yn cael eu cymeradwyo i’w cyflwyno i’r Cabinet, er mwyn ceisio caniatâd i wneud y Gorchmynion Rheoleiddio Traffig Arbrofol a chyhoeddi Hysbysiad i’r perwyl hwnnw yn y wasg leol a dirymu pob mesur arall sy’n gysylltiedig â Gorchmynion Traffig Dros Dro y Parthau Diogel.

 

Diolchodd y Cadeirydd i’r Swyddogion, yr Aelod Cabinet a’r Aelodau eraill am eu cyfraniad i’r cyfarfod. Dymunodd Nadolig Llawen i bawb gan ddweud ei fod yn edrych ymlaen at weld pawb yn y Flwyddyn Newydd.

 

 

 

 

 

 

 

Dogfennau ategol: