Cofnodion:
Daeth y Cynghorydd Alun Williams, Aelod Cabinet, i’r cyfarfod i roi’r
diweddaraf am y cynnydd a wnaed o ran y camau gweithredu a nodwyd yn y Cynllun Gweithredu
Sero Net. Roedd Bethan
Lloyd Davies a Lyndon Griffiths yn bresennol i ateb
unrhyw gwestiynau gan yr Aelodau.
Gwelwyd gostyngiadau mewn allyriadau ym mhob
maes gwasanaeth
yn ystod 2020/21, o gymharu â'r blynyddoedd
ariannol blaenorol. Roedd hyn yn
cyfateb i ostyngiad cronnol o 28.77% yn erbyn targed
o 15% rhwng 2017/18 a 2020/21.
Dywedwyd bod y gostyngiad mwyaf nodedig yn
ymwneud â milltiroedd busnes (teithio a wnaed gan staff yn eu cerbydau
eu hunain), sef gostyngiad o 71.96% o gymharu â'r
flwyddyn ariannol flaenorol. Gwariodd yr Awdurdod £1,322,919 yn llai ar
ynni yn 2020/21 nag a wnaeth yn 2019/2020.
Adroddwyd bod yr Awdurdod
wedi derbyn dau grant, a fyddai’n cael eu defnyddio
i ystyried y posibilrwydd o gynyddu’r seilwaith ar gyfer
gwefru cerbydau trydan yn y sir.
Roedd Cyngor Sir Ceredigion eisoes
yn caffael trydan ‘gwyrdd’ drwy’r contract trydan corfforaethol. Roedd lle
pellach i edrych ar gaffael nwy 'gwyrdd', yn ogystal â thanwyddau hylifol (e.e.
LPG neu fiodiesel). Er nad oedd llawer o fudd o ran y
ffigurau cyfrifyddu carbon, gellid ei ystyried yn arfer orau i sicrhau bod y
cyfleustodau rydym yn eu defnyddio yn dod o ffynonellau cynaliadwy 'gwyrdd'.
Roedd adolygiad asedau
tir a gynhaliwyd gan Wasanaeth Ynni
Llywodraeth Cymru wedi ystyried amrywiol
safleoedd ar gyfer ynni adnewyddadwy.
Roedd y rhain yn bennaf yn
destun cyfyngiadau sylweddol o ran y grid. Fodd bynnag, tynnodd hyn sylw at y ffaith
y byddai angen sicrhau bod y gosodiadau adnewyddadwy o faint digonol a
bod y lleoliadau'n cael eu dewis yn
ddibynnol ar eu gallu i
ddefnyddio'r ynni a gynhyrchir ar y safle.
Roedd maes parcio Canolfan Rheidol wedi'i nodi fel
lleoliad posib ar gyfer canopïau
solar ac roedd hyn yn cael ei
archwilio ar hyn o bryd.
Roedd ynni adnewyddadwy hefyd yn cael ei
gyflwyno fel mater o drefn fel rhan
o waith adnewyddu adeiladau a hefyd rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif. Fel rhan o’r
rhaglen, wrth ystyried adeiladu ysgolion newydd, bydd Cyngor Sir Ceredigion yn gweithio tuag
at ddatgarboneiddio ac adeiladau
sero-net. Roedd gan yr estyniad
newydd yn Ysgol Llwyn yr
Eos y potensial i ddod yn adeilad
sero-net cyntaf y Cyngor. Gosodwyd gwresogi o’r ddaear
a phaneli solar fel rhan o'r cynllun
a'r gobaith oedd y byddai hyn
yn gosod meincnod ar gyfer
gwaith adeiladu a fyddai’n cael ei
wneud gan yr awdurdod yn
y dyfodol.
Dywedodd y swyddogion
eu bod wrthi ar hyn o bryd
yn cyfrifo’r ôl-troed carbon yn ei gyfanrwydd a byddai’r wybodaeth honno ar gael pan fyddent yn rhoi’r diweddariad
nesaf.
Gofynnodd yr Aelodau nifer o gwestiynau ac atebwyd y cwestiynau hynny yn eu tro
gan yr Aelod
Cabinet a’r Swyddogion.
Cytunodd Aelodau’r
Pwyllgor nodi’r cynnydd a wnaed o ran y camau a amlinellir
yn y Cynllun Gweithredu Sero-net. Diolchodd y Cadeirydd i’r Swyddogion a'r Aelod Cabinet am gyflwyno’r wybodaeth.
Dogfennau ategol: