Cofnodion:
Daeth Chris Wilson a Gari
Jones i’r cyfarfod i roi gwybodaeth
i’r Pwyllgor am y gwaith o baratoi Mapiau Rhwydwaith Teithio Llesol. Cafodd y Pwyllgor wybodaeth am rwydwaith cynyddol yr Awdurdod
Priffyrdd Lleol o lwybrau a seilwaith Teithio Llesol a fyddai’n dod
o dan y Cynllun Rheoli Asedau Priffyrdd
(HAMP). Dywedwyd ei bod yn debygol y byddai
gan hyn oblygiadau
o ran sicrhau adnoddau ychwanegol ar gyfer
gwaith cynnal a chadw parhaus.
Byddai’r Aelodau'n ymwybodol fod Llywodraeth
Cymru, o dan ddarpariaethau'r Ddeddf, wedi pennu tair
ardal yng Ngheredigion fel 'Ardaloedd Dynodedig' ar gyfer teithio
llesol sef Aberystwyth, Aberteifi a Llanbedr Pont Steffan.
Roedd y gwaith o fonitro’r cynllun teithio llesol yn cael
ei adrodd i Lywodraeth Cymru
yn flynyddol ac yn cael ei
gyhoeddi ar wefan y Cyngor Sir.
Dywedodd y Swyddogion wrth y Pwyllgor fod y gwaith o ddatblygu ac adeiladu'r rhan fwyaf o gynlluniau
seilwaith teithio llesol yng Ngheredigion
yn cael ei
ariannu bron yn gyfan gwbl
gan geisiadau am grantiau cyfalaf Llywodraeth Cymru. Roedd yr arian yn dod yn bennaf
o’r Gronfa Teithio Llesol ac i raddau llai,
o’r grant Llwybrau Diogel mewn Cymunedau.
Dywedodd y Swyddogion mai un o amodau
arian grant Llywodraeth Cymru oedd bod yn rhaid i
gynlluniau gael eu dylunio a’u
hadeiladu yn unol â Chanllawiau Dylunio Teithio Llesol Llywodraeth Cymru.
Wrth ymateb i gwestiwn gan
un o’r Aelodau, cadarnhaodd y Swyddogion nad oedd Llywodraeth
Cymru yn clustnodi cymorth cyllid refeniw ar gyfer cynnal
a chadw seilwaith newydd ac mai un o amodau derbyn yr
arian grant cyfalaf oedd y byddai’r Cyngor Sir yn dod
yn gyfrifol am unrhyw gostau cynnal
a chadw yn y dyfodol. Dywedwyd y byddai goblygiadau amlwg felly ar gyllidebau’r gwasanaethau.
Roedd llwybrau newydd at ddibenion hamdden yn
bennaf a llwybrau y tu allan i'r tair ardal ddynodedig a'r dalgylch teithio
llesol, yn debygol o fod yn aflwyddiannus ac ni fyddent yn denu cyllid.
Mynegodd Aelodau’r Pwyllgor bryder ynglŷn â hyn am fod nifer o bentrefi a
threfi gwledig yng Ngheredigion.
Wrth ymateb i gwestiwn gan Aelod, cadarnhaodd y
Swyddogion fod perchnogion tir yn chwarae rhan fawr yn y broses a dywedwyd os na
fyddent yn rhoi eu caniatâd, ni fyddai modd i’r Cynllun Teithio Llesol fynd yn
ei flaen. Felly, roedd eu cydweithrediad yn hanfodol.
Gofynnodd
yr Aelodau nifer o gwestiynau ynglŷn â’r hyn a oedd o ddiddordeb iddynt ac
atebwyd y cwestiynau hynny gan y Swyddogion. Gofynnodd y Cadeirydd a fyddai
modd postio llythyron cyflwyno tir i berchnogion tir cynllun Rhiwgoch,
Aberaeron unwaith eto. Dywedodd un o’r swyddogion y byddai modd gwneud hynny.
Hefyd, gofynnodd y Cadeirydd fod hyn yn cael ei nodi yn y cofnodion.
Yn dilyn cais gan Aelod
o’r Pwyllgor, rhoddwyd sicrwydd y byddai’r swyddogion yn cysylltu â swyddogion
Sir Gaerfyrddin i ofyn a oedd ganddynt unrhyw fwriad o wella’r A484/B4333 rhwng
Castellnewydd Emlyn a Chaerfyrddin.
Yn dilyn trafodaeth hir, gofynnwyd i’r Aelodau
ystyried yr argymhelliad canlynol:
· Gofynnir i’r
Pwyllgor argymell bod y
Cabinet yn cymeradwyo’r adolygiad o’r Mapiau
Rhwydwaith Teithio Llesol a’r cyfrifoldebau
ychwanegol dros Reoli Asedau a’r
rhwydwaith Priffyrdd yn y dyfodol mewn
perthynas â’r ddarpariaeth Teithio Llesol.
Cytunodd yr Aelodau i argymell
bod y Cabinet yn cymeradwyo’r
adolygiad o’r Mapiau Rhwydwaith Teithio Llesol a’r cyfrifoldebau ychwanegol dros Reoli Asedau a’r
rhwydwaith Priffyrdd yn y dyfodol mewn
perthynas â’r ddarpariaeth Teithio Llesol.
Ymddiheurodd y Cynghorydd
Dafydd Edwards, Aelod Cabinet, am gyrraedd
y cyfarfod yn hwyr. Roedd wedi
bod i un o gyfarfodydd eraill y Cyngor.
Diolchodd y Cadeirydd i’r Swyddogion am y wybodaeth.
Dogfennau ategol: