Cofnodion:
Ystyriwyd yr Adroddiad Blynyddol am Ganmoliaeth, Cwynion a cheisiadau
Rhyddid Gwybodaeth – 2020/2021. Roedd yr adroddiad hwn yn darparu gwybodaeth ynghylch gwaith Gwasanaeth Cwynion a
Rhyddid Gwybodaeth y Cyngor rhwng 1 Ebrill 2020 a 31 Mawrth 2021. Rhoddwyd
manylion penodol am y nifer a’r math o gwynion a dderbyniwyd, camau gwahanol y
weithdrefn gwynion, perfformiad a chanlyniadau yn ymwneud â’r rhain, a
gwybodaeth am gydymffurfio â deddfwriaeth Rhyddid Gwybodaeth a Rheoliadau
Gwybodaeth Amgylcheddol. Roedd adran hefyd ar y cysylltiadau a dderbynnir gan
Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru yn ystod y cyfnod adrodd. Mae Llythyr Blynyddol
yr Ombwdsmon at y Cyngor yn darparu manylion pellach ar waith yr Ombwdsmon ar gyfer Ceredigion, yn ogystal ag ar gyfer Cynghorau eraill ar draws Cymru.
Dyma’r ail
adroddiad olynol lle na chafodd unrhyw ymchwiliadau eu cychwyn nac unrhyw adroddiadau
ffurfiol eu cyhoeddi gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru mewn perthynas
â chwynion a wnaed yn erbyn y Cyngor.
Er bod gwelliannau wedi cael eu gwneud o’i gymharu â’r blynyddoedd
blaenorol, mae’r adroddiad hwn hefyd yn tynnu sylw at yr heriau a wynebir gan y
Cyngor oherwydd y pandemig a swyddogion yn gorfod
addasu i ffyrdd newydd o weithio. Yn ogystal, yn ystod y cyfnod o dan sylw yn
yr adroddiad hwn, roedd pwysau sylweddol ar y Gwasanaeth Cwynion a Rhyddid
Gwybodaeth a gafodd effaith anochel ar ein gallu i weithredu yn unol â’r
amserlenni a bennwyd a’r amserlenni statudol.
Mae’r sefyllfa bresennol fel a ganlyn:
Trosolwg byr o’r ffigurau ar gyfer 2020 – 2021:
·
435 o ymholiadau wedi eu prosesu gan y Gwasanaeth Cwynion
a Rhyddid Gwybodaeth
·
103 o gwynion wedi eu derbyn (61 yng Ngham 1 a 42 yng
Ngham 2)
·
32 o ‘gysylltiadau’ gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus
Cymru
·
756 o geisiadau Rhyddid Gwybodaeth a Rheoliadau Gwybodaeth
Amgylcheddol
·
4 Adolygiad Mewnol o dan ddeddfwriaeth Rhyddid
Gwybodaeth/Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol
Darparwyd pigion y flwyddyn:-
Y meysydd i’w canolbwyntio arnynt oedd y canlynol:-
·
Gwella cydymffurfiaeth â’r amserlenni a bennwyd mewn
polisïau cwynion a Rhyddid Gwybodaeth/Rheoliadau
Gwybodaeth Amgylcheddol
·
Gwella’r system ar gyfer casglu sylwadau o ganmoliaeth a
data ar y gwersi a ddysgwyd
·
Parhau â dull agored, tryloyw sy’n canolbwyntio ar y
dinesydd ar gyfer datrys pryderon
Yn dilyn cwestiynau o’r llawr, CYTUNWYD
(i) nodi cynnwys yr adroddiad cyn ei gyflwyno gerbron cyfarfod o’r Cyngor ar 9
Rhagfyr 2021; a
(ii) Llongyfarch y Rheolwr Cwynion a Rhyddid
Gwybodaeth a’i thîm ar adroddiad gwych.
Dogfennau ategol: