Cofnodion:
Adroddodd y Swyddog
Arweiniol Corfforaethol – Pobl a Threfniadaeth y datblygwyd y ddau bolisi newydd hwn
gan y Gwasanaeth Pobl a Threfniadaeth ar y cyd â Phriffyrdd
a Gwasanaethau Amgylcheddol.
Ymgynghorwyd gyda’r Undebau Llafur perthnasol ar y ddau bolisi ac roedd eu diwygiadau
nhw wedi cael eu cynnwys
lle bo
hynny’n briodol.
Diben yr
holl bolisïau a gweithdrefnau staff yw nodi’n glir yr
ymddygiad, y prosesau a’r gweithdrefnau sy’n ofynnol gan
staff, sut y gallant gael cyngor neu gymorth,
a phan fo hynny’n berthnasol, canlyniadau peidio cydymffurfio â’r polisi a/neu’r
weithdrefn.
Mewn perthynas
â’r Polisi Gyrru yn y Gwaith
– Fflyd y Cyngor, adroddwyd
y cynhaliwyd adolygiad Rheoli Risg Fflyd
a Gyrwyr gan ymgynghorydd ar ran Zurich, cwmni yswiriant y Cyngor. Ei brif ddiben
oedd adolygu polisïau a threfniadau’r Cyngor yn erbyn safonau
arfer gorau, a darparu argymhellion sy’n cynorthwyo wrth sicrhau cydymffurfiaeth,
diogelu ein gweithlu rhag niwed
a lleihau’r risg o ddigwyddiadau.
Un o brif
argymhellion yr Adolygiad oedd cyflwyno Polisi Gyrru yn y Gwaith
gyda Chytundeb Gyrrwr yn rhan
ohono, sy’n cynnig “disgwyliad diamwys clir ynghylch
safonau gyrru”. Mae Polisi Gyrru yn
y Gwaith – Fflyd y Cyngor yn un o gyfres o fentrau sy’n ceisio
safoni gweithgarwch cofnodi a chydymffurfiaeth ar draws y fflyd cerbydau a sicrhau safonau gyrru sy’n
gwella diogelwch gyrwyr a theithwyr, nifer y digwyddiadau a’r damweiniau sy’n gysylltiedig â’r fflyd. Mae mentrau eraill yn cynnwys cyflwyno
modiwl e- ddysgu hyfforddiant ar gyfer gyrwyr a systemau archwilio cadarn ar gyfer
cerbydau a thrwyddedau.
Nodwyd bod y Polisi
Gyrru yn y Gwaith – Fflyd y Cyngor yn cyflwyno’r canlynol;
•Cytundeb Gyrrwr/Gweithredwr Peirianwaith i’w lofnodi bob blwyddyn;
•Y gofyniad i hysbysu
eu rheolwr o unrhyw newid i’w
hiechyd neu namau corfforol/synhwyraidd ac asesiad iechyd blynyddol
•Gydag achos,
sgrinio cyffuriau ac
alcohol
•Y cyflogai yn
talu cyfraniad o hyd at £250 at gostau dros-ben yswiriant yn dilyn gweithdrefn
ddisgyblu, os achosir y difrod o ganlyniad i’w hesgeulustod
nhw neu os
byddant wedi bod yn gyrru heb
ofal a sylw priodol
Mewn perthynas
â’r Polisi Gyrru yn y Gwaith
– Defnyddio Cerbyd Preifat (Fflyd Llwyd), nodwyd bod y Polisi’n nodi disgwyliadau
ar gyfer y cyflogeion hynny sy’n defnyddio eu cerbyd preifat
at ddibenion busnes y
Cyngor. Datblygir modiwl e-ddysgu hefyd i gyd-fynd â’r polisi.
Mae’r Polisi
Gyrru yn y Gwaith – Defnyddio Cerbyd Preifat (Fflyd Llwyd) yn
cyflwyno’r canlynol;
• Datganiad defnyddiwr
Cerbyd Preifat i’w lofnodi bob blwyddyn;
•Y gofyniad i hysbysu
eu rheolwr o unrhyw newid i’w
hamgylchiadau, y gallent effeithio ar
ddefnyddio cerbyd preifat at ddibenion gwaith
• Gydag achos,
sgrinio cyffuriau ac
alcohol
• Y cyflogai yn
cadarnhau bod eu cerbyd yn addas
i’r ffordd fawr, bod ganddo dystysgrif MOT (pan fo
hynny’n briodol) a’i fod wedi
cael ei yswirio’n
gywir at ddibenion busnes.
Yn dilyn
trafodaeth a chwestiynau o'r llawr, CYTUNWYD i
OHIRIO'r argymhelliad
i gymeradwyo'r polisi i'r Cabinet; er
mwyn ystyried y pwyntiau a godwyd gan y Cynghorwyr yn y cyfarfod, sy’n cynnwys y canlynol:-
•Mewn perthynas â'r amod
“bod yn rhaid i yrwyr sicrhau eu
bod nhw, a’r holl deithwyr, yn gwisgo gwregysau
diogelwch fel sy’n ofynnol gan
y gyfraith a pholisi’r
Cyngor "- Roedd yr Aelodau o'r farn
na ddylai hyn fod yn
gyfrifoldeb i'r gyrrwr, dylai gwisgo
gwregys diogelwch fod yn gyfrifoldeb
ar yr unigolyn;
ac y dylid diwygio'r polisi yn unol
â hynny;
•Y dylid rhoi
ystyriaeth bellach i’r amod “Efallai
y bydd cyflogeion y canfyddir eu bod wedi achosi difrod
i eitem o Fflyd y Cyngor, cerbyd trydydd parti neu eiddo
trwy esgeuluso neu yrru heb
ofal a sylw priodol, yn atebol,
yn dilyn gwrandawiad disgyblu, am swm o hyd at £250 fel cyfraniad i gostau dros-ben yswiriant.” Ym marn yr aelodau,
ni ddylai'r
cyflogai fod yn atebol i gyfrannu'r
£250.00 ond yn hytrach cael hyfforddiant,
rhybudd ysgrifenedig a chamau disgyblu os nad oedd
y cyflogai yn addas ar gyfer
y swydd dan sylw. Mater i'r Llys Ynadon oedd
penderfynu a oedd y cyflogai yn euog o'r
drosedd ac nid y Cyngor;
•Bod cyflogeion sy'n cario cleientiaid
fel teithwyr yn enwedig yn
ystod y nos yn eu ceir
preifat hefyd yn cael eu
cynnwys o fewn cwmpas y polisi (pwynt 3);
•Dylid ystyried
bod gyrwyr y fflyd yn cael hyfforddiant
gyrru uwch gan Y Gymdeithas Frenhinol er Atal Damweiniau (RoSPA), gan y gallai hyn
leihau’r premiwm yswiriant ar gyfer
yr awdurdod, cytunwyd y byddai'r argymhelliad hwn yn cael ei
basio ymlaen i Swyddog Arweiniol Corfforaethol – Priffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol sydd â chyfrifoldeb am fflyd cerbydau’r Cyngor;
•Yn dilyn
y gwelliannau a nodwyd, ac yn amodol ar
fewnbwn pellach gan yr Undebau
Llafur, y byddai'r Polisi'n cael ei
ailgyflwyno i'r Pwyllgor i'w ystyried
ymhellach
Dogfennau ategol: