Cofnodion:
Cyflwynodd y Rheolwr
Corfforaethol ar gyfer Gwasanaethau Democrataidd adroddiad i'r pwyllgor yn
disgrifio'r offer a'r cymorth a fydd yn cael eu darparu gan y Gwasanaeth
TGCh.
Cynigiwyd bod yr Aelodau
yn cael cynnig yr un ddarpariaeth â staff y cyngor, sef gliniadur Windows, sgrin
24” gyda gallu docio mewnol neu orsaf ddocio ar wahân gan ganiatáu i'r
gliniadur gael ei gysylltu ag un cebl, hefyd bysellfwrdd, llygoden, clustffon a
chês cario syml. Gosodir cyfeiriad
e-bost Ceredigion a chyfrif Office 365 a’r gallu i osod cymwysiadau ar hyd at
bump dyfais bersonol. Darperir cyfleusterau argraffu a sganio yn Ystafell yr
Aelodau a rhoddir mynediad i Wi-Fi yn holl swyddfeydd y cyngor. Bydd modd i Aelodau gael mynediad i e-bost a
ffeiliau Office o ddyfeisiau personol a ffonau symudol a rhoddir hyfforddiant
priodol ar ddiogelu data a’r dyfeisiau a roddir. Bydd cymorth TGCh gan y
desgiau gwasanaeth TGCh corfforaethol yn parhau.
Gofynnodd yr Aelodau a
allent brynu'r offer a ddefnyddir ganddynt ar hyn o bryd gan eu bod wedi bod yn
eu defnyddio at ddibenion eraill. Nodwyd
y byddai angen i bob Aelod ddychwelyd offer er mwyn glanhau’r cynnwys a’i
gyflwyno i rywun arall neu waredu ag ef yn unol â'r trefniadau corfforaethol
arferol ar gyfer adnewyddu offer. Esboniwyd mai'r rheswm am hyn yw bod offer a
thrwyddedau yn berchen i'r Cyngor, ond byddai TGCh yn gallu helpu Aelodau i
drosglwyddo gwybodaeth bersonol i ddyfeisiau eraill os oes angen.
Nododd yr Aelodau fod i-pads
yn ddefnyddiol wrth weithio yn y gymuned i dynnu lluniau o’r mater dan sylw neu
i ddangos dogfennau i drigolion. Gofynnodd yr Aelodau hefyd a ellid darparu 3G
a 4G ar y gliniadur. Dywedodd swyddogion y byddai modd tynnu lluniau ar ffôn
symudol sy'n gysylltiedig ag Office 365, ac nad oes slot ar gyfer cerdyn sim ar
y gliniaduron a roddir i staff. Fodd bynnag, gellid ymchwilio i hyn os mai dyna
ddymuniad yr Aelodau. Nododd yr Aelodau
eu bod weithiau'n mynychu cyfarfodydd o leoliadau gwahanol megis y car a’u bod
yn gallu colli pŵer neu gyswllt â'r we.
Nodwyd hefyd, os darperir gwybodaeth yn hwyr, nad oes cyfle o bosib i
fynd i'r swyddfa i'w argraffu.
Nodwyd bod Cadeiryddion
y Pwyllgorau wedi cael cyfarpar ychwanegol yn ystod y cyfnod clo er mwyn iddynt
weld cyfarfodydd dros zoom a darllen dogfennau ar fonitor ar wahân ar yr un
pryd. Ni fyddai hyn yn bosib gydag i-pad.
Nodwyd hefyd nad yw'r Aelodau yn gallu gweld newidiadau a farciwyd na chwaith
ddarnau a uwcholeuwyd mewn dogfennau a ddarllenir ar i-pad. Nododd swyddogion fod angen ‘rhesymoli’ gan
nad yw'n hyfyw yn ariannol i ddarparu popeth, a bod angen inni ystyried ein hôl
troed carbon. Nododd yr Aelodau bryder ynglŷn â'u golwg wrth ddarllen
dogfennau ar sgrin.
Hefyd gofynnodd yr
Aelodau am ragor o ddiogelu data wrth ddefnyddio offer TGCh personol ar gyfer
busnes y Cyngor. Nododd swyddogion y
byddai hyfforddiant yn cael ei ddarparu ar hyn.
Nodwyd hefyd, oherwydd yr anawsterau cyflenwi parhaus, y byddai angen gosod
archeb erbyn mis Ionawr er mwyn sicrhau bod offer ar gael i'r Aelodau erbyn mis
Mai 2022.
PENDERFYNODD y Pwyllgor argymell y dylid cynnal arolwg o'r holl Aelodau i gael eu barn ynglŷn ag offer TGCh at y dyfodol.
Dogfennau ategol: