Cynigydd: Cynghorydd Ifan
Davies
Eilydd: Cynghorydd Ray Quant
Noda’r Cyngor:
Mae’r Grŵp Annibynnol yn
gofyn i Gyngor Sir Ceredigion alw ar Lywodraeth Cymru ddeddfu fel y bydd:
1.
Unrhyw gymhorthdal a
geir yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol drwy unrhyw gynlluniau gan y llywodraeth
ar gyfer rheoli carbon:
a) Yn cael ei gadw fel credyd carbon er budd economi Cymru
a’r bobl,
b) a bod gan bob Sir enillion canrannol o unrhyw gredyd a
gynhyrchir yn y Sir dan sylw y gellir eu gosod yn erbyn gwasanaethau cyhoeddus
a nwyddau o’r Sir honno,
c) a hefyd, na ellir symbylu unrhyw werthiant neu les
trydydd parti ar gredyd carbon y tu allan i Gymru oni bai bod Cymru yn garbon
niwtral a lle y mae credyd o 10% dros ben.
Cofnodion:
Cynigydd: Y Cynghorydd Ifan Davies
Eilydd: Y Cynghorydd Ray Quant
Mae’r Cyngor yn nodi:
Mae’r Grŵp Annibynnol yn gofyn i Gyngor Sir
Ceredigion alw ar Lywodraeth Cymru ddeddfu fel y bydd:
1.
Unrhyw gymhorthdal a geir yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol drwy unrhyw
gynlluniau gan y llywodraeth ar gyfer rheoli carbon:
a)
Yn cael ei gadw fel credyd carbon er budd economi Cymru a’r bobl,
b)
a bod gan bob Sir enillion canrannol o unrhyw gredyd a gynhyrchir yn y Sir dan
sylw y gellir eu gosod yn erbyn gwasanaethau cyhoeddus a nwyddau o’r Sir honno,
c)
a hefyd, na ellir symbylu unrhyw werthiant neu les trydydd parti ar gredyd
carbon y tu allan i Gymru oni bai bod Cymru yn garbon niwtral a lle y mae
credyd o 10% dros ben.
Rhoddodd y Cynghorydd Ifan Davies amlinelliad o'r
sefyllfa bresennol gan nodi bod Llywodraeth Cymru wedi gosod targed i Gymru fod
yn garbon niwtral erbyn 2050 ac i'r sector cyhoeddus fod 95% yn garbon niwtral
erbyn diwedd y degawd. Nodwyd, fodd bynnag, bod argyfwng yng nghefn gwlad Cymru
ar hyn o bryd gan fod cwmnïau o wledydd eraill yn prynu ffermydd mewn ardaloedd
gwledig ac yn plannu coed ar y fferm gyfan er mwyn cael mynediad at y grantiau
rheoli carbon. Dywedodd y Cynghorydd Davies ei fod yn ymwybodol o bedair fferm
sydd wedi cael eu prynu yn ddiweddar at y diben hwn, tair yn Sir Gâr ac un yng
Ngheredigion.
Dywedodd y Cynghorydd Davies bod ffermwyr yn sylweddoli
bod angen plannu coed ar eu ffermydd. Maent yn cael eu plannu ar dir o ansawdd
gwael, ac mae gweddill y tir yn cael ei gadw ar gyfer cynhyrchu bwyd. Bydd y
datblygiad diweddar hwn yn effeithio ar ein cymuned, ein diwylliant a'n hiaith
Gymraeg. Ni fydd ein pobl ifanc yn gallu aros yma, a gellir cymharu hyn â boddi
Tryweryn. Nid yw Cymru ar werth ar gyfer credydau carbon.
Mae angen i ni dynnu sylw
Llywodraeth Cymru at y gwir berygl sy’n wynebu ardaloedd gwledig. Mae ein hôl
troed carbon yng Ngheredigion yn dda iawn, ond canlyniadau anfwriadol y polisi
yw, os caiff credydau eu trosglwyddo y tu allan i Gymru, na fyddwn yn gallu
cynhyrchu cig, llaeth, caws a chynhyrchion bwyd eraill a bydd yn rhaid i ni
fewnforio pethau o'r fath.
Nododd y Cynghorydd Ray Quant ei bod yn bleser eilio’r Cynnig
hwn, gan nodi bod hwn yn ddatganiad strategol lefel uchel i Lywodraeth Cymru ar
ran Cyngor Sir Ceredigion.
Yn ystod y drafodaeth, nododd yr Aelodau eu bod yn cefnogi'r Cynnig gan
nodi y gallai prynu credydau carbon gael ei ystyried yn ffordd i gorfforaethau
mawr ddadlwytho eu cyfrifoldebau, tra bod ein hunangynhaliaeth a'n gallu i
ddiwallu ein hanghenion ein hunain yn cael ei leihau. Nododd yr aelodau fod
Llywodraeth Cymru yn darparu grantiau i ffermwyr dyfu coed, a bod yr arian hwn
yn cael ei roi i'r corfforaethau mawr hyn. Nododd yr aelodau hefyd y gallai
credydau carbon dros ben ddenu busnesau i'r ardal. Nodwyd hefyd y gall Carbon
gael ei ddal yn effeithiol mewn tir, ac nad plannu coed ym mhobman yw'r unig
ateb.
Nododd y Cynghorydd Ellen ap Gwynn y byddai’n codi’r
mater hwn gyda Llywodraeth Cymru.
Yn dilyn pleidlais, PENDERFYNWYD yn unfrydol i gytuno ar y
cynnig fel y’i cyflwynwyd.
Dogfennau ategol: