Cofnodion:
Rhoddwyd ystyriaeth
i’r Adroddiad ar Anghenion Dysgu
Ychwanegol. Dywedwyd bod y cod newydd ar gyfer Anghenion
Dysgu Ychwanegol yng Nghymru wedi
ei gyhoeddi ym mis Mawrth
2021, gyda’r bwriad o roi’r system newydd ar waith o fis
Medi 2021. Fodd bynnag, roedd
y rhaglen weithredu wedi’i hadolygu oherwydd effaith y pandemig.
Rhoddwyd gwybodaeth
gefndir fanwl i’r strategaeth a chyflwynwyd nod yr ymagwedd newydd fel y mae
wedi ei nodi
yn y Cod.
Adroddwyd bod y cynllun gweithredu wedi
ei adolygu ymhellach gan y Gweinidog ym mis
Gorffennaf 2021, oherwydd effaith sylweddol y pandemig.
O’r 1af o Fedi
2021, byddai’r system ADY yn
dechrau ar gyfer plant o oedran ysgol gorfodol ac is yn unig:
• sydd newydd eu nodi fel
rhai sydd ag angen dysgu ychwanegol
(ADY) yn dilyn prosesau Cod ADY, waeth beth fo'u lleoliad
- gan gynnwys y rhai sydd o bosibl
yn cael darpariaeth
ysgol heblaw yn yr ysgol
(EOTAS), y sawl sydd mewn ysgol annibynnol
neu sy'n derbyn addysg ddewisol
yn y cartref;
• yn cael eu
cadw;
O’r 1af o Ionawr
2022, byddai’r system ADY yn
dechrau ar gyfer plant o oedran ysgol gorfodol ac yn is sydd:
• yn mynychu
ysgolion a gynhelir (gan gynnwys Unedau
Cyfeirio Disgyblion) ac sydd ym Mlynyddoedd
Meithrin 1 a 2 a Blwyddyn
1, Blwyddyn 3, Blwyddyn 5, Blwyddyn 7 a Blwyddyn 10) sydd â darpariaeth addysgol arbennig drwy weithredu yn y blynyddoedd cynnar / gweithredu blynyddoedd cynnar a mwy neu weithredu
gan yr ysgol
GY / gweithredu gan yr ysgol â mwy
GYM;
• Ni fyddai plant sydd â darpariaeth addysgol arbennig ar hyn
o bryd drwy ddatganiad, yn aros am asesiad AAA neu wrthi'n cael
asesiad AAA; na’r rhai sydd dros
oedran ysgol gorfodol yn cael
eu cynnwys yn y flwyddyn gyntaf
o weithredu.
• Byddai’r broses o symud plant i'r system newydd yn cael
ei gwasgaru dros y flwyddyn.
• Ni fyddai rhieni'n
gallu gofyn am symud i'r system newydd tan y 1af o Ionawr 2022
Nodwyd bod yr
Awdurdodau Lleol yn dal i aros am y canllawiau gweithredu tair blynedd terfynol. Disgwylir i’r canllawiau gael eu cyhoeddi yn gynnar
yn Nhymor yr Hydref. Roedd y ffaith bod oedi o ran y canllaw hwn yn
effeithio ar sicrwydd y cyngor yr oeddem yn
gallu ei gynnig i ysgolion,
yn ogystal ag effeithio ar y gwaith paratoi yr oeddem yn
gallu ei wneud gyda rhieni
ac asiantaethau cymorth.
O dan y system ADY newydd, roedd dyletswydd
ar awdurdodau lleol i adolygu'r trefniadau a wnaed gan ysgolion i ddiwallu anghenion dysgwyr ag ADY. Byddai’r canllawiau hyn yn amlinellu
egwyddorion a disgwyliadau Awdurdod Ceredigion ar gyfer addysgu plant a phobl ifanc ag
Anghenion Dysgu Ychwanegol. Roedd hefyd yn rhoi
eglurder ar yr hyn a ddisgwylir
gan ysgolion prif ffrwd Ceredigion, o ran diwallu anghenion dysgwyr ag ADY, a byddai’r awdurdod yn ei adolygu.
Byddai’r ddogfen hon yn rhan annatod
o fframwaith yr awdurdod ar gyfer
diwallu anghenion pob plentyn a pherson
ifanc rhwng 0 a 25 oed.
Roedd Ceredigion eisoes mewn sefyllfa
dda i weithredu llawer o egwyddorion y diwygiadau ADY newydd a darparwyd rhestr o’r rhain. Darparwyd rhestr hefyd o’r
risgiau a nodwyd yn sgil y newidiadau
hyn.
Byddai’r system ADY newydd yn gweithredu
ochr yn ochr
â'r system AAA, yn ystod y cyfnod gweithredu tair blynedd. Byddai adolygiad o'r cynllun
gweithredu a'r ddogfen egwyddorion a disgwyliadau yn cael ei darparu,
unwaith y byddai’r cynllun gweithredu terfynol a'r wybodaeth
wedi'u cadarnhau gan Lywodraeth Cymru.
Byddai dogfen
Egwyddorion a Disgwyliadau
Ceredigion yn cael ei chyflwyno i’r
Cabinet maes o law. Cododd Aelodau bryderon hefyd ynglŷn â’r ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi
nodi y byddai rhoi’r newidiadau hyn ar waith
yn gost niwtral,
fodd bynnag nid dyna oedd yr
achos oherwydd yr adnoddau ychwanegol
y byddai eu hangen.
CYTUNWYD i nodi’r sefyllfa bresennol a diolch i swyddogion am eu gwaith yn rhoi’r cod hwn ar waith.
Dogfennau ategol: