Cofnodion:
Cyflwynodd y Swyddog
Arweiniol Corfforaethol - Porth Cymorth Cynnar adroddiad i’r Pwyllgor a oedd yn
rhoi’r diweddaraf am y datblygiadau diweddar yn y gwasanaeth. Rhoddwyd gwybod
i’r Pwyllgor fod y Gwasanaeth wedi bod yn adolygu’r cynnydd o ran “Strategaeth
Gweithgareddau Chwaraeon a Hamdden 2014-2020” Ceredigion wrth baratoi ar gyfer
y gwaith o ddatblygu cynllun newydd a fydd yn weithredol o 2022-2027. Nodwyd
bod gwaith ymgysylltu cyhoeddus cychwynnol yn mynd rhagddo a fydd yn bwydo i’r
cynllun datblygu gan greu sail ar gyfer cam nesaf y broses ymgysylltu.
Canolfan Hamdden Llambed
fydd lleoliad Canolfan Llesiant gyntaf y Cyngor a fydd yn darparu ystod o
wasanaethau Gydol Oes i drigolion Llanbedr Pont Steffan a chanol y sir.
Bwriadwyd yn wreiddiol mai Plascrug fyddai’r ganolfan
gyntaf ond oherwydd bod Plascrug yn cael ei defnyddio
fel ysbyty maes roedd angen i'r Gwasanaeth ystyried datblygu Canolfan Llesiant
mewn rhan arall o'r sir. Ar y 1af o Ragfyr 2020, cymeradwyodd y Cabinet y
cynnig i ddatblygu Canolfan Llesiant yn Llanbedr Pont Steffan. Roedd y
Gwasanaeth yn awyddus i sicrhau na fyddai’r arian yn cael ei golli ac i’w
ddefnyddio mewn lle arall.
Mae costau dangosol yn
awgrymu y gall cyllid grant dalu am y costau adeiladu ond ni fydd y costau
terfynol yn hysbys hyd nes bod y broses dendro wedi digwydd. Rhagwelir y bydd y
gwaith adeiladu wedi’i gwblhau erbyn Mehefin / Gorffennaf 2022. Bydd y Ganolfan Hamdden ar gau yn ystod y
gwaith adeiladu ond cafwyd trafodaethau cadarnhaol gyda Phrifysgol Cymru y
Drindod Dewi Sant ynglŷn â defnyddio ar y cyd eu cyfleusterau chwaraeon
nhw yn ystod y cyfnod hwn.
Cododd yr Aelodau y pwyntiau canlynol:
·
Nododd yr Aelodau fod pryder wedi'i fynegi gan
dîm Pêl-rwyd Llewod Llambed ynglŷn â bod gostwng maint y Neuadd o bedwar i
dri chwrt badminton yn creu cwrt pêl-rwyd sy’n llai na chwrt maint llawn. Nododd y Swyddog fod llythyr wedi'i anfon at
Lewod Llambed ddydd Iau yn eu gwahodd i gyfarfod â'r Aelod Cabinet, y Swyddog
Arweiniol Corfforaethol a Rheolwr Corfforaethol Porth Cymorth Cynnar, ond nid
oes ymateb wedi dod i law hyd yma.
Nodwyd bod y Gwasanaeth wedi siarad â'r holl glybiau eraill sy'n
defnyddio'r Neuadd yn rheolaidd, ac ni chafwyd dim gwrthwynebiadau eraill. Nodwyd
bod gemau’r Gynghrair Pêl-rwyd yn cael eu cynnal yn Aberaeron a bod y cyrtiau
yn Llanbedr Pont Steffan yn cael eu defnyddio ar gyfer ymarfer yn unig. Bydd
cyfleusterau ymarfer yn parhau i gael eu darparu yn y neuadd. Mae dau gwrt
maint llawn arall ar gael yn yr awyr agored.
Nododd y Swyddog fod y Cyngor wrthi’n trafod gyda Phrifysgol Cymru y
Drindod Dewi Sant, Llanbedr Pont Steffan ynghylch rhannu eu cyfleusterau tra
bod gwaith adeiladu yn mynd rhagddo. Mae'r cwrt a ddarperir gan y Brifysgol yn
fwy ac yn 1 metr yn brin o faint cwrt pêl-rwyd safonol. Nodwyd bod Cymdeithas Pêl-rwyd Cymru hefyd yn
datblygu'r gamp i gynnwys Pêl-rwyd Cerdded, Pêl-rwyd Eistedd a Phêl-rwyd Tiny Tots a bydd
datblygu'r Canolfannau Lles yn hwyluso mwy o ddefnydd o'r ganolfan gan y
trigolion i gyd.
·
Gofynnodd yr Aelodau a oes canllawiau o ran maint
cyrtiau. Nododd swyddogion mai 4 cwrt badminton yw maint y neuaddau safonol,
ond mae rhai neuaddau'n llai, eraill yn fwy. Nid oes rheol gyfreithiol mewn
perthynas â hyn.
·
Gofynnodd yr Aelodau a fyddai'n bosib adeiladu
estyniad ar ochr yr adeilad yn hytrach nag aildrefnu'r cynllun tu fewn. Nododd
y Swyddog y gellir defnyddio'r grant a nodir i addasu asedau at ddefnydd
ehangach y gymuned, er mwyn ehangu'r defnydd posib a wneir o'r ased dan sylw,
felly nid yw hyn yn opsiwn. Nodwyd, os na chaiff yr arian grant ei wario, y
byddai'n cael ei golli.
·
Nododd yr Aelodau eu bod yn croesawu Canolfan
Llesiant ond nad oeddent am weld hyn yn digwydd ar draul y Neuadd Chwaraeon.
Gwnaethant hefyd dynnu sylw at yr angen i ymgynghori ag ieuenctid Ceredigion,
yn ogystal â'r henoed. Nododd y Swyddog
fod adolygiad a gynhaliwyd gan 'Just Solutions' yn
2018 wedi nodi nad oedd yr adeilad a'r ddarpariaeth ar y pryd yn gynaliadwy.
Bryd hynny, roedd trafodaethau wedi'u cynnal er mwyn ceisio diwallu anghenion
pawb, gan gynnwys anghenion pobl a theuluoedd bregus, a phenderfynwyd y gellid
trawsnewid y Canolfannau Hamdden yn Ganolfannau Llesiant i ddiwallu anghenion
trigolion Ceredigion. Mae'r Canolfannau
Llesiant yn rhan o strategaeth ehangach i wella'r ddarpariaeth ar gyfer pobl o
bob oed.
·
Nododd yr Aelodau mai ychydig o wybodaeth a
ddarparwyd ynglŷn â'r ailstrwythuro mewnol arfaethedig. Nododd y Swyddog fod datblygu'r Canolfannau
Llesiant yn rhan annatod o'r Rhaglen a’r Strategaeth Gydol Oes a Llesiant.
Rhannwyd y Strategaeth a'r Cynllun Gweithredu â’r Aelodau mewn cyfarfod Craffu
ddydd Gwener. Bydd yr Awdurdod Lleol yn ymgysylltu â'r gymuned er mwyn cynyddu
eu hymwybyddiaeth o'r Strategaeth a'r Cynllun Gweithredu.
·
Nododd yr Aelod Cabinet fod gwybodaeth am gyllid
a lleoliad y Ganolfan Llesiant gyntaf yn Llanbedr Pont Steffan wedi'i chyflwyno
i'r Cabinet ac na alwyd y mater i mewn bryd hynny.
·
Nododd Aelod fod pwyslais datblygiadau o'r fath
yn tueddu i fod ar y tair prif dref yng Ngheredigion a bod ardaloedd fel
Llandysul a Thregaron yn colli allan i'r trefi
hyn. Nododd y Swyddog y byddai
darpariaeth allgymorth a darpariaeth dros dro hefyd yn cael eu darparu mewn
lleoliadau eraill.
·
Gofynnodd yr Aelodau a fyddai angen caniatâd
cynllunio ar gyfer y gwaith ailstrwythuro ac a fyddai'r rheoliadau cynllunio
newydd - sy'n deillio o’r lefelau uchel o ffosffadau a geir yn Ardal Cadwraeth
Arbennig Afon Teifi - yn cyfyngu ar y datblygiad. Argymhellwyd bod cais cyn-cynllunio yn cael
ei gyflwyno.
·
Gofynnodd yr Aelodau a oedd y Gwasanaeth yn
ymgynghori gydag awdurdodau cyfagos ynghylch darpariaeth o'r fath. Cadarnhaodd y swyddogion fod hyn ar waith.
Nododd Cadeirydd y Pwyllgor y byddai'n cysylltu â thîm Pêl-rwyd Llewod Llambed
i roi gwybod iddynt fod dal cyfle ar gael iddynt drafod eu pryderon.
ARGYMHELLIAD:
Cytunodd yr Aelodau i argymell
y canlynol i'r Cabinet:
·
Bod y Pwyllgor yn parchu bod y penderfyniad ynghylch datblygu'r Canolfannau
Llesiant wedi'i wneud gan y Cabinet.
Fodd
bynnag, mae'r Pwyllgor yn argymell bod yr holl wybodaeth a ddarperir gan
Swyddogion i Aelodau'r Cabinet yn cael ei rhannu'n llawn gyda’r Aelodau
perthnasol. Hefyd mae'r Pwyllgor o'r farn ei bod yn bwysig fod gwybodaeth yn
cael ei rhannu â’r holl randdeiliaid, ac y cesglir eu
barn, pan fo'n briodol.
Dogfennau ategol: