Eitem Agenda

Trosolwg ar Wasanaethau Wardeniaid Cymunedol a Rheoli Plau

Cofnodion:

Rhoddodd y Rheolwr Safonau Masnach a Thrwyddedu, Perfformiad a Diogelu’r Cyhoedd, y wybodaeth ddiweddaraf i’r Pwyllgor Craffu am y materion y mae Gwasanaeth Wardeiniaid Cymunedol yr adran Diogelu’r Cyhoedd yn eu hwynebu, yn enwedig y Gwasanaeth Rheoli Plâu.

 

Nodwyd, ers mis Mawrth 2020, bod y Gwasanaeth Wardeiniaid Cymunedol wedi bod yn gweithredu gyda dim ond un Warden Cymunedol yn lle dau, gan roi blaenoriaethu i gwynion/ceisiadau ar sail eu risg i iechyd y cyhoedd.  O fis Medi 2021 ymlaen bydd y gwasanaeth yn dychwelyd i ddau swyddog llawn-amser.      

 

Data sy'n ymwneud â nifer y ceisiadau a gofnodwyd bob blwyddyn ers 2016.  Amlinellwyd dyletswydd statudol yr Awdurdod a nodwyd y bydd angen i'r awdurdod gael ei achredu o dan y cynllun SSIP er mwyn ailddechrau’r gwaith o roi abwyd mewn carthffosydd law yn llaw â Dŵr Cymru.   

 

Rhoddwyd amlinelliad hefyd o'r Gwasanaethau Rheoli Plâu ar Ffermydd a gynigir gan Gyngor Sir Ceredigion, hefyd am Wardeiniaid Cŵn a'r Gwasanaeth Gorfodi Baeddu gan Gŵn. Nodwyd bod pedwar swyddog dros dro wedi'u penodi dros yr haf gan ddefnyddio cyllid caledi Llywodraeth Cymru i sicrhau bod ymwelwyr yn ymweld â Cheredigion mewn modd diogel a chyfrifol.

 

Yn ogystal â chael achrediad SSIP, nodwyd bod y Gwasanaeth yn bwriadu creu Polisi newydd Rheoli Plâu yn nodi’r taliadau am wahanol wasanaethau rheoli plâu, gan ddiogelu o’r newydd y rhai sydd ar incwm isel neu’n aelwydydd bregus. Hefyd, bod y Gwasanaeth yn bwriadu ystyried ffyrdd eraill o gynyddu patrolau / gwaith gorfodi baw cŵn.

           

            Cododd yr Aelodau y pwyntiau canlynol:

·         Gofynnodd yr Aelodau a oedd tipio anghyfreithlon i mewn i ddraeniau yn bryder hefyd. Nododd swyddogion fod hyn yn berthnasol hefyd i fraster ac olew a bod deddfwriaeth wedi'i chyflwyno tua thair neu bedair blynedd yn ôl yn gwahardd peiriannau malu - macerators.

·         Nododd yr Aelodau eu bod wedi cael gwybod nad oedd gan swyddog ar ei ben ei hun yr hawl i godi clawr twll archwilio a gofynnwyd a ellid darparu offer i gynorthwyo gyda hyn. Nododd y swyddog mai eiddo Dŵr Cymru yw caeadau tyllau felly nid oes gan swyddogion awdurdod i godi'r rhain, ac mae angen achrediad SSIP er mwyn gwneud gwaith o'r fath.

·         Gofynnodd yr Aelodau a oedd yr ymosodiadau cynyddol gan gŵn ar ddefaid yn fater i'r Gwasanaeth hwn, gan nodi bod y cyhoedd yn cysylltu â'r Heddlu fel rheol ar faterion o'r fath.

·         Gofynnodd yr Aelodau a yw swyddogion sy'n trin gwenwyn yn cael archwiliadau iechyd yn rheolaidd.  Cadarnhaodd y swyddogion fod hyn yn arfer digwydd yn rheolaidd ac y byddai’n ailddechrau cyn bo hir.

·         Gofynnodd yr Aelodau ynghylch adnoddau staffio. Nododd y Swyddog fod yna ddau aelod o staff llawn-amser erbyn hyn ac y byddai hyn yn cael ei adolygu ar ôl ailgychwyn ar y gwaith gyda ffermydd a gwenyn ac ati.

·         Gofynnodd yr Aelodau am ein hawliau mewn perthynas â chŵn yn baeddu ar lwybrau cyhoeddus. Nododd y Swyddog mai'r her yw eu dal yn y weithred o wneud hynny.

·         Nododd yr Aelodau yr hoffent weld adroddiad yn disgrifio ffordd glir ymlaen o ran rheoli llygod yn hytrach nag adroddiad yn amlinellu'r sefyllfa.

 

Yn dilyn trafodaeth cytunwyd i:

Adolygu'r sefyllfa mewn 6 mis, a bod y Gwasanaeth yn darparu adroddiad manwl yn amlinellu'r incwm a gynhyrchir a ffordd glir ymlaen o ran ymdrin â'r materion y tynnwyd sylw atyn nhw yn yr adroddiad.

 

Dogfennau ategol: